Gabriel Goodman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Person
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| onlysourced=no

Fersiwn yn ôl 07:32, 19 Mawrth 2021

Gabriel Goodman
Ganwyd6 Tachwedd 1528 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 1601 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdeon Edit this on Wikidata
SwyddDeon Westminster Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaNantclwyd y Dre Edit this on Wikidata
Cerflun o Gabriel Goodman ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy.

Deon Abaty San Steffan (Saesneg: Dean of Westminster), Llundain ac ail-sefydlydd Ysgol Rhuthun oedd Gabriel Goodman (6 Tachwedd 152817 Mehefin 1601).[1] Roedd yn casau'r pabyddion yn ogystal a'r purwyr neu'r eithafwyr. Brwydrodd dros bobl Rhuthun gan geisio gostwng ychydig ar y trethi roedden nhw'n ei dalu. Cafodd ei gladdu yn Abaty San Steffan.

Ei fywyd cynnar

Ganwyd Gabriel Goodman yn Nantclwyd y Dre (Tŷ Nantclwyd), Rhuthun, Sir Ddinbych, yn ail fab i'r masnachwr cefnog Edward Goodman. Prin yw'r wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar, ond awgryma bywgraffiad ohono o'r 19g y cafodd ei addysgu adref gan un o offeiriaid yr eglwys golegol a oedd wedi'u diddymu. Fodd bynnag awgryma'r ffaith iddo fynychu Prifysgol Rhydychen oddeutu 1543 ac yna Prifysgol Caergrawnt yn hwyrach (lle derbyniodd B.A.) ei fod wedi derbyn hyfforddiant gramadegol ffurfiol.

Cerflun o Goodman yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun.

Ei waith

Bu'n Reithor ar nifer o eglwysi yn lloegr ac yn aelod o nifer o gyrff yn ystod ei oes, llawer ohony nhw'n gysylltiedig a theulu William Cecil (wedyn yr Arglwydd Burghley). Yn 1575, er enghraifft, fel aelod o'r uwch-gomisiwn, cynorthwyodd i gondemnio Peters a Turnwort, a losgwyd yn ddiweddarach am eu credo.

Bu hefyd yn gyfaill i William Morgan (esgob) ac yn gymorth gyda chyhoeddi beibl 1568.

Cyfeiriadau