Morgan Maddox Morgan-Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Rescuing 1 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
==Bywyd Cynnar== |
==Bywyd Cynnar== |
||
Cafodd Morgan-Owen ei eni yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yr hynnaf o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox<ref>{{cite web |url=http://owen.cholerton.org/09_timothy_02.php |title=James Owen of Penrhos and his descendants |publisher=owen.cholerton.org |work=Owen Cholerton}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Colet, Y Rhyl, Ysgol Amwythig a [[Coleg Oriel, Rhydychen|Choleg Oriel, Rhydychen]] gan gynrychioli tîm pêl-droed [[Prifysgol Rhydychen]] yn eu gêm flynyddol yn erbyn [[Prifysgol Caergrawnt]] ar dair achlysur - ym 1897, 1898 a 1900 a sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Caergrawnt ym 1900.<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1= Davies |first1=Gareth M. |last2=Garland |first2=Ian |page=144 |publisher=Bridge Books |ISBN=1 872424 11 2 |date=1991}}</ref><ref>{{cite web|url=http://www.ouafc.com/varsity-matches/view/27/Varsity-Match-1899-1900-Oxford-2-0-Cambridge |title=Varsity Match 1899/1900 |work=ouafc.com}}</ref> |
Cafodd Morgan-Owen ei eni yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yr hynnaf o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox<ref>{{cite web |url=http://owen.cholerton.org/09_timothy_02.php |title=James Owen of Penrhos and his descendants |publisher=owen.cholerton.org |work=Owen Cholerton}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Colet, Y Rhyl, Ysgol Amwythig a [[Coleg Oriel, Rhydychen|Choleg Oriel, Rhydychen]] gan gynrychioli tîm pêl-droed [[Prifysgol Rhydychen]] yn eu gêm flynyddol yn erbyn [[Prifysgol Caergrawnt]] ar dair achlysur - ym 1897, 1898 a 1900 a sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Caergrawnt ym 1900.<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1= Davies |first1=Gareth M. |last2=Garland |first2=Ian |page=144 |publisher=Bridge Books |ISBN=1 872424 11 2 |date=1991}}</ref><ref>{{cite web |url=http://www.ouafc.com/varsity-matches/view/27/Varsity-Match-1899-1900-Oxford-2-0-Cambridge |title=Varsity Match 1899/1900 |work=ouafc.com }}{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref> |
||
==Gyrfa Bêl-droed== |
==Gyrfa Bêl-droed== |
||
Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1897 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Iwerddon (1882–1950)|Iwerddon]] tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog [[Corinthian F.C.|Corinthian]]. Roedd yn gefnogwr brwd o'r ethos [[amatur]] ac ym 1906, pan gafwyd rhaniad yng [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr|Nghymdeithas Bêl-droed Lloegr]] dros chwaraewyr a chlybiau proffesiynol, roedd Morgan-Owen yn allweddol wrth ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed Amatur ([[Saesneg]]: ''The Amateur Football Association'')<ref name="whoswho" />. |
Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1897 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Iwerddon (1882–1950)|Iwerddon]] tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog [[Corinthian F.C.|Corinthian]]. Roedd yn gefnogwr brwd o'r ethos [[amatur]] ac ym 1906, pan gafwyd rhaniad yng [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr|Nghymdeithas Bêl-droed Lloegr]] dros chwaraewyr a chlybiau proffesiynol, roedd Morgan-Owen yn allweddol wrth ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed Amatur ([[Saesneg]]: ''The Amateur Football Association'')<ref name="whoswho" />. |
||
Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]], penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd [[Hugh Morgan-Owen]], oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web |url=http://www.oldsalopianfc.com/pages/page_5978/history.aspx |title=History of the Old Salopian Football Club |work=Old Salopian FC}}</ref>. |
Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]], penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd [[Hugh Morgan-Owen]], oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web |url=http://www.oldsalopianfc.com/pages/page_5978/history.aspx |title=History of the Old Salopian Football Club |work=Old Salopian FC |access-date=2015-08-02 |archive-date=2016-05-28 |archive-url=https://web.archive.org/web/20160528041143/http://www.oldsalopianfc.com/pages/page_5978/history.aspx |url-status=dead }}</ref>. |
||
Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i [[Hwngari]], [[Yr Almaen]], [[Bohemia]], [[Y Swistir]], [[Ffrainc]], [[Sbaen]], [[Canada]] a'r [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] ac roedd yn gapten y clwb ar eu taith i [[Brasil|Frasil]] ym 1910<ref name="tours">{{cite web |url=http://www.corinthian-casuals.com/corinthian-tours.html |title=Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe |work=Corinthian-Casuals.com}}</ref>; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn [[Sao Paulo]] i sefydlu [[Sport Club Corinthians Paulista]]<ref>{{cite web |url=http://almanaque.folha.uol.com.br/esporte_5dez1976b.htm |title=No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História |language=[[Portwgaleg]]}}</ref>. |
Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i [[Hwngari]], [[Yr Almaen]], [[Bohemia]], [[Y Swistir]], [[Ffrainc]], [[Sbaen]], [[Canada]] a'r [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] ac roedd yn gapten y clwb ar eu taith i [[Brasil|Frasil]] ym 1910<ref name="tours">{{cite web |url=http://www.corinthian-casuals.com/corinthian-tours.html |title=Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe |work=Corinthian-Casuals.com}}</ref>; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn [[Sao Paulo]] i sefydlu [[Sport Club Corinthians Paulista]]<ref>{{cite web |url=http://almanaque.folha.uol.com.br/esporte_5dez1976b.htm |title=No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História |language=[[Portwgaleg]]}}</ref>. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:41, 20 Chwefror 2021
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 20 Chwefror 1877 | ||
Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
Dyddiad marw | 14 Awst 1950 | (73 oed)||
Man lle bu farw | Willington Hall, Swydd Derby | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1896–1900 | Prifysgol Rhydychen | ||
1898–1913 | Corinthian | ||
Tîm Cenedlaethol | |||
1897–1907 | Cymru | 12 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Morgan Maddox Morgan-Owen (20 Chwefror 1877- 14 Awst 1950). Llwyddodd i ennill 12 cap dros Gymru rhwng 1897 a 1907 ac roedd yn aelod blaenllaw o glwb pêl-droed amatur Corinthian. Cafodd ei ddisgrifio fel "y Corinthian mwyaf o'r cyfnod Edwardaidd" gan hanesydd y clwb, Norman Creek[1].
Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]
Cafodd Morgan-Owen ei eni yng Nghaerdydd yr hynnaf o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox[2]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Colet, Y Rhyl, Ysgol Amwythig a Choleg Oriel, Rhydychen gan gynrychioli tîm pêl-droed Prifysgol Rhydychen yn eu gêm flynyddol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt ar dair achlysur - ym 1897, 1898 a 1900 a sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Caergrawnt ym 1900.[3][4]
Gyrfa Bêl-droed[golygu | golygu cod]
Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1897 yn erbyn Iwerddon tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog Corinthian. Roedd yn gefnogwr brwd o'r ethos amatur ac ym 1906, pan gafwyd rhaniad yng Nghymdeithas Bêl-droed Lloegr dros chwaraewyr a chlybiau proffesiynol, roedd Morgan-Owen yn allweddol wrth ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed Amatur (Saesneg: The Amateur Football Association)[3].
Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr, penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd Hugh Morgan-Owen, oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn[3][5].
Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i Hwngari, Yr Almaen, Bohemia, Y Swistir, Ffrainc, Sbaen, Canada a'r Unol Daleithiau ac roedd yn gapten y clwb ar eu taith i Frasil ym 1910[6]; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn Sao Paulo i sefydlu Sport Club Corinthians Paulista[7].
Ym 1921, daeth Morgan-Owen yn lywydd ar y clwb ac roedd yn is-lywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas Bêl-droed Amatur.
Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]
Ym 1914, roedd Corinthian FC ar daith arall i Dde America gan hwylio o Southampton. Erbyn cyrraedd Brasil roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn, felly teithiodd Morgan-Owen a'i gyfoedion yn syth yn ôl i Brydain er mwyn gwasanaethu[6]. Cyn y rhyfel, roedd Morgan-Owen wedi bod yn Gapten gyda Chatrawd Essex (Saesneg: Essex Regiment) Fyddin Diriogaethol ac ymunodd â'r gatrawd ar ôl dychwelyd o Frasil.
Cafodd y catrawd eu gyrru i Gallipoli lle cafodd Morgan-Owen ei ddyrchafu i fod yn Uwchgapten cyn cael ei anafu a'i yrru i'r Aifft. Ym 1916, ar ôl gwella o'i anafiadau, cafodd Morgan-Owen ei yrru i ymuno â'r 11th Battalion Rifle Brigade oedd yn Guillemont, Ffrainc yn paratoi ar gyfer Brwydr y Somme[8] a parhaodd gyda'r catrawd hyd at Drydedd Brwydr Ypres ym 1917.
Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd ei benodi'n Lefftenant-Cyrnol i arwain y 10th Battalion Rifle Brigade[9] a chafodd ei urddo â'r D.S.O. yn ystod Brwydr Cambrai[3].
Wedi'r Rhyfel[golygu | golygu cod]
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd Morgan-Owen i ddysgu a cafodd ei benodi'n athro yn Ysgol Repton lle roedd yn athro ar Roald Dahl[10]. Ar ôl ymddeol ym 1937, daeth yn Lywodraethwr ar Ysgol Repton a Choleg Amaethyddol Midland, oedd yn rhan o Brifysgol Nottingham.
Bu farw yn Willington Hall, Swydd Derby ar 14 Awst 1950 yn 73 mlwydd oed ac mae cofeb iddo yn Eglwys St. Michael, Willington.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "The Cardiff football star who helped to kick-start Brazil's love of football". Western Mail. WalesOnline.
- ↑ "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. owen.cholerton.org.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 144. ISBN 1 872424 11 2.
- ↑ "Varsity Match 1899/1900". ouafc.com.[dolen marw]
- ↑ "History of the Old Salopian Football Club". Old Salopian FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-28. Cyrchwyd 2015-08-02.
- ↑ 6.0 6.1 "Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe". Corinthian-Casuals.com.
- ↑ "No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História" (yn Portwgaleg).CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton.
- ↑ Hodgkinson, Dr Peter E. British Infantry Battalion Commanders in the First World War]. t. 78. ISBN 1 472438 256.
- ↑ "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton.