Robert Herbert Mills-Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 31: Llinell 31:
Cyn [[pêl-droed|bêl-droediwr]] [[Cymreig]] oedd '''Dr. Robert Herbert Mills-Roberts''' ([[5 Awst]] [[1862]] – [[27 Tachwedd]] [[1935]]). Llwyddodd i ennill 8 cap dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]] rhwng 1885 a 1892 yn ogystal â [[Cwpan FA Lloegr|Chwpan FA Lloegr]] gyda thîm [[Preston North End F.C.|Preston North End]], y tîm ddaeth i gael eu hadnabod fel yr ''Invincibles''.
Cyn [[pêl-droed|bêl-droediwr]] [[Cymreig]] oedd '''Dr. Robert Herbert Mills-Roberts''' ([[5 Awst]] [[1862]] – [[27 Tachwedd]] [[1935]]). Llwyddodd i ennill 8 cap dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]] rhwng 1885 a 1892 yn ogystal â [[Cwpan FA Lloegr|Chwpan FA Lloegr]] gyda thîm [[Preston North End F.C.|Preston North End]], y tîm ddaeth i gael eu hadnabod fel yr ''Invincibles''.


Fe'i ganed ym [[Penmachno|Mhenmachno]] yn fab hynnaf i Robert Roberts, cyn reolwr [[Chwarel yr Oakeley]]. Cafodd ei addysg yn [[Ysgol Friars, Bangor]] a [[Prifysgol Aberystwyth|Phrifysgol Aberystwyth]] lle roedd yn gapten ar y timau [[rygbi]] a phêl-droed<ref name="pneformerplayers">{{cite web |url=http://www.pneformerplayers.co.uk/features/robert-herbert-mills-roberts.html |title=Doctor Who...? |work=PNE Former Players}}</ref>.
Fe'i ganed ym [[Penmachno|Mhenmachno]] yn fab hynnaf i Robert Roberts, cyn reolwr [[Chwarel yr Oakeley]]. Cafodd ei addysg yn [[Ysgol Friars, Bangor]] a [[Prifysgol Aberystwyth|Phrifysgol Aberystwyth]] lle roedd yn gapten ar y timau [[rygbi]] a phêl-droed<ref name="pneformerplayers">{{cite web |url=http://www.pneformerplayers.co.uk/features/robert-herbert-mills-roberts.html |title=Doctor Who...? |work=PNE Former Players |access-date=2015-11-28 |archive-date=2016-05-01 |archive-url=https://web.archive.org/web/20160501164856/http://www.pneformerplayers.co.uk/features/robert-herbert-mills-roberts.html |url-status=dead }}</ref>.


==Gyrfa bêl-droed==
==Gyrfa bêl-droed==

Fersiwn yn ôl 09:08, 22 Chwefror 2021

Robert Herbert Mills-Roberts
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni5 Awst 1862
Man geniPenmachno, Cymru
Dyddiad marw27 Tachwedd 1935(1935-11-27) (73 oed)
Man lle bu farwBournemouth, Lloegr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1879–1882Aberystwyth
Ysbyty St. Thomas, Llundain
1884–1888Corinthian
1886–1887Casuals
1887–1889Preston North End10(0)
Tîm Cenedlaethol
1885–1892Cymru8(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Dr. Robert Herbert Mills-Roberts (5 Awst 186227 Tachwedd 1935). Llwyddodd i ennill 8 cap dros Gymru rhwng 1885 a 1892 yn ogystal â Chwpan FA Lloegr gyda thîm Preston North End, y tîm ddaeth i gael eu hadnabod fel yr Invincibles.

Fe'i ganed ym Mhenmachno yn fab hynnaf i Robert Roberts, cyn reolwr Chwarel yr Oakeley. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Phrifysgol Aberystwyth lle roedd yn gapten ar y timau rygbi a phêl-droed[1].

Gyrfa bêl-droed

Tra'n astudio i fod yn feddyg yn Ysbyty St. Thomas yn Llundain, roedd yn aelod o dîm pêl-droed yr ysbyty yn ogystal a chlybiau amatur Barnes, Crusaders, Casuals a chlwb enwog Corinthian. Cynrychiolodd Middlesex a Surrey mewn gemau sirol ac ym 1885 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr.

Ym 1887 ymunodd â chlwb Preston North End fel chwaraewr amatur gan nad oedd golwr arferol y clwb, y Cymro James Trainer, yn gymwys i chwarae yng Nghwpan FA Lloegr[1]. Dim on 13 o gemau chwaraeodd Mills-Roberts dros Preston; wyth yng Nghwpan FA Lloegr, dwy gêm gynghrair a tair gêm gyfeillgar ond llwyddodd i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith.

Roedd yn aelod o'r tîm gollodd yn y rownd derfynol ym 1888[2] ond ym 1889 llwyddodd i godi'r tlws a sicrhau mai Preston North End oedd y tîm cyntaf erioed i ennill y dwbwl o'r Gynghrair Bêl-droed a Chwpan FA yn yr un tymor [1][3].

Gyrfa feddygol

Llwyddodd i ddod yn feddyg ym 1887 ac wedi cyfnod yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham, symudodd i Lanberis ym 1889 er mwyn dod yn feddyg ar Ysbyty Chwarel Dinorwig[4].

Roedd yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol gan ddod yn llawfeddyg gyda'r Welch Hospital yn ystod Ail Ryfel y Boer lle lwyddodd i esgyn i fod yn Uwchgapten yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Tra yn Ne Affrica cafodd ei urddo gyda'r C.M.G. (Companion of St. Michael and St. George)[5].

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr roedd yn ddirprwy arweinydd 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond trosglwyddodd yn ôl i'r Corfflu Meddygol er mwyn arwain yr 131st Field Ambulance oedd yn gysylltiedig â 38fed Adran Gymreig ym mrwydrau Ffrainc a Fflandrys[5][6].

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Doctor Who...?". PNE Former Players. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-01. Cyrchwyd 2015-11-28.
  2. "1888 FA Cup Final". Sporting Chronicle. sportingchronicle.com.
  3. "1889 FA Cup Final". Sporting Chronicle. sportingchronicle.com.
  4. "Ysbyty Chwarel Dinorwig". BBC Cymru. BBC Cymru.
  5. 5.0 5.1 "Obituary: RH Mills-Roberts CMG FRCSEd". British Medical Journal. BMJ.
  6. "The Field Ambulances". The Long, Long Trail. The Long Long Trail.