Rhupunt hir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
bônt’ = rhediad dibynnol 3ydd person lluosog y ferf ‘bod’. Dim ond y berfenw ‘bod’ sydd ei angen fan hyn |
|||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
Gall pob traean ddiweddu'n [[acennog]] neu'n [[diacen|ddiacen]] ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn [[odl ddwbwl]], fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog. |
Gall pob traean ddiweddu'n [[acennog]] neu'n [[diacen|ddiacen]] ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn [[odl ddwbwl]], fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog. |
||
O edrych ar bob cwpled fel un llinell, gwelir eu |
O edrych ar bob cwpled fel un llinell, gwelir eu bod hefyd yn ffurfio math o [[cynghanedd sain|gynghanedd sain]], sef y ''gynghanedd sain deirodl''. |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:51, 16 Mawrth 2021
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r rhupunt hir, sef un o'r mesurau caeth. Mae iddo bedair rhan, pob un yn bedair sillaf yr un. Mae un llinell, felly, yn 16 sillaf. Y patrwm odlau yma ydy a, b, a, b.
Mae diwedd chwarter cyntaf pob llinell yn odli gyda diwedd yr ail chwarter a'r trydydd chwarter; ac mae hwnnw yn creu cynghanedd (croes neu traws) gyda'r rhan olaf (y pedwerydd chwarter).
Dyma bennill o waith Tudur Aled:
- Pybyr nerthwr pob dierthwr,
- Pab, aberthwr, pawb a borthed;
- Pob llawenydd hyd Faelienydd,
- Pob awenydd, pawb a aned.
Gall pob traean ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn odl ddwbwl, fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog.
O edrych ar bob cwpled fel un llinell, gwelir eu bod hefyd yn ffurfio math o gynghanedd sain, sef y gynghanedd sain deirodl.