Afon Medway: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Lloegr}}}} |
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Lloegr}}}} |
||
Afon yng [[Caint|Nghaint]] gyda hyd byr yng [[Gorllewin Sussex|Ngorllewin Sussex]], [[De-ddwyrain Lloegr]], yw '''Afon Medway'''. Mae'n codi yn y [[Weald]] yng Ngorllewin Sussex ger pentref [[Turners Hill]], ac yn llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain am 110 km (70 mi) trwy Gaint i [[aber]]u yn [[Afon Tafwys]] ger [[Sheerness]]. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy [[Tonbridge]], [[Maidstone]], [[Rochester, Caint|Rochester]], [[Chatham, Caint|Chatham]] a [[Gillingham, Caint|Gillingham]]. Mae ganddi ddalgych o 2,400 km² (930 mi²) – y dalgylch ail fwyaf yn ne Lloegr ar ôl [[Afon Tafwys]] – sy'n cynnwys chwe phrif isafon a llawer o lednentydd llai. |

Dyma'r prif isafonydd: |
Dyma'r prif isafonydd: |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:23, 23 Chwefror 2021
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Canol Sussex, Bwrdeistref Tonbridge a Malling, Medway |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4492°N 0.7383°E, 51.1767°N 0.1475°W, 51.4492°N 0.7383°E |
Tarddiad | Turners Hill |
Aber | Afon Tafwys |
Llednentydd | Afon Eden, East Malling Stream, Loose Stream, Afon Beult, Afon Bourne, Afon Len, Afon Teise, Wateringbury Stream |
Dalgylch | 2,409 cilometr sgwâr |
Hyd | 113 cilometr |
Arllwysiad | 90 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yng Nghaint gyda hyd byr yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Medway. Mae'n codi yn y Weald yng Ngorllewin Sussex ger pentref Turners Hill, ac yn llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain am 110 km (70 mi) trwy Gaint i aberu yn Afon Tafwys ger Sheerness. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy Tonbridge, Maidstone, Rochester, Chatham a Gillingham. Mae ganddi ddalgych o 2,400 km² (930 mi²) – y dalgylch ail fwyaf yn ne Lloegr ar ôl Afon Tafwys – sy'n cynnwys chwe phrif isafon a llawer o lednentydd llai.
Dyma'r prif isafonydd:
- Afon Eden
- Afon Bourne
- Afon Teise
- Afon Beult
- Afon Loose neu Loose Stream
- Afon Len
Yn y gorffennol roedd yr afon yn bwysig fel ffordd o gludo nwyddau, a byddai cychod trwm yn mynd i fyny'r afon cyn belled â Tonbridge. Mae un ar ddeg o lociau rhwng Allington a Tonbridge
Brwydr Afon Medway[golygu | golygu cod]
Yn y flwyddyn OC 43 ymladdwyd brwydr fawr rhwng llwyth Celtaidd y Catuvellauni a'r Rhufeiniaid ar lan yr afon, ar safle rhywle yng nghyffiniau Rochester. Caradog a’i frawd Togodumnus a arweiniodd lluoedd y Catuvellauni yn erbyn y fyddin Rufeinig dan Aulus Plautius. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid yn y frwydr honno ac mewn brwydr arall ar lan Afon Tafwys wedyn a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin i deyrnas y Silwriaid.