Ffordd y Sidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KamikazeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ml:സിൽക്ക് റോഡ്
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.5) (robot yn newid: br:Hent ar Seiz
Llinell 19: Llinell 19:
[[bg:Път на коприната]]
[[bg:Път на коприната]]
[[bn:সিল্ক রোড]]
[[bn:সিল্ক রোড]]
[[br:Hent ar seiz]]
[[br:Hent ar Seiz]]
[[ca:Ruta de la Seda]]
[[ca:Ruta de la Seda]]
[[cs:Hedvábná stezka]]
[[cs:Hedvábná stezka]]

Fersiwn yn ôl 20:37, 4 Hydref 2011

Ffordd y Sidan yn y ganrif gyntaf OC

Defnyddir yr enw Ffordd y Sidan neu Llwybr y Sidan am y rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ar gyfer masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Defnyddid y rhain yn arbennig i gludo sidan o Tsieina i'r gorllewin. Defnyddid y llwybrau hyn o'r cyfnod clasurol hyd yn ddiweddar yn y Canol Oesoedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r term "Ffordd y Sidan" (Seidenstraße) oedd y daearyddwr Almaenig Ferdinand von Richthofen yn 1877.

Roedd dwy gangen i'r ffordd trwy ganolbarth Asia o ganolfannau masnachol Gogledd Tsieina. Roedd y gangen ogleddol yn arwain i ddwyrain Ewrop heibio penrhyn y Crimea a'r Môr Du. Roedd y gangen ddeheuol yn arwain trwy Turkestan-Khorasan ac Iran ar draws Mesopotamia i Antiochia a'r Môr Canoldir. Roedd y dinasoedd adnabyddus ar Ffordd y sidan yn cynnwys Damascus, Baghdad, Isfahan, Merv, Caergystennin, Balkh, Samarcand, Tashkent, Kashgar, Ürümqi, Xi'an a Hotan.

Yr Ewropead cyntaf i ddilyn Ffordd y Sidan cyn belled a Tsiena, yn ôl pob tebyg, oedd y masnachwr Eidalaidd Marco Polo.