Persli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Gweler hefyd: tacluso a Blwch tacson using AWB |
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
== Gwahanol fathau == |
== Gwahanol fathau == |
||
Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: ''Petroselinum neapolitanum'') sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew [[apiol]] ynddo.<ref> |
Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: ''Petroselinum neapolitanum'') sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew [[apiol]] ynddo.<ref>{{Cite web |url=http://www.osagegardens.com/parsley.html |title=Gerddi Osage: persli |access-date=2009-04-16 |archive-date=2009-05-17 |archive-url=https://web.archive.org/web/20090517081304/http://www.osagegardens.com/parsley.html |url-status=dead }}</ref> Ond tyfu'r math cyrliog mae llawer o arddwyr, gan ei fod yn fwy anhebyg i'r [[cegid]] (Sa: ''hemlock''). |
||
Math arall sy'n gyffredin drwy [[Ewrop]] ac [[UDA]] yw'r [['Perllys gwreiddiog']] sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i [[panas]]. |
Math arall sy'n gyffredin drwy [[Ewrop]] ac [[UDA]] yw'r [['Perllys gwreiddiog']] sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i [[panas]]. |
Fersiwn yn ôl 17:49, 20 Chwefror 2021
Persli | |
---|---|
Llun botanegol o'r planhigyn Persli | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Petroselinum |
Rhywogaeth: | P. crispum |
Enw deuenwol | |
Petroselinum crispum (Mill.) Fuss |
Perlysieuyn blodeuol, defnyddiol iawn yn y gegin yw'r Persli neu'r Perllys (Lladin: Petroselinum crispum; Saesneg: Parsley) ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd. Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas llysiau'r bara (Sa: coriander), ond nad yw cweit mor gryf.
Gwahanol fathau
Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: Petroselinum neapolitanum) sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew apiol ynddo.[1] Ond tyfu'r math cyrliog mae llawer o arddwyr, gan ei fod yn fwy anhebyg i'r cegid (Sa: hemlock).
Math arall sy'n gyffredin drwy Ewrop ac UDA yw'r 'Perllys gwreiddiog' sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i panas.
Planhigyn cynorthwyol
(Saesneg: Companion plant). Mae'r perllys yn cael ei blannu'n aml, nid er mwyn ei fwyta, ond oherwydd ei fod yn atynnu gwenyn i'r ardd. Mae e felly'n cynorthwyo planhigion eraill. Er enghraifft, mae'n cael ei blannu ger planhigion tomato er mwyn dennu'r wenynen feirch, er mwyn iddi hithau ladd 'siani fachog y tomato' (Sa: tomato hornworms) sy'n gloddesta ar neithdar y planhigyn perllys. Yn ai, mae'r perllys yn creu arogl cryf iawn sy'n cuddio arogl y planhigyn tomato, ac felly mae hwnnw'n cael llonydd.
Rhinweddau meddygol
Dywedir fod y gwreiddiau'n cynnwys mwy o ddaioni na'r dail. Mae'r persli'n llawn o Fitamin C, Fitamin A a mwynau gwerthfawr sy'n lleddfu problemau yn yr arennau a'r bledren. Gellir gwasgu'r dail a'r gwreiddiau er mwyn defnyddio'r olew i ladd llau pen.[2][3]
Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.
Cyfeiriadau
- ↑ "Gerddi Osage: persli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-17. Cyrchwyd 2009-04-16.
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Gwefan Saesneg 'Gardens Ablaze'