Stumog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: av:Кванирукъ
B r2.7.1) (robot yn newid: iu:ᐊᕿᐊᕈᖅ
Llinell 60: Llinell 60:
[[is:Magi]]
[[is:Magi]]
[[it:Stomaco]]
[[it:Stomaco]]
[[iu:ᐊᕿᐊᕈᖅ/aqiaruq]]
[[iu:ᐊᕿᐊᕈᖅ]]
[[ja:胃]]
[[ja:胃]]
[[jv:Lambung]]
[[jv:Lambung]]

Fersiwn yn ôl 06:41, 7 Hydref 2011

Delwedd:Stumog ayb.jpg
Lleoliad y stumog
1– stumog; 2– coluddyn mawr (colon); 3– coluddyn bach; 4– rectwm; 5– anws; 6– cwlwm y coledd; 7– coluddyn dall (caecwm)

Organ ar ffurf bag o gyhyrau ydy'r stumog, ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o famaliaid. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'r system dreulio. Daw o'r gair Lladin stomachus (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder". [1]

Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio'n bennaf ar stumogau dynol, er bod cryn debygrwydd rhyngddo â'r rhan fwyaf o anifeiliaid,[2] ar wahân i'r fuwch sy'n hollol wahanol.[3]

Ei bwrpas

Mae tri phrif bwrpas i'r stumog: lladd bacteria, torri'r darnau bwyd yn ddarnau llai er mwyn cael mwy o arwynebedd a chynnal y bwyd am oriau a'i ollwng yn araf ac yn gyson. Ceir hylif asidig cryf ynddo i wneud y gwaith hwn, asid hydroclorig ydy hwnnw gyda pH o rhwng 1 a 2 - yn dibynnu ar ffactorau megis pa ran o'r diwrnod ydyw, y swm o fwyd a fwytawyd, cynnwys arall megis cyffuriau a ffactorau eraill. Yn yr hylif hwn y torrir y moleciwlau mawr yn rhai llai, fel y rhan gyntaf o'r broses dreulio - cyn gwthio'r bwyd i'r cam nesaf sef y coluddyn bach. Mae'r stumog ddynol yn creu rhwng 2.2 a 3 litr o'r asid gastrig hwn y dydd. Mae mwy ohono'n cael ei greu fin nos nac yn y bore. Gall y stumog ddal rhwng 2 a 4 litr o fwyd, gan ymestyn pan fo raid.

Cyfeiriadau

  1. [1] Online Etymological Dictionary (Saesneg)
  2. [2] Stumogau anifeiliaid (Saesneg)
  3. [3] Sut mae'r fuwch yn treulio ei bwyd (Saesneg)