Morgrugyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Diwydrwydd diarhebol: Erthygl newydd, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB
Llinell 87: Llinell 87:


==Diwydrwydd diarhebol==
==Diwydrwydd diarhebol==
Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn [[Llyfr y Diarhebion]] yn y [[Beibl]] ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”<ref>Diarhebion VII (7)</ref>. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi. Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw [[Esop|Chwedlau Æsop]]. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng [[Groeg|Ngroeg]] yn y 6ed ganrif CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn [[Llyfr y Diarhebion]] yn y [[Beibl]] ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”<ref>Diarhebion VII (7)</ref>. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi. Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw [[Esop|Chwedlau Æsop]]. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng [[Groeg|Ngroeg]] yn y 6g CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
*'''Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn''' – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf<ref>Chwedlau neu Ddammegion Æsop, cyfres gyntaf (dim dyddiad), Glan Alun, chwedl 7</ref>
*'''Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn''' – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf<ref>Chwedlau neu Ddammegion Æsop, cyfres gyntaf (dim dyddiad), Glan Alun, chwedl 7</ref>
*'''Y morgrugyn ymffrostgar''' – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ymffrostio ymysg rhai mwy<ref>Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 56</ref>.
*'''Y morgrugyn ymffrostgar''' – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ymffrostio ymysg rhai mwy<ref>Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 56</ref>.

Fersiwn yn ôl 08:24, 22 Chwefror 2021

Grŵp llwyddiannus iawn o bryfed yw morgrug. Mae 11,844 o rywogaethau ledled y byd, yn enwedig mewn hinsoddau poeth. Mae llawer o forgrug yn ffurfio cytrefi o filiynau o unigolion.

Enwau ac etymoleg

Yn achos rhai aelodau o ddosbarth mawr y pryfetach yr enw lluosog ddaw gynta’ pan fyddwn yn cyfeirio atynt, e.e. gwenyn, llau, llyslau, gwybed a morgrug. Cydnabyddiaeth, mae’n debyg, mai yn eu niferoedd y gwelwn ni y rhain fel arfer yn hytrach na fesul un, boed yn wenynen, lleuen, gwybedyn neu forgrugyn. Does dim yn rhyfeddol yn hynny oherwydd creaduriaid torfol ydy nhw beth bynnag – y llau (os cânt lonydd) a’r gwybed yn medru bod yn niferus iawn am eu bod yn bridio mor gyflym tra bod y gwenyn a’r morgrug yn byw yn dorfol mewn nythfeydd anferth o gannoedd a miloedd o unigolion.[1]

  • morgrug
[*mor (gw. mŷr1, a cf. mor2)+crug]

e.ll. (un. g. morgrugyn) ll. dwbl morgrugion, morgrugiaid.

Swol. Pryfed bychain cymdeithasol o deulu’r Formicidæ sy’n byw gan amlaf mewn nythod dan y ddaear ac a nodweddir gan eu trefn a’u diwydrwydd, bywion, grugion, mywion, hefyd yn ffig.:

ants, also fig. 

Enghraifft gynharaf:
14g. WM 4698-10, deng milltir adeugeint y clywei y morgrugyn y bore pan gychwhynnei [sic] y ar lwth.


  • mŷr,
[H. Grn. menƿionen [?sic], gl. formica, Crn. Diw. mwrrian, H. Lyd. moriuon, Llyd. C. meryenenn, Llyd. Diw. merien, merienenn, Gwydd. C. moirb: o’r gwr. IE. *moru̯i- ‘morgrugyn’, cf. e. lle Lladin Prydain Morionio; dichon fod y ff. un. yn adff. o’r ll.] eb. ll. myrion (bach. g. myrionyn, b. myrionen). Morgrugyn: ant.[2]

Enghraifft gynharaf:

1632 D, morgrug … est potiùs Tuberculum formicarum, quod Dem. Myrdwyn, à Myr, Formicæ, & Twyn. Nam Mor & Myr est Formica. Pl. Morion, & Myrion.

Ymddengys felly bod ein gair modern yn cynnwys mor- (= gair gwreiddiol am forgrug) a -crug (bryn). Onid gair am y twmpath, nid y trychfilyn, oedd morgrug yn wreiddiol?

Morgrug hedegog

Dyddiadau hedfan morgrug, Cymru yn bennaf 1933-2010

Credir mai tywydd arbennig syth yn sbarduno i freninesau gymryd i'r awyr yn eu miloedd ddiwedd yr haf. Bydd gwylannod, wenoliaid ac adar eraill yn manteisio ar gyflenwad parod o fwyd. Dyma gofnod gan Gwyn Williams, Rhuthun:

Rhuthun, 26 Gorffennaf 2010, am tua 7 o'r gloch ar noson drymaidd gweddol gynnes, penderfynodd trigolion cannoedd o nythod morgrug hedfan i'r awyr yn Rhuthun. Roedd 'na o leiaf 10 o nythod yn fy ngardd innau - i gyd yn arllwys morgrug adeiniog i'r awyr. Tybed sawl nyth sydd na yn Rhuthun i gyd? Rhai miloedd mae'n siŵr.[3]

Dyma ddyddiadau eraill hedfan morgrug (yn nhrefn amser) yn Nhywyddiadur Llên Natur (mae'n debyg mai'r morgrugyn melyn Lasius flavusoedd y rhan fwyaf ohonynt):

  • Minehead 26 Medi 1946: Mr. A. V. Cornish saw Jackdaws hawking flying ants.
  • Sidmouth, Dyfnaint; 13Awst1987: “pla, pawb yn sylwi”.
  • Birmingham, 6 Awst 1988: cwyno mawr eu bod yn mynd i bobman.
  • Harlech, 11Awst1988: Porthdinllaen. *4Medi1988. Trefor, Arfon.
  • 12 Awst 199X; Cwmistir, Tudweiliog
  • 19 Awst 1990. Ynys Enlli
  • 28 Gorffennaf 1992. Waunfawr
  • 24 Awst 1994 “yn blastar dros y lôn”. Foryd Caernarfon
  • 29 Awst 1994. Pontrug 6 Awst 2002: ”criw mawr o wylanod penddu uwchben”.
  • Waunfawr; 26 Gorffennaf 2006: “ar hyd y lonydd a'r ceir (wel, un car llwyd, nid ar un coch wrth ei ymyl!)”.
  • Dulyn,24 Gorffennaf 2008: adroddiad radio o Iwerddon.
  • Llansadwrn 28 Gorffennaf 2008: Overcast during the evening with flying ants emerging; last year they were seen here on 23 August..Soon eight or more large dragonflies were overhead picking them off, it was a spectacular flying display.[1] [4]

Sylwer mai ym mis Gorffennaf mae'r cofnodion diweddaraf.

Y Cylch-bywyd

Ym mis Awst mi allwn ni ddisgwyl gweld y sioe ryfeddol honno o forgrug asgellog yn codi o’u nythod i hedfan ar eu dawns garwriaethol. Mae’r olygfa hon yn un o ryfeddodau byd natur, a dim ond dan amodau penodol iawn y bydd yn digwydd – ar brynhawn tawel a phoeth pan fydd lleithder yr awyr yn weddol uchel. Mi fydd gan pob un o’r 42 o wahanol rywogaethau o forgrug yng ngwledydd Prydain eu hamodau eu hunain, o ran tymheredd a lleithder, cyn y gwnân nhw heidio fel hyn. Mae hyd yn oed 1⁄2° o wres yn gwneud gwahaniaeth – â’r rheswm pam, ydi, i sicrhau, yn un peth, mai dim ond y rhywogaeth honno fydd ar ei hediad – i osgoi mynd ar draws rhai eraill. Rheswm arall ydi i sicrhau bod morgrug gwryw a brenhinesau o wahanol nythod, ond o’r un math, yn dod at ei gilydd ar yr adeg iawn – a hynny’n gymylau trwchus o forgrug o nythod dros ardal eang. Mae raid i’w cyd amseru nhw fod yn berffaith, am mai un cyfle sydd yna yn y flwyddyn – i gael y dyddiad, yr awr, a’r amodau i’r dim. I ni, pan fydd heidiau o forgrug ar eu hediad, mi fydd yn arwydd o dywydd braf, ond bod yna hefyd siawns dda o derfysg cyn bo hir. Mae trefn dorfol y nythfa, efo’i chyfundrefn gymdeithasol gyd-ddibynnol ac i gyd yn gynnyrch brenhines, sy’n fam i’r nythfa gyfan, yn hanfodol i lwyddiant y cyfan. Mi roddodd cydweithredu fel hyn fantais aruthrol i’r morgrug i reoli ag egsploetio’u cynefin ac i amddiffyn eu hunain, neu’r nyth yn hytrach, rhag gelynion. Fel y dywedodd rywun: ‘go brin y llwydda un morgrugyn i ’neud llawer, ond mi fedr cant godi twmpath a miliwn godi mynydd’ (o bridd).[5]

Diwydrwydd diarhebol

Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn Llyfr y Diarhebion yn y Beibl ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”[6]. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi. Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw Chwedlau Æsop. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng Ngroeg yn y 6g CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

  • Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf[7]
  • Y morgrugyn ymffrostgar – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ymffrostio ymysg rhai mwy[8].
  • Y morgrugyn a’r golomen – stori am forgrugyn a ddisgynodd i ffynnon â’r golomen yn gollwng deileni’r dŵr i’w achub. Talwyd y pwyth yn ôl pan frathodd y morgrugyn sawdl dỳn oedd ar fin dal y golomen, gan ei galluogi i ddianc. Y wers ydy bod yr un cymwynas yn teilyngu y llall[9].
  • Gwythyr a’r morgrug Mae gan forgrug le anrhydeddus yn y chwedlau Cymreig hefyd. Yn stori Culhwch ac Olwen (8), un o’rtasgau amhosib a osodwyd gan Ysbadadden bencawr i Culhwch eu cy"awni cyn y gallai ennill llaw Olwen mewn priodas, oedd adfer naw llond llestr o had llin a heuwyd mewn llain arbennig o dir. Wrth lwc, pan achubodd un o gynorthwyr Culhwch, Gwythyr fab Greidawl, dwmpath morgrug rhag cael ei losgi gan dân cytunodd y morgrug diolchgar i hel yr hadau o’r pridd ar ei ran. Dyna wnaethpwyd ac roedd Gwythyr yn falch iawn pan gyrhaeddodd morgrugyn bach clo+ efo’r hedyn ola’ un.[10]

Enwau

Yr enw gwyddonol ar ein morgrug coch cyffredin ni yw Myrmica rubra – sylwch ar yr elfen ‘myr’ ynddo ac ystyriwch hefyd bod y gair morgrug yn tarddu o ‘mor’ a ‘crug’ (3) – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn fel y gwelwn mewn enwau lleoedd megis Crug y bar, Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, ac mae hynny’n rhoi’r argraff i mi bod ein cyn deidiau ni, yma yng Nghymru, yn ystyried mai y nythfa oedd bwysicaf yn hytrach na’r morgrugyn ar ben ei hun. Mae yna enwau ar wahanol fathau – morgrug coch (mewn gerddi a chloddiau pridd), morgrug duon (yn nythu dan balmant yr ardd), morgrug melyn neu forgrug y maes (yn creu twmpathau) a morgrug y coed (sy’n fwy o faint, ac i’w cael dan goed). Mewn rhai ardaloedd mi gewch chi enwau eraill ar forgrug. Mawion, neu mowion yn yr hen Sir Ddinbych, tra, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, arferid yr enwau mŷr, myrion (unigol: myrionen) yn nwyrain Morgannwg. Mi gewch chi hefyd morion, neu môr, (unigol: morionen), sydd yn debyg iawn i’r enw merion, merien (Llydaweg). O’r elfen myr, neu môr mae’r gair morgrug yn tarddu, ac mae o’n gyfuniad o mor a crug – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn, fel yn Crug y bar neu Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, sy’n dangos bod ein cyn deidiau ni’r Cymry yn ystyried bod y nythfa yn bwysicach na’r morgrugyn unigol.[11]

Defnyddiau meddygol

Prin yw’r cyfeiriadau at ddefnyddiau meddygol morgrug. Ond byddai bwyta wyau morgrug efo mêll yn rysait i leddfu siom cariad nas cydnabyddir. Yn yr Alban rhoddid wyau morgrug a sug nionyn yn y glust i wella byddardod, tra y defnyddid pâst o forgrug wedi eu morteru’n fân efo malwen mewn finegr i waredu dafaden oddi ar y croen. Byddai natur asid y morgrug a’r finegr gyda’i gilydd yn siwr o fod yn effeithiol yn yr achos hwn[12]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am bryf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Twm Elias; Llên Gwerin a Byd Natur: Morgrug – 5 yn Llafar Gwlad 113 (2011)
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru
  3. Gwyn Williams ym Mwletin Llên Natur rhif 31
  4. O'r Tywyddiadur i Fwletin Llên Natur rhif 31
  5. O sgript rhaglen Galwad Cynnar, Twm Elias (cyhoeddwyd gyda chaniatad Radio Cymru)
  6. Diarhebion VII (7)
  7. Chwedlau neu Ddammegion Æsop, cyfres gyntaf (dim dyddiad), Glan Alun, chwedl 7
  8. Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 56
  9. Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 92
  10. Culhwch ac Olwen, cyfaddasiad newydd Gwyn Thomas (1988), tud. 44 – 45.
  11. O sgript rhaglen Galwad Cynnar, Twm Elias (cyhoeddwyd gyda chaniatad Radio Cymru)
  12. ‭Cassell’s Dictionary of Superstitons‬ (1995)