Cyfres y Werin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 90: Llinell 90:
::Awdur: Loti, Pierre. Iaith wreiddiol: Frangeg. Cyfieithydd: Nathaniel H. Thomas 


::Awdur: Loti, Pierre. Iaith wreiddiol: Frangeg. Cyfieithydd: Nathaniel H. Thomas 


::Louis Marie Julien Viaud [Pierre Loti] (1850-1923). Swyddog yn y Llynges Ffrengig ac aelod o Academi Ffrainc oedd Louis Marie Julien Viaud, neu 'Pierre Loti', ei ffug-enw llenyddol. Perthyn ei waith i draddodiad ysgol Realaidd Ffrainc, tan arweiniad ffigyrau mor nodedig ag Emile Zola ac eraill. Canmolir yn fawr ei ddisgrifiadau o fyd natur, a'i ddefnydd o iaith seml i fynegi profiadau cymleth. Nofel am fywyd trist ond rhamantaidd pysgotwyr Llydewig yw Pêcheur d'Islande ydyw, a chawn ynddi eu hanes o deithio'n flynyddol i feysydd pysgota penfras Gwlad yr Iâ. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1866. Yn y gyfrol hon, ceir adran 'At y Darllenydd', lle cyfarcha Nathaniel H. Thomas ei gynulleidfa trwy esbonio pwt am hanes y nofel, a hanes y cyfieithu. Noda y bu i'r cyfieithiad ennill y wobr am gyfieithu yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl yn 1924. Dyfynnir beirniadaeth yr Athro Morgan Watkin, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn yr adran hon o'r gyfrol. Esbonia yntai fod i'r nofel safle hanfodol yn nhwf y genedl Gymreig, gan bod cyfieithu llenyddiaeth yn rhan annatod o fywyd llenyddol cenedl iach. Ymhelaetha ar y grefft o gyfieithu, a thrafodir hynny hefyd gan y cyfieithydd ei hun. Gobaith y beirniad oedd y byddai'r nofel yn ymddangos yn 'Cyfres y Werin' yn fuan wedi'r Eisteddfod, ond nid felly y bu. Fe'i hargraffwyd ac fe'i cyhoeddwyd yn hytrach gan Thomas a Parry, Cyf. Abertawe.
::Louis Marie Julien Viaud [Pierre Loti] (1850-1923). Swyddog yn y Llynges Ffrengig ac aelod o Academi Ffrainc oedd Louis Marie Julien Viaud, neu 'Pierre Loti', ei ffug-enw llenyddol. Perthyn ei waith i draddodiad ysgol Realaidd Ffrainc, tan arweiniad ffigyrau mor nodedig ag Emile Zola ac eraill. Canmolir yn fawr ei ddisgrifiadau o fyd natur, a'i ddefnydd o iaith seml i fynegi profiadau cymleth. Nofel am fywyd trist ond rhamantaidd pysgotwyr Llydewig yw Pêcheur d'Islande ydyw, a chawn ynddi eu hanes o deithio'n flynyddol i feysydd pysgota penfras Gwlad yr Iâ. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1866. Yn y gyfrol hon, ceir adran 'At y Darllenydd', lle cyfarcha Nathaniel H. Thomas ei gynulleidfa trwy esbonio pwt am hanes y nofel, a hanes y cyfieithu. Noda y bu i'r cyfieithiad ennill y wobr am gyfieithu yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl yn 1924. Dyfynnir beirniadaeth yr Athro Morgan Watkin, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn yr adran hon o'r gyfrol. Esbonia yntai fod i'r nofel safle hanfodol yn nhwf y genedl Gymreig, gan bod cyfieithu llenyddiaeth yn rhan annatod o fywyd llenyddol cenedl iach. Ymhelaetha ar y grefft o gyfieithu, a thrafodir hynny hefyd gan y cyfieithydd ei hun. Gobaith y beirniad oedd y byddai'r nofel yn ymddangos yn 'Cyfres y Werin' yn fuan wedi'r Eisteddfod, ond nid felly y bu. Fe'i hargraffwyd ac fe'i cyhoeddwyd yn hytrach gan Thomas a Parry, Cyf. Abertawe.

== Hefyd ==
== Hefyd ==

Fersiwn yn ôl 18:18, 21 Mawrth 2021

Un o lyfrau 'Cyfres y Werin' - Cyfieithiad T Gwyn Jones o 'Faust' gan Goethe, 1922
Delwedd:Faust Goethe cyfieithiad T Gwyn Jones 1922.jpg
Tudalennau o gyfieithiad Faust gan T Gwyn Hughes, Cyfres y Werin, 1922

Roedd Cyfres y Werin yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd yn y 1920au a’r 1930au.

Sefydlwyd y gyfres yn wreiddiol o dan olygyddiaeth Ifor L Evans ac Henry Lewis, Cwmni Cyhoeddi Addysgol, Caerdydd. Roedd y llyfrau’n gyfieithiadau i Gymraeg o waith llenyddol clasurol fel Descartes, Henrik Ibsen, Molière, Schiller a Goethe, gan ysgolheigion mawr y cyfnod fel: T.H. Parry-Williams, T Gwyn Jones, WM. Ambrose Bebb a Saunders Lewis.

Roedd hefyd cyfieithiadau o straeon byrion o Iwerddon a Tsiecoslofacia - ddwy wlad oedd newid ennill eu hannibyniaeth wleidyddol ac yn ceisio ail-adfer eu hieithoedd a llenyddiaeth, rhywbeth a oedd hefyd o ddiddordeb mawr i fyd llenyddol Cymraeg y cyfnod.

Llyfrau Cyfres y Werin

Blodeuglwm o Englynion - W. J. Gruffydd, Cyfres y Gwerin 1, 1920

Englynion wedi’i dethol a’i golygu gan W. J. Gruffydd.
Yna caed Blodeuglwm o englynion [1920], gyda rhagymadrodd yn egluro damcaniaeth John Rhys mai o'r cwpled elegeiog Lladin y tarddodd yr englyn unodl union (yn groes i farn J. Morris-Jones yn Cerdd Dafod).


Dychweledigion (Gjengangere) Cyfres y Werin 2, 1920

Awdur: Henrik Ibsen (1828-1906). Iaith wreiddiol: Norwyeg. Cyfieithydd T Gwyn Jones
Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn gan T. Gwynn Jones o'r ddrama Norwyeg wreiddiol 'Gjengangere' gan Henrik Ibsen fel rhan o Gyfres y Werin (hon yw'r ail gyfrol yn y gyfres honno). Nodir yn y pwt agoriadol 'At werin Cymru' ym mlaen y gyfrol y bwriedir, gyda'r gyfres hon, i ddysgu, helpu, diddanu trigolion Cymru. Eir ati yn y gyfres, felly, i gyfieithu rhai o brif glasuron Ewrop, fel "y gwelo gwerin Cymru pa beth y mae'r byd yn ei feddwl". Yn y 'Rhagair' i'r gyfrol hon, hefyd ym mlaen y gyfrol, sonia'r cyfieithydd bwt am hanes y dramodydd. Pwysleisia mai prif syniad dysgeidiaeth Ibsen oedd Gonestrwydd - "dengys, gydag effaith ofnadwy, fel y mae ofni'r gwir a cheisio'i guddio, hyn yn oed gydag amcan da ac yn enw dyletswydd, yn magu celwydd, rhagrith, ac anfoesoldeb." Sonia hefyd am ei ddewis o deitl i'w gyfieithiad yn yr adran 'Dychweledigion'. Esbonia fod y teitl gwreiddiol yn y Norwyeg yn diffinio ysbrydion neu ddrychiolaethau wedi'u dychwelyd sy'n cerdded eu hen lwybrau ar hyd y byd. Ceisio cyfleu yr ystyr hwnnw, yn hytrach na'r ystyr mwy cyffredin a briodolid i'r gair yn y cyfnod hwnnw, sef "y sawl sydd wedi troi at grefydd", oedd ei amcan wrth ddewis y gair. Gwell ganddo'r gair hwnnw na thermau fel 'ysbrydion' neu 'ddrychiolaethau' i fynegi, yn y Gymraeg, yr hyn a olygir yn y Norwyeg gyda'r gair "gjengangere". Cyhoeddwyd y gyfrol gan William Lewis, Caerdydd.


Y Marchog (Straeon byrion de Maupassant) Cyfres y Werin 3, 1920

Awdur: Guy de Maupassant (1850-1893). Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Gwenda Gruffydd


Y Wers Olaf (La Dernière Classe) Cyfres y Werin 4, 1921

Awdur: Alphonse Daudet, Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Moelona - Elizabeth (Lizzie) Mary Jones


Brenin yr Ellyllon Cyfres y Werin 5, 1921

Awdur: Nicolas Gogol (1809-1952). Iaith wreiddiol: Rwsieg. Cyfieithwyr: Gwilym Aneurin Tudor Davies ac Henry Lewis
Roedd Nicolas Gogol yn ddyn oedd a'i feddwl wedi cael ei drwytho â chwedloniaeth ac â cherddi nwyfus gwladgarol ei genedl. Darn o lên gwerin yr Iwcrain yw'r stori ramantus a gyfieithir yma. Y mae manylder y disgrifiad o Athrofa Kiev yn ernes go sicr o'i gariad at brifddinas ei wlad.\


Ystorïau Bohemia Cyfres y Werin 6, 1922

Awduron: Vrchlický,Yaroslav, Neruda, Jan, Cech,Svatopluk. Ieithoedd gwreiddiol: Almaeneg/Tsieceg. Cyfieithydd: T.H. Parry-Williams
Fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg gan T. H. Parry-Williams o gyfieithiad Almaeneg o'r Tsieceg (neu 'Iaith Bohemia', fel y'i gelwir hi gan Parry-Williams) gwreiddiol. Fodd bynnag, ni cheir cyfeiriad at y cyfieithydd Almaeneg gwreiddiol yn y gyfrol. Ceir pwt o ragair gan y cyfieithydd (t. xi) a 'Rhagymadrodd' gan Ifor L. Evans (tt.xiii-xv) lle canmolir 'cenedl y Tsieciaid' yn fawr, a lle cyfeirir at eu hanes fel un a fyddai o ddiddordeb mawr i 'bob Cymro Cymreig'. Yn y 'Rhagymadrodd' hwn ceir hefyd fywgraffiadau byrion o'r awduron yn y gyfrol, a chymherir eu hanes â'u gwaith llenyddol.


Geiriau Credadyn (Paroles d'un Croyant) Cyfres y Werin 7, 1923


Awdur: Lamennais. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: WM. Ambrose Bebb
Félicite Robert de La Mennais [Lamennais] (1782-1854). Cyhoeddwyd y 'Geiriau Credadun' yn wreiddiol yn y flwyddyn 1833 gan Lydäwr o'r enw Hugues Félicite Robert de La Mennais (Lamennais), gwr yn orlawn o ramant Celt, wedi'i ddonio'n helaeth â dychymyg byw. Fel y dywed yn y 'Rhagymadrodd' (t.vii-ix), 'llyfr datguddiad ydyw, wedi ei ysgrifennu yn adnodau bychain yn swynol a deiniadol, yn feiddgar a mwyn, yn dawel a difrifol, yn llawn angerdd a brwdfrydedd enaid glan'. Mae ysbryd gwerinol ac efengylaidd i'r llyfr, lle mae Lamennais yn broffwyd mawr o ddyfodol gwell. Nid yw'r cyfieithydd yn teimlo'r angen i gyfiawnhau ei resymau dros gyfieithu'r llyfr hwn, gan iddo fynegi mai trueni fyddai pe na châi gwerin Cymru ddarllen y gwaith, gan y byddai'n sicr yn cyfoethogi'u meddyliau.


Y Cybydd (L'avare) Cyfres y Werin 8, 1921


Awdur: Molière. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Rees, Ifor L


Jean-Baptise Poquelin [Molière] (1622-1673). Yn y 'Rhagymadrodd'(t.vii - t.xii) ceir ychydig o nodiadau am hanes bywyd yr awdur gwreiddiol. Cyfres y Werin: 8. Roedd Molière yn adnabyddus iawn am eu ddramâu comedi, a dyma a geir yma. Mae wedi ei hysgrifennu mewn rhyddiaith a ceir yma wrth-gyferbyniad gref rhwng cybydd-dod a chariad: rhwng trachwant am arian a phob teimlad dynol, gan gynnwys hyd yn oed y rhai mwyaf elfennol, megis cariad tad at ei blant. Efallai bod y nodweddion hyn wedi cyfrannu at amhoblogrwydd y ddrama yng nghyfnod Molière ei hun. Ceisiwyd cadw mor agos ag oedd yn bosibl at y testun gwreiddiol wrth gyfieithu 'Y Cybydd' i'r Gymraeg. Cyhoeddwyd y ddrama wreiddiol yn y flwyddyn 1668.


Awen y Gwyddyl Cyfres y Werin 9, 1923

Cyfres o gyfieithiadau barddonol. Iaith wreiddiol: Gwyddeleg. Cyfieithydd: T Gwyn Jones
Ceir 'Rhagair y Golygyddion', lle traetha'r Golygyddion am y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon fel dwy wlad Geltaidd. Trafodant hanes llenyddol Iwerddon, ei safle yn Ewrop dros y canrifoedd, a'i hannibynniaeth yn 20au'r ugeinfed ganrif. Yn ei 'Ragymadrodd' rhydd T. Gwynn Jones drosolwg inni o hanes llenyddiaeth Wyddeleg Iwerddon, o gyfnod yr Hen Wyddeleg i waith beirdd cyfoes â'r cyfieithydd. Mae'r casgliad o gyfieithiadau barddonol yng ngweddill y llyfr yn adlewyrchol o ystod y rhagymadrodd hwn. Daw'r cerddi o'r 'Imram Brain mac Febail', y 'Tochmairc Etáine', ac o'r 'Serglige Conculaind', rhai caneuon am Deirdre, darn o'r 'Reicne Fothad Canainne', cerddi gan Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Maoilín Óg Mac Bruaideadha, Baothghalach Ruadh Mac Aodhagáin, Muireachadh Albanach Ó Dálaigh, Bonaventura Ó hEoghusa, Columcille, Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Toirdhealbhach Óg Mac Donnchadha, Michael Comyn, Macphearson, Maghnus Ó Domhnaill, Pádraigin Haicéad, Brian Mac Conmara, Liam Inglis, Douglas Hyde, Tadhg Ó Donnhadha, Pádraic Mac Piarais, Piaras Béaslaí, Peadar Ó h-Annracháin, Osborn J. Bergin, ac hefyd darnau o 'Agallamh Oisín agus Phádraig', 'Diarmad' ac 'Osian'.


Traethawd ar y Drefn Wyddonol (Discours de la Méthode) Cyfres y Werin 10, 1923


Awdur: Descartes, René. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: D. Miall Edwards
René Descartes (1596-1650). Ysgrifennwyd y traethawd hwn gan René Descartes, un o brif arloeswr athroniaeth ddiweddar, yn y flwyddyn 1637, ac edrychir ar y 'Discours de la Méthode' fel clasur bwysig ym myd llenyddiaeth athronyddol. Nid traethawd trefnus na chyfundrefnol mewn athroniaeth mo'r llyfr hwn, eithr math ar hunangofiant meddyliol, rhyw fath o 'Daith y Pererin' ym myd ymchwil wyddonol ac athronyddol. Ceir yma gofnod o dwf meddwl a phrofiad yr awdur, a hynny'n ymgais gonest a thrylwyr i ddarganfod seiliau sicr i wybodaeth o'r gwirionedd am y byd, am ddyn ac am Dduw. Mae'n draethawd swmpus iawn, ac mae modd ei rannu'n chwe adran, sef: Amryw ystyriaethau parthed y gwyddorau, Prif reolau'r Drefn a ddarganfu'r awdur, Rheolau moesoldeb, Rhesymau i brofi bodolaeth Duw ac enaid dynol, Cwestiynau mewn anianeg, Credoau'r yr awdur, a pha resymau a barodd iddo ysgrifennu. Penderfynodd D. Miall Edwards gyfieithu'r darn hwn o waith, 'oblegid os yw Cymru am wynebu'r broblem athronyddol o ddifrif, ni all ddechreu'n well na thrwy fyned yn ôl at darddell athroniaeth y canrifoedd diweddaf yn Descartes.


Faust Cyfres y Werin, Rhif 11, 1923

Awdur: Johann Wolfgang von Goethe. Cyfieithwyd gan T Gwynn Jones


Gwilym Tel (Wilhelm Tell) Cyfres y Werin 12, 1924


Awdur: Schiller, Johann Cristoph Friedrich Von. Iaith wreiddiol: Almaeneg. Cyfieithydd: Elfed
Johann Christoph Friedrich von Schiller (1295-1805). Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar saethwr dawnus o'r Swistir, Gwilym Tel (William Tell). Cyfres y Werin: 12. Yn gefndir i'r cyfan y mae'r frwydr am annibyniaeth yn erbyn yr Ymerodraeth Habsburg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Rhydd y ddrama hon syniad da am oes ei chyfansoddi ac am y genedl y perthyn ei hawdur iddi. Yn y 'Rhagymadrodd' (t.vii - t.ix), nodir, er ei fod yn waith ar ffurf drama, ac er gwaetha'i ragoriaeth arbennig yn y ffurf honno, gellir dadlau bod y gwaith hwn, ar lawer cyfrif, yn debycach i epig nac ydyw i ddrama gonfensiynol. Ceir yn y ddrama, arwrgerdd genedigaeth cenedl, ac nid yw hanes Tel ei hun namyn episôd ar y ffordd. Serch hyn, er mor wych yw'r hanes, nid oes sicrwydd y bu erioed y fath ddyn â Gwilym Tel. Ymddangosodd cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama hon mewn rhannau yn 'Cyfaill yr Aelwyd.' Ysgrifennwyd y ddrama'n wreiddiol rhwng 1803 ac 1804.


Doctor ar ei Waethaf (Le Médecin malgre lui) Cyfres y Werin 13, 1924 
::Awdur: Molière. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Saundes Lewis

Jean-Baptise Poquelin [Molière] (1622-1673). Drama gomedi ysgafn a gyfieithwyd i gan Saunders Lewis. Fe'i hysgrifennu'n wreiddiol yn y flwyddyn 1666. Yn fras, drama ydyw am gymeriad o'r enw Sganarelle, sy'n drafferth parhaus i'w wraig a'i deulu oherwydd ei broblem ag alcohol. Gan hynny, penderfyna ei wraig chwarae tric arno. Penderfyna logi 3 o weision oedd yn gweithio i deulu cyfoethog. rhaid oedd iddynt hwythau ddweud eu bod angen meddyg ar frys. Dywedodd gwraig Sganarelle mai ef oedd meddyg gorau'r wlad, ac er ei fod yn dorrwr coed â phroblem alcoholiaeth, mae'n derbyn y dasg o'i flaen yn hapus. Erbyn diwedd y ddrama, mae Sganarelle yn byw bywyd dedwydd y doctor cyfoethog, llwyddiannus, ar ôl ambell i anffawd! Meddai Saunders yn ei esboniad o'r cyfieithiad (t. 35-36), 'tasg y dramodydd yw sgrifennu Cymraeg llenyddol nad yw ddim yn Gymraeg llyfr.'


Traethodau’r Digwydddiad, 1520 (Luther) Cyfres y Werin 14, 1923

Awdiur: Martin Luther, Ieithoedd gwreiddiol: Almaeneg/Lladin, Cyfieithydd: J Morgan Jones


Blodau o Hen Ardd - Epigramau Greog a Lladin. Cyfres y Werin 15

Awdur: H J Rose. Ieithoedd gwreiddiol: Groeg/Lladin, Cyfieithydd: T Gwyn Jones
Blodau o Hen Ardd: Epigramau Groeg a Lladin. Detholwyd, gyda rhagymadrodd a nodiadau gan H. J. Rose. Troswyd i fydr Cymraeg gan T. G. Jones


Y Briodas Orfod (Le Mariage forcé) Cyfres y Werin Rhif ?, 1926

Awdur: Molière. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Nathaniel H. Thomas
Jean-Baptise Poquelin [Molière] (1622-1673). Drama gomedi ag iddi nodweddion hunangofiannol yr awdur. Darlunnir, yn llym, hunanoldeb dynion, dichell a chreulondeb merched a balchder. Gwisgir y rhain â ffraethineb iaith sy'n datguddio'n ddidrugaredd gymeriadau'r gwahanol bersonau a cheir symudiad bywiog a doniol i'r ddrama. Drama ydyw am wr 53 mlwydd oed oedd yn barod i briodi merch ifanc, ond wrth i nifer o bethau gael eu datgelu, mae'n ailystyried ei gynllun. Cawn ynddi ymdriniaeth o nifer o themâu cyfoes, fel y modd yr ymdrinir â thramorwyr, a chwestiynau mawrion bywyd. Nodweddir trosiad Nathaniel H. Thomas o'r ddrama i'r Gymraeg gan iaith ddoniol a llithrig.


Pysgotwr Ynys yr Iâ (Pêcheur d'Islande) Cyfres y Werin Rhif?, 1927


Awdur: Loti, Pierre. Iaith wreiddiol: Frangeg. Cyfieithydd: Nathaniel H. Thomas 


Louis Marie Julien Viaud [Pierre Loti] (1850-1923). Swyddog yn y Llynges Ffrengig ac aelod o Academi Ffrainc oedd Louis Marie Julien Viaud, neu 'Pierre Loti', ei ffug-enw llenyddol. Perthyn ei waith i draddodiad ysgol Realaidd Ffrainc, tan arweiniad ffigyrau mor nodedig ag Emile Zola ac eraill. Canmolir yn fawr ei ddisgrifiadau o fyd natur, a'i ddefnydd o iaith seml i fynegi profiadau cymleth. Nofel am fywyd trist ond rhamantaidd pysgotwyr Llydewig yw Pêcheur d'Islande ydyw, a chawn ynddi eu hanes o deithio'n flynyddol i feysydd pysgota penfras Gwlad yr Iâ. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1866. Yn y gyfrol hon, ceir adran 'At y Darllenydd', lle cyfarcha Nathaniel H. Thomas ei gynulleidfa trwy esbonio pwt am hanes y nofel, a hanes y cyfieithu. Noda y bu i'r cyfieithiad ennill y wobr am gyfieithu yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl yn 1924. Dyfynnir beirniadaeth yr Athro Morgan Watkin, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn yr adran hon o'r gyfrol. Esbonia yntai fod i'r nofel safle hanfodol yn nhwf y genedl Gymreig, gan bod cyfieithu llenyddiaeth yn rhan annatod o fywyd llenyddol cenedl iach. Ymhelaetha ar y grefft o gyfieithu, a thrafodir hynny hefyd gan y cyfieithydd ei hun. Gobaith y beirniad oedd y byddai'r nofel yn ymddangos yn 'Cyfres y Werin' yn fuan wedi'r Eisteddfod, ond nid felly y bu. Fe'i hargraffwyd ac fe'i cyhoeddwyd yn hytrach gan Thomas a Parry, Cyf. Abertawe.


Hefyd

Detholion o'r Decameron (O bosib yn rhan o 'Cyfres y Werin'?)

Awdur: Boccaccio, Giovanni. Cyfieithiad T Gwynfor Grifffith a Gwynfor Griffith,
Detholion o'r Decameron. Cyfieithiad, rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1951)


Romeo a Jiwlia'r Pentref (Romeo und Julia dem Dorfe) O bosib yn rhan o 'Cyfres y werin, 1954 
::Awdur: Keller, Gottfried. Iaith wreiddiol: Almaeneg. Cyfieithydd: T. Pugh Williams

Gottfried Keller (1819-1890). Yma, mae'r awdur wedi cymryd stori enwog a oedd yn adnabyddus iawn yn ei hoes a'i gosod mewn cyd-destun gwahanol. Lleolir y stori mewn pentref, nid nepell o dref fechan Seldwya yn y Swistir. Ceir yma hanes gelyniaeth y tadau yn difetha serch a bywyd eu plant. Os nad yw'r unig fywyd sydd yn bosibl iddynt yn gytûn â'u hymdeimlad greddfol o'r hyn y dylai bywyd fod yna byddai'n well ganddynt ei golli. Fel yr eglura yn y 'Rhagymadrodd' (t.5 - t.12), 'y mae gan y plant, yma, weledigaeth glir a real o beth a ddylai eu bywyd fod; ac o'r ffaith nad ydynt am ildio eu gweledigaeth y daw y disgleirdeb a'r tynerwch, yr ymdeimlad o fuddugoliaeth sydd yn nodweddiadol o'r stori ac yn creu ar ei diwedd y catharsis y mae trasiedi bob amser yn ei gynhyrchu'. Un o'r 'novellen' a gynhwysir yn y cylch 'Pobl Seldwya' yw Romeo a Julia'r Pentref.

Cyfeiriadau