Cetiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Mae'r '''Cetiaid''' neu '''Ketiaid''' ([[Rwseg]]: Кеты) yn bobl o [[Siberia]] sy'n siarad yr iaith Cet neu Ceteg. |
Mae'r '''Cetiaid''' neu '''Ketiaid''' ([[Rwseg]]: Кеты) yn bobl o [[Siberia]] sy'n siarad yr iaith Cet neu Ceteg. |
||
Arferid ei galw yn ''[[Ostiaciaid|Ostyakiy]]'' yn Rwseg, gair a oedd yn cynnwys llwythi eraill o Siberia. Galwyd nhw hefyd yn ''Ostiaciaid Yenisei'', gan eu |
Arferid ei galw yn ''[[Ostiaciaid|Ostyakiy]]'' yn Rwseg, gair a oedd yn cynnwys llwythi eraill o Siberia. Galwyd nhw hefyd yn ''Ostiaciaid Yenisei'', gan eu bod yn byw yng nghanol a gwaelod basn [[Afon Yenisei]] yn [[Crai Krasnoyarsk]], [[Rwsia]].<ref>[http://www.tooyoo.l.u-tokyo.ac.jp/Russia/bibl/Ket.html Ket: Bibliographical guide; Cyhoeddiad gan Institute of Linguistics (Russian Academy of Sciences) & Kazuto Matsumura (Prifysgol Tokyo). Adalwyd 20-10-2006. ]</ref> Mae'r Cetiaid modern yn byw yng ngorllewin rhan canol y basn, bellach. |
||
==Iaith== |
==Iaith== |
Fersiwn yn ôl 09:47, 16 Mawrth 2021
Mae'r Cetiaid neu Ketiaid (Rwseg: Кеты) yn bobl o Siberia sy'n siarad yr iaith Cet neu Ceteg.
Arferid ei galw yn Ostyakiy yn Rwseg, gair a oedd yn cynnwys llwythi eraill o Siberia. Galwyd nhw hefyd yn Ostiaciaid Yenisei, gan eu bod yn byw yng nghanol a gwaelod basn Afon Yenisei yn Crai Krasnoyarsk, Rwsia.[1] Mae'r Cetiaid modern yn byw yng ngorllewin rhan canol y basn, bellach.
Iaith
Cysylltwyd eu hiaith i'r teulu hwnnw o ieithoedd a elwir yn Na-Dené, sy'n tarddu o Ogledd America. Yr enw Ceteg am ddynion ydy "deng".
Yn 1826 roedd 1,428 o Getiaid yn weddill gyda 1225 (85.8%) yn siaradwyr iaith gyntaf. Erbyn cyfrifiad 1989 roedd y nifer wedi gostwng i 1,113 gyda dim ond 537 (48.3%) yn siaradwyr iaith gyntaf. Credir fod tua 600 heddiw yn siarad yr iaith, sy'n hollol wahanol i bob iaith arall yn Siberia.
Y cysylltiad Celtaidd
Credir bellach fod y Cymry a'r cenhedloedd Celtaidd eraill a'r Basgiaid yn ddisgynyddion yr Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Palaeolithig o Siberia ac mae tystiolaeth genynnol yn eu holrhain yn ôl i tua 50,000 o flynyddoedd a hynny i ardal Dyffryn Yenisei yn Siberia, ac yn arbennig i'r Cetiaid. Maen' nhw heddiw yn cario'r un fersiwn o'r cromosomau "Y" â'r Cymry a phobloedd brodorol America.[2] Dywed y gwyddonydd genynnau Steve Jones yn ei lyfr Y - The Descent of Man (2002), "Mae’r cromosomau yn datgelu cyswllt hynafol rhwng pobl Cymru a brodorion America...Yng Nghymru mae naw allan o bob deg dyn cyn cludo rhyw fersiwn o haplogrwp 1...mae un is-deip yn gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw..."[angen ffynhonnell]
Cyfeiriadau
- ↑ Ket: Bibliographical guide; Cyhoeddiad gan Institute of Linguistics (Russian Academy of Sciences) & Kazuto Matsumura (Prifysgol Tokyo). Adalwyd 20-10-2006.
- ↑ "Y Faner Newydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2010-07-02.