Gwyddor gwybodaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
|||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
==Cysylltiadau allanol== |
==Cysylltiadau allanol== |
||
*[http://www.ics.heacademy.ac.uk/about-us/cymraeg.php Y Ganolfan Rhwydwaith Cymorth Dysgu ac Addysgu ar gyfer Gwyddor Gwybodaeth a Chyfrifiadureg] |
*[http://www.ics.heacademy.ac.uk/about-us/cymraeg.php Y Ganolfan Rhwydwaith Cymorth Dysgu ac Addysgu ar gyfer Gwyddor Gwybodaeth a Chyfrifiadureg] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20061006211234/http://www.ics.heacademy.ac.uk/about-us/cymraeg.php |date=2006-10-06 }} |
||
*[http://www.cymruarywe.org/cayw/index/cy/020/all Cymru ar y We: Gwyddor llyfrgellyddiaeth a gwybodaeth] |
*[http://www.cymruarywe.org/cayw/index/cy/020/all Cymru ar y We: Gwyddor llyfrgellyddiaeth a gwybodaeth] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20060511194929/http://www.cymruarywe.org/cayw/index/cy/020/all |date=2006-05-11 }} |
||
[[Categori:Gwyddor gwybodaeth| ]] |
[[Categori:Gwyddor gwybodaeth| ]] |
Fersiwn yn ôl 23:35, 19 Chwefror 2021
Disgyblaeth academaidd a maes rhyngddisgyblaethol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, casgliad, trefniadaeth, storfa, adalwad, a lledaeniad gwybodaeth cofnodedig yw gwyddor gwybodaeth. Mae'n astudio cymhwysiad a defnydd gwybodaeth o fewn cyfundrefnau, a'r rhyngweithiad rhwng pobl, cyfundrefnau, a systemau gwybodaeth. Yn aml, astudir gwyddor gwybodaeth fel cangen o gyfrifiadureg neu wybodeg ac mae ganddo berthynas agos â'r gwyddorau cymdeithas a gwybyddol.
Mae gwyddor gwybodaeth yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth problemau yn gyntaf, ac yna cymhwyso technoleg gwybodaeth (neu dechnolegau eraill) fel bo'r angen. Mae sylw wedi cael ei roi yn y blynyddoedd diweddar i ryngweithiad dynol-cyfrifiadurol, cylchwedd, y we semantig, a'r ffyrdd mae pobl yn cynhyrchu, defnyddio a darganfod gwybodaeth.
Weithiau caiff gwyddor gwybodaeth ei chymysgu â llyfrgellyddiaeth, cyfrifiadureg, gwybodeg, a theori gwybodaeth, ac yn aml caiff ei grwpio gydag un o'r pynciau yma (gan amlaf llyfrgellyddiaeth, neu gyfrifiadureg).
Hanes
Darganfyddir gwreiddiau gwyddor gwybodaeth yn nogfennaeth, ym maes a yn natblygiad cyfrifiaduron digidol yn yr 1940au a dechrau'r 1950au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd yr angen i fwyhau trachywiredd a dyfnder chwiliadau llyfryddiaethol, ac arweiniodd hyn at ymdrechion i newid y dulliau traddodiadol o ddosbarthu. Cyflwynwyd ymchwiliad ffeiliau, mynegai cyd-gysylltiedig, a geirfâu rheoledig yn otomatig fel ymateb i'r angen cynyddol i greu mynediad hawdd i gynnwys cylchgronau gwyddonol. Cafodd crynodebau otomatig o ddogfenni eu datblygu i'w gwneud hi'n haws trin a thrafod darganfyddiadau ymchwil.
Yn yr 1960au trosglwyddwyd casgliadau enfawr o ddogfenni i gronfeydd data neu ffurfiau di-argraffedig, er mwyn medru chwilio trwy'r holl wybodaeth (gan ddefnyddio cyfrifiadur) yn hawdd. Erbyn 1980 roedd gwyddor gwybodaeth yn faes cyd-ddisgyblaethol, a gwelwyd twf mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial a thecholeg gwybodaeth o fewn addysg wedi dod yn bwysig iawn.
ffynonellau
- Microsoft Encarta Encyclopedia