Y Mudiad Celf a Chrefft: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
==Dolenni allanol== |
==Dolenni allanol== |
||
* {{eicon en}} [http://www.arts-crafts.com The Arts & Crafts Society] |
* {{eicon en}} [http://www.arts-crafts.com The Arts & Crafts Society] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20121212005136/http://www.arts-crafts.com/ |date=2012-12-12 }} |
||
* {{eicon en}} [http://www.blackwell.org.uk/exhibitions/trail_index.shtml Arts & Crafts Trail] Taith yn [[Ardal y Llynnoedd]], Lloegr lle ceir cartrefi, amgueddfeydd ac adeiladau â pherthnasedd i'r mudiad |
* {{eicon en}} [http://www.blackwell.org.uk/exhibitions/trail_index.shtml Arts & Crafts Trail] Taith yn [[Ardal y Llynnoedd]], Lloegr lle ceir cartrefi, amgueddfeydd ac adeiladau â pherthnasedd i'r mudiad |
||
* {{eicon en}} [http://www.craftsmanperspective.com Craftsman Perspective] Gwefan am bensaernïaeth Celf a Chrefft |
* {{eicon en}} [http://www.craftsmanperspective.com Craftsman Perspective] Gwefan am bensaernïaeth Celf a Chrefft |
Fersiwn yn ôl 01:13, 23 Chwefror 2021
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, arddull pensaernïol |
---|---|
Dechreuwyd | 1880 |
Daeth i ben | 1910 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad esthetig yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau o flynyddoedd olaf y 19g a blynyddoedd cynnar yr 20g oedd y Mudiad Celf a Chrefft (Saesneg: Arts and Crafts Movement). Cafodd ei ysbrydoli gan ysgrifau John Ruskin a'r delfrydu rhamantaidd o'r crefftwr yn cymryd balchder yn ei waith llaw ei hun. Roedd ar ei anterth rhwng tua 1880 ac 1910.
Roedd yn fudiad diwygio a ddylanwadodd ar bensaernïaeth, celf addurnol, gwneuthuriaeth dodrefn, dylunio tu mewn, a chrefftau Prydeinig ac Americanaidd, ac hefyd hyd yn oed ddyluniadau gerddi "bwthyn" William Robinson neu Gertrude Jekyll. Cafodd yr arddull ei harddel gan William Morris, Charles Robert Ashbee, T. J. Cobden Sanderson, Walter Crane, Nelson Dawson, Phoebe Anna Traquair, Herbert Tudor Buckland, Charles Rennie Mackintosh, Christopher Dresser, Edwin Lutyens, William De Morgan, Ernest Gimson, William Lethaby, Edward Schroeder Prior, Frank Lloyd Wright, Gustav Stickley, Greene & Greene, Charles Francis Annesley Voysey, Christopher Whall ac eraill.
Enghreifftiau o bensaernïaeth arddull Celf a Chrefft yng Nghymru
- Pentref Elan, Powys (Pentref a gynllunwyd i gartrefu gweithwyr oedd yn adeiladu cronfeydd dŵr Cwm Elan)
- Mynachlog Sistersaidd Ynys Bŷr, Sir Benfro. Cynlluniwyd gan John Coates Carter
- Neuadd Aber Artro, Llanbedr, Gwynedd
- Tŷ Bronna, Y Tyllgoed, Caerdydd. Cynlluniwyd gan C. F. A. Voysey o 1903 i 1906
- Wern Isaf, Llanfairfechan, Sir Conwy
Dolenni allanol
- (Saesneg) The Arts & Crafts Society Archifwyd 2012-12-12 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Arts & Crafts Trail Taith yn Ardal y Llynnoedd, Lloegr lle ceir cartrefi, amgueddfeydd ac adeiladau â pherthnasedd i'r mudiad
- (Saesneg) Craftsman Perspective Gwefan am bensaernïaeth Celf a Chrefft