William Chambers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
→‎top: Nodyn:Person using AWB
 
Llinell 1: Llinell 1:
{{Person
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| onlysourced=no

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:12, 19 Mawrth 2021

William Chambers
Ganwyd1774 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw9 Chwefror 1855 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwydiannwr Edit this on Wikidata
PlantWilliam Chambers Edit this on Wikidata

Diwydiannwr a gŵr cyhoeddus oedd William Chambers (17749 Chwefror 1855).

Ganwyd ef yn Llundain, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt o 1792, lle cafodd radd BA yn 1795 ac MA yn 1800. Trwy garedigrwydd neu gysylltiadau teuluol, etifeddodd William ystâd Syr John Stepney, De Cymru, ar 18 Rhagfyr 1824, a daeth i fyw i Blas Llanelli, yn agos at eglwys y plwyf. Erbyn 1828, ef oedd uchel Siryf Sir Gaerfyrddin, a chyda cyd-weithrediad ei fab William Chambers yr ieuaf (1809–1882), profodd lwyddiant sylweddol o fewn diwydiant, drwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840 gyda $10,000. Bu farw ar 9 Chwefror 1855 yn Llanelli.

William Chambers yr ieuaf, ei fab[golygu | golygu cod]

Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn Valenciennes, Ffrainc, a derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt rhwng 1826 a 1828. Bu'n un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839, ac er ei fod yn ynad ar y pryd, bu gydag arweinwyr y mudiad protest yn ystod cyfarfod 'Merched Becca' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843, a hefyd gyda'r rhai fu'n arestio rhai o'r arweinwyr pan ymosodwyd ar dollborth a chlwydi ardal Pontarddulais ar 6 Medi 1843. Dialwyd arno gan y terfysgwyr yr adeg honno. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1849, cyflwynodd dystiolaeth bwysig i'r comisiynwyr addysg, ac erbyn 1850 fe'i penodwyd yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli. Prynodd gartref newydd o'r enw "Hafod" yn 1853, a gwerthodd y tŷ ychydig cyn iddo farw.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • D. Bowen, Hanes Llanelli, 1857;
  • Burke's Landed Gentry, arg. 1871 (am y llinach);
  • Bye-Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1882, t. 43;
  • Arthur Mee, Llanelly Parish Church, its history and records, with notes relating to the town, Llanelli, 1888;
  • John Innes, Old Llanelly, Caerdydd, 1902;
  • The Carmarthen Antiquary, 1943–44, tt. 21–63;
  • Venn, Alumni Cantabrigienses, 1944