Sisili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Map SVG |
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Ynys yn [[y Môr Canoldir]] a [[Rhanbarthau'r Eidal|rhanbarth]] [[yr Eidal]] yw '''Sisili''' (hefyd '''Sisilia''') ([[Sisilieg]]: ''Sicìlia''; [[Eidaleg]]: ''Sicilia''). [[Palermo]] yw'r brifddinas. |

Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd [[Etna]]. Mae [[Culfor Messina]] yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr. |

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,002,904.<ref>[https://www.citypopulation.de/en/italy/admin/19__sicilia/ City Population]; adalwyd 23 Rhagfyr 2020</ref> |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,002,904.<ref>[https://www.citypopulation.de/en/italy/admin/19__sicilia/ City Population]; adalwyd 23 Rhagfyr 2020</ref> |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
Creuwyd [[Teyrnas y Ddwy Sisili]] yn [[1815]] gan [[Ferdinand I o Awstria a Hwngari]]. Cipiodd [[Garibaldi]] yr ynys yn [[1860]] ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, [[tlodi]] a grym y [[Maffia]] a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r [[Unol Daleithiau]] oherwydd hynny. |

Heddiw, mae Sisili, gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd [[Égadi]] ac [[Ynysoedd Lipari]] yw'r ddau grŵp mwyaf) yn rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal. |
Heddiw, mae Sisili, gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd [[Égadi]] ac [[Ynysoedd Lipari]] yw'r ddau grŵp mwyaf) yn rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal. |
||
== Economi == |
== Economi == |
Fersiwn yn ôl 10:59, 23 Chwefror 2021
Math | rhanbarth ymreolaethol gan statud arbennig, ardal ddiwylliannol |
---|---|
Prifddinas | Palermo |
Poblogaeth | 4,983,478 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Renato Schifani |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | yr Eidal |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 25,711 km² |
Uwch y môr | 3,340 metr |
Cyfesurynnau | 37.599958°N 14.015378°E |
IT-82 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Sicily |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Rhanbarthol Sicili |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Sicili |
Pennaeth y Llywodraeth | Renato Schifani |
Ynys yn y Môr Canoldir a rhanbarth yr Eidal yw Sisili (hefyd Sisilia) (Sisilieg: Sicìlia; Eidaleg: Sicilia). Palermo yw'r brifddinas.
Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd Etna. Mae Culfor Messina yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,002,904.[1]
Hanes
- Prif: Hanes Sisili
Ymsefydlai'r Groegiaid ar yr ynys o'r 8fed ganrif CC ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y Carthaginiaid yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y Rhufeiniaid yn ail hanner y drydedd ganrif CC ac erbyn 211 CC roedd yn dalaith Rufeinig.
Goresgynwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn y 9g a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn 1060 cyrhaeddodd y Normaniaid a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn 1266 coronwyd Siarl I, brenin Napoli a Sisili yn frenin Angevinaidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas Aragon yn 1284 yn sgîl Cyflafan y Gosber Sisiliaidd.
Creuwyd Teyrnas y Ddwy Sisili yn 1815 gan Ferdinand I o Awstria a Hwngari. Cipiodd Garibaldi yr ynys yn 1860 ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, tlodi a grym y Maffia a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r Unol Daleithiau oherwydd hynny.
Heddiw, mae Sisili, gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd Égadi ac Ynysoedd Lipari yw'r ddau grŵp mwyaf) yn rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal.
Economi
Erbyn heddiw mae economi yr ynys yn bur ffynnianus. Un o'r diwydiannau mwyaf yw twristiaeth.
Cyfeiriadau
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
Dolen allanol
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol
|