Crefydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen WD
ychwanegu fideo
Llinell 1: Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= *}}
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= *}}
[[Delwedd:Religionsmajoritaries.png|bawd|360px]]
[[Delwedd:Religionsmajoritaries.png|bawd|360px]]
[[File:Mae Casineb yn Brifo Cymru - Portread o Droseddau Casineb Crefyddol.webm|bawd|Portread o droseddau casineb crefyddol: fideo gan Lywodraeth Cymru; Mawr 2021]]

Cyfundrefn o [[ffydd]] ac [[addoliad]] neu gred yw '''crefydd'''. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.
Cyfundrefn o [[ffydd]] ac [[addoliad]] neu gred yw '''crefydd'''. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.



Fersiwn yn ôl 16:41, 16 Mawrth 2021

Crefydd
Symbolau crefyddol
Enghraifft o'r canlynolmath o farn bydeang Edit this on Wikidata
Mathsystem gred, ideoleg, barn y byd, crefydd neu olwg ar y byd, traddodiad Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgwrthgrefydd Edit this on Wikidata
Rhan olledrith a chrefydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyslist of saints Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Portread o droseddau casineb crefyddol: fideo gan Lywodraeth Cymru; Mawr 2021

Cyfundrefn o ffydd ac addoliad neu gred yw crefydd. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.

Hanes

Datblygiad crefydd

Chwe phrif grefydd y byd

Crefyddau Abrahamig

Dyma'r grŵp mwyaf o grefyddau gyda 3.8 biliwn o ddilynwyr yn fyd-eang.

Cristnogaeth

Mae Cristnogaeth neu Gristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), o'r Beibl. Mae'r enw 'Crist' yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos), sy'n golygu "yr Eneiniog".

Iddewiaeth

Prif: Iddewiaeth

Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.

Islam

Prif: Islam

Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair 'Islam' yw "ymostyngiad i ewyllys Duw" (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grëwyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu "tangnefedd" a'r gair slm sy'n golygu "ymostyngiad." Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw."

Paganiaeth

Prif: Paganiaeth

Crefydd lle addolir Duw(iau) a/neu Dduwies(au) yw Paganiaeth, sydd hefyd yn ffurf o amldduwiaeth. Mae'n grefydd sydd yn credu mewn natur a phweroedd naturiol. Un o lwybrau modern o Baganiaeth yw Wica.

Crefyddau dwyreiniol

Siciaeth

Prif: Siciaeth

Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhiaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16g a'r 17g. Mae'n un o brif grefyddai'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr.

Bwdhaeth

Prif: Bwdhaeth

Crefydd ddi-dduw yn ei hanfod yw Bwdhaeth neu "Bwdïaeth." Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5g CC. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn y 5g nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny. Er ei fod yn grefydd neu athroniaeth ddi-dduw, ceir nifer o "dduwiau" a bodau goruwchnaturiol eraill ym Mwdhaeth Mahayana ("Y Cerbyd Mawr"), e.e. ym Mwdhaeth Tibet.

Hindŵaeth

Prif: Hindŵaeth

Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Chwiliwch am crefydd
yn Wiciadur.