Yasser Arafat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: eu:Jassir Arafat
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: oc:Yasser Arafat
Llinell 82: Llinell 82:
[[nn:Yasir Arafat]]
[[nn:Yasir Arafat]]
[[no:Yasir Arafat]]
[[no:Yasir Arafat]]
[[oc:Yasser Arafat]]
[[pa:ਯਾਸੀਰ ਅਰਾਫ਼ਾਤ]]
[[pa:ਯਾਸੀਰ ਅਰਾਫ਼ਾਤ]]
[[pdc:Yasser Arafat]]
[[pdc:Yasser Arafat]]

Fersiwn yn ôl 18:33, 4 Hydref 2011

Yasser Arafat, yn gwisgo keffiyeh Balesteinaidd

Ganwyd Yasser Arafat ar ( 4 Awst neu 24 Awst 1929 - 11 Tachwedd 2004) yn ninas Cairo, yr Aifft, ac ystyriwyd ef yn ymladdwr dros ryddid Palesteina gan ei gefnogwyr ac fel terfysgwr gan eraill megis Israel. Roedd yn gyd-sefydlydd Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) a'i gadeirydd o 1969 ymlaen, ac o dan faner y mudiad hwnnw bu'n gyfrifol am lu o ymosodiadau ar dargedau Israelaidd ac Arabiaidd fel ei gilydd. Daeth wedyn yn Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, ac yn gyd-enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1994, gyda Shimon Peres a Yitzhak Rabin.

Trwy'r rhan fwyaf o'i yrfa, bu'n brwydro dros ddileu'r Wladwriaeth Iddewig, ac er iddo gydnabod hawl Israel i fodoli yn yr 1990au cynnar, roedd llawer o Iddewon yn dal i fod yn ddrwgdybus ohono. Bu hefyd yn gorfod brwydro gydag arweinwyr rhai gwledydd Arabaidd eraill, fel yr Aifft a Gwlad Iorddonen, a oedd yn gweld ei fudiad yn fygythiad i'w hawdurdod.

Mynnodd Bassam Abu Sharif, sef cyn ymgynghorydd Arafat i Mossad wenwyno Arafat drwy roi gwenwyn yn ei fedyginiaeth.[1] Ond mynnodd rhai Israeliaid blaenllaw mai gwenwyn bwyd oedd yr achos dros ei farwolaeth.


Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

  1. http://www.aljazeerah.info/News/2009/July/21%20n/Israeli%20Mossad%20poisoned%20Arafat%20through%20his%20medications,%20says%20Bassam%20Abu%20Sharif.htm. Unknown parameter |gwaith= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help); Missing or empty |title= (help)