Morlyn Llanw Abertawe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
[[Lagŵn]] llanw a thrai yw Lagŵn Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r dŵr y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn ôl ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y dŵr. |
[[Lagŵn]] llanw a thrai yw Lagŵn Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r dŵr y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn ôl ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y dŵr. |
||
Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym Mehefin 2015 gan [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Lywodraeth y DU]].<ref>[http://infrastructure.planningportal.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/EN010049/3.%20Post%20Decision%20Information/Other/Tidal%20Lagoon%20(Swansea%20Bay)%20decision%20letter.pdf infrastructure.planningportal.gov.uk;] adalwyd 18 Mehefin 2015</ref>. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym [[Bae Caerdydd|Mae Caerdydd]] ac yng [[Casnewydd|Nghasnewydd]], ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu £1bn o arian preifat, drwy [[cyfranddaliad|gyfranddaliadau]]. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynnol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n "gyfraniad sylweddol" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol. |
Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym Mehefin 2015 gan [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Lywodraeth y DU]].<ref>[http://infrastructure.planningportal.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/EN010049/3.%20Post%20Decision%20Information/Other/Tidal%20Lagoon%20(Swansea%20Bay)%20decision%20letter.pdf infrastructure.planningportal.gov.uk;]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} adalwyd 18 Mehefin 2015</ref>. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym [[Bae Caerdydd|Mae Caerdydd]] ac yng [[Casnewydd|Nghasnewydd]], ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu £1bn o arian preifat, drwy [[cyfranddaliad|gyfranddaliadau]]. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynnol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n "gyfraniad sylweddol" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol. |
||
==Adeiladu a'r economi leol== |
==Adeiladu a'r economi leol== |
Fersiwn yn ôl 12:48, 20 Chwefror 2021
Cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe yw Morlyn Llanw Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[1] Saif Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf.[2] Lleolir y morlyn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.
Lagŵn llanw a thrai yw Lagŵn Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r dŵr y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn ôl ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y dŵr.
Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym Mehefin 2015 gan Lywodraeth y DU.[3]. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym Mae Caerdydd ac yng Nghasnewydd, ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu £1bn o arian preifat, drwy gyfranddaliadau. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynnol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n "gyfraniad sylweddol" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol.
Adeiladu a'r economi leol
Bydd llawer o'r cydrannau'n cael eu creu yn lleol e.e. pob un o'r 25 tyrbein, y llifddorau, y cledrau, y peiriannau rheoli trydan, y gwaith concrid a'r ganolfan ymwelwyr. Credir y bydd y buddsoddiad yn yr economi leol, felly, dros £500,000. Yn ei anterth, bydd y gwaith adeiladu'n cyflogi oddeutu 1,900 o weithwyr llawn amser. Pan fydd y prosiect yn cynhyrchu trydan, amcangyfrifir y bydd oddeutu 180 o swyddi ac y bydd 70-100,000 o ymwelwyr yn cyrchu i'r fan hon. O ran incwm, disgwylir y bydd yn cynhyrchu £76 miliwn o bunnoedd. Yn groes i addewidion y cwmni, fodd bynnag, cwmni o Tsieina fy yn ymgymryd â'r gwaith o godi'r forglawdd.[4]
Mae'r tyrbeini, a fydd yn barhaol o dan wyneb y dŵr, wedi'u sefydlu ar dechnoleg parod ac yn debyg iawn i'r rhai ym Morglawdd La Rance, Llydaw.[5] Mae llafnau mewnol y tyrbein yn 7m o hyd. Cost y strwythyr dal tyrbeini 410-metr fydd £200m ac enillwyd y cytundeb am y gwaith gan Laing O’Rourke, cytundeb fydd yn creu 500 o swyddi.[4]
Maint
Bydd y morglawdd ei hun yn 9.5 km (chwe milltir) o hyd ac yn gweithredu hefyd fel morglawdd i Ddinas Abertawe gan amddiffyn adeiladau a phobl y ddinas rhag llid y llanw uchel, yn enwedig o ystyried y gall lefel y môr godi. Bydd yn troelli am ddwy filltir o'r traeth i'r môr.
Gwrthwynebiad
Ceir gwrthwynebiad i'r morlyn o ddau gyfeiriad: yn gyntaf oherwydd fod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw (Blackpill) ac yn ail oherwydd y bwriedir cloddio'r cerrig o hen chwarel Dean Point ger St Kevergne yng Nghernyw.[6][7][8]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ Tidal Lagoon Swansea Bay
- ↑ infrastructure.planningportal.gov.uk;[dolen marw] adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ 4.0 4.1 www.theguardian.com; The Guardian; adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ Papur y Telegraph; adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ Papur y Telegraph; adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ Papur y Telegraph; adalwyd 18 Mehefin 2015