Robert Fitzhamon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth }} |
|||
Arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] a gymerodd feddiant o [[Teyrnas Morgannwg|deyrnas Morgannwg]] oedd '''Robert Fitzhamon''' neu '''Robert Fitz Hammo''' (bu farw Mawrth [[1107]]). |
Arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] a gymerodd feddiant o [[Teyrnas Morgannwg|deyrnas Morgannwg]] oedd '''Robert Fitzhamon''' neu '''Robert Fitz Hammo''' (bu farw Mawrth [[1107]]). |
||
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:26, 20 Mawrth 2021
Robert Fitzhamon | |
---|---|
Ganwyd | 1070 Caerloyw |
Bu farw | 1107 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | marchog |
Tad | Haimo |
Mam | Q62059609 |
Priod | Sibyl o Drefaldwyn |
Plant | Mabel Fitzrobert o Gaerloyw |
Arglwydd Normanaidd a gymerodd feddiant o deyrnas Morgannwg oedd Robert Fitzhamon neu Robert Fitz Hammo (bu farw Mawrth 1107).
Roedd Fitzhamon yn berthynas i Gwilym Goncwerwr. Ceir y cofnod cyntaf amdano fel un o gefnogwyr Gwilym II, brenin Lloegr yn ystod gwrthryfel 1088. Wedi gorchfygu'r gwrthryfel, gwobrwywyd ef a thiriogaethau eang yn Swydd Gaerloyw.
Nid oes sicrwydd sut y cafodd feddiant ar deyrnas Morgannwg; yn ôl rhai hanesion, galwodd Iestyn ap Gwrgant, brenin Morgannwg, ef i mewn i'w gynorthwyo yn erbyn Einion ap Collwyn, neu yn ôl stori arall, yn erbyn Rhys ap Tewdwr. Manteisiodd Robert ar hyn i gipio iseldiroedd Morgannwg, rywbryd rhwng 1089 a 1094. Castell Caerdydd oedd ei brif gaer.
Ail-sefydlodd Abaty Tewkesbury yn 1092. Cymerwyd ef yn garcharor yn Normandi ger Bayeux yn 1105. Llwyddodd y brenin Harri I i'w ryddhau, ac aethant ymlaen i warchae ar Falaise. Clwyfwyd Fitzhamon yn ei ben yn ddifrifol yno, a bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach.