Glyder Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
enw
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
| maint_darlun =200px
| maint_darlun =200px
| caption =Creigiau ger Castell y Gwynt ger copa'r Glyder Fawr
| caption =Creigiau ger Castell y Gwynt ger copa'r Glyder Fawr
| uchder =999m
| uchder =999m / 3279 troedfedd
| gwlad =Cymru
| gwlad =Cymru
}}
}}

Fersiwn yn ôl 21:28, 10 Chwefror 2007

Glyder Fawr
Glyderau
Creigiau ger Castell y Gwynt ger copa'r Glyder Fawr
Llun Creigiau ger Castell y Gwynt ger copa'r Glyder Fawr
Uchder 999m / 3279 troedfedd
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru


Mae'r Glyder Fawr yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau, er ei fod un medr yn fyr o fod yn gopa 1,000 medr o uchder. Ceir creigiau mawr ar y copa, yn arbennig y casgliad o greigiau a elwir yn "Castell y Gwynt".

Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Llyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r chwith yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i'r Glyder Fach. Gellir dringo'r mynydd o Pen-y-Pass hefyd, neu gellir dringo Tryfan gyntaf ac yna dilyn y grib i'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr, ond mae'r llwybr yma'n anoddach.

Yn ôl Syr Ifor Williams, "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".

External link