Y Môr Canoldir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle}} |
{{Gwybodlen lle}} |
||
Môr rhwng [[Ewrop]], [[Asia]] ac [[Affrica]] yw'r '''Môr Canoldir''' (weithiau '''Môr y Canoldir'''). Cafodd ei enw o'r [[Lladin]] ''mediterraneus'' (''medius'', "canol" + ''terra'', "tir"), ond roedd y [[Rhufeiniaid]] yn ei alw'n ''Mare Nostrum'', sef "ein môr ni". Mae ganddo arwynebedd o tua 2.5 miliwn km², sy'n cyfateb i 0.7% o arwyneb y cefnfor byd-eang. |
Môr rhwng [[Ewrop]], [[Asia]] ac [[Affrica]] yw'r '''Môr Canoldir''' (weithiau '''Môr y Canoldir'''). Cafodd ei enw o'r [[Lladin]] ''mediterraneus'' (''medius'', "canol" + ''terra'', "tir"), ond roedd y [[Rhufeiniaid]] yn ei alw'n ''Mare Nostrum'', sef "ein môr ni". Mae ganddo arwynebedd o tua 2.5 miliwn km², sy'n cyfateb i 0.7% o arwyneb y cefnfor byd-eang. |
||
[[Delwedd:Mediterranean Relief.jpg|300px|bawd|dim|Y Môr Canoldir]] |
[[Delwedd:Mediterranean Relief.jpg|300px|bawd|dim|Y Môr Canoldir]] |
||
== Daearyddiaeth == |
== Daearyddiaeth == |
||
Mae [[Culfor Gibraltar]], sydd ddim ond 14 |
Mae [[Culfor Gibraltar]], sydd ddim ond 14 km (9 milltir) o led, yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r [[Môr Iwerydd]] yn y gorllewin ac mae [[Môr Marmara]], y [[Dardanelles]] a'r [[Bosphorus]] yn ei gysylltu â'r [[Môr Du]] yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn rhan o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain mae [[Camlas Suez]] yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r [[Môr Coch]]. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwng [[Asia Leiaf]] a [[Gwlad Groeg]]. |
||
== Hinsawdd == |
== Hinsawdd == |
Fersiwn yn ôl 11:15, 23 Chwefror 2021
Math | môr mewndirol, môr canoldir, môr, basn draenio |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, Ardal Môr Canoldir |
Gwlad | Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, Monaco, Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg, Malta, Cyprus, Twrci, Libanus, Syria, Israel, Gwladwriaeth Palesteina, Yr Aifft, Libia, Tiwnisia, Algeria, Moroco, Bosnia a Hertsegofina |
Arwynebedd | 2,500,000 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Yn ffinio gyda | basn yr Almanzora, Cordillera Penibética, Gogledd Affrica |
Cyfesurynnau | 38°N 17°E |
Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (weithiau Môr y Canoldir). Cafodd ei enw o'r Lladin mediterraneus (medius, "canol" + terra, "tir"), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw'n Mare Nostrum, sef "ein môr ni". Mae ganddo arwynebedd o tua 2.5 miliwn km², sy'n cyfateb i 0.7% o arwyneb y cefnfor byd-eang.
Daearyddiaeth
Mae Culfor Gibraltar, sydd ddim ond 14 km (9 milltir) o led, yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r Môr Iwerydd yn y gorllewin ac mae Môr Marmara, y Dardanelles a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn rhan o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain mae Camlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r Môr Coch. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwng Asia Leiaf a Gwlad Groeg.
Hinsawdd
Mae hinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir, a nodweddir gan aeafau byr a chymhedrol ar y cyfan a hafau poeth, er ei bod yn amrywio o wlad i wlad o gwmpas y môr.
Ynysoedd
Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:
- Cyprus, Creta a Rhodes yn y dwyrain.
- Sardinia, Corsica, Sisili, Malta a Djerba yn y canolbarth.
- Ibiza, Majorca a Menorca (yr Ynysoedd Balearig) yn y gorllewin.
Yn y Môr Aegeaidd ceir nifer mawr o ynysoedd llai a'r rhan fwyaf yn perthyn i Wlad Groeg.
Gwledydd
Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:
- Ewrop (o'r gorllewin i'r dwyrain): Sbaen, Ffrainc, Monaco, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Bosnia-Hertsegofina, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg a Thwrci
- Asia (o'r gogledd i'r de): Twrci, Syria, Libanus, Israel a Phalesteina
- Affrica (o'r dwyrain i'r gorllewin): yr Aifft, Libia, Tiwnisia, Algeria a Moroco
- Ynysoedd sydd yn wledydd yw Cyprus a Malta. Lleolir Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus yng ngogledd ynys Cyprus, ond dim ond Twrci sy'n cydnabod hon yn wlad.
|