Grace Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
ychwanegu delwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no |
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no |
||
| image = [[Delwedd:GraceWilliamscomposer.jpg]] |
|||
⚫ | |||
| nationality = {{banergwlad|Cymru}} |
|||
⚫ | |||
| dateformat = dmy |
| dateformat = dmy |
||
}} |
}} |
Fersiwn yn ôl 15:09, 19 Chwefror 2021
Grace Williams | |
---|---|
Ganwyd | Grace Mary Williams 19 Chwefror 1906 y Barri |
Bu farw | 10 Chwefror 1977 y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Arddull | opera |
Cyfansoddwraig Gymreig oedd Grace Mary Williams (19 Chwefror 1906 – 10 Chwefror 1977). Cafodd ei geni yn y Barri. Ar ôl gadael Ysgol y Sir, Y Barri, derbyniodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Yna aeth i goleg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd hi rhai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf. Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC. Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940). Rhwng 1960-61 ysgrifennodd ei hunig opera The Parlour, ond ni chafodd ei pherfformio tan 1966. Roedd yn dioddef llawer o broblemau iselwedd, ac ar ôl gwrthod OBE, bu farw yn 1977. Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Choncerto Fiolin.
Gwaith
Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cerddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, Fantasia on Welsh Nursery Tunes. Dyma rhestr o’i gwaith:
- Theseus and Ariadne, bale (1935)
- Four Illustrations for the Legend of Rhiannon, cerddorfa (1939)
- Fantasia on Welsh Nursery Tunes, cerddorfa (1940)
- Sinfonia Concertante, piano a cherddorfa (1941)
- Symffoni rhif 1 (1943)
- Sea Sketches, cerddorfa linynnol (1944)
- Concerto Piano (anorffenedig) (1949)
- The Dark Island, cerddorfa linynnol (1949)
- Concerto Feiolin (1950)
- Variations on a Swedish Tune, piano a cherddorfa (1950)
- The Dancers (1951)
- Hiraeth, telyn (1951)
- Three Nocturnes, 2 piano (1953)
- Seven Scenes for Young Listeners, cerddorfa (1954)
- Penillion, cerddorfa (1955)
- Symffoni rhif 2 (1956, diwygiedig 1975)
- All Seasons shall be Sweet (1959)
- The Parlour, opera (ar ôl Guy de Maupassant) (1961)
- Processional, cerddorfa (1962, diwygiedig 1968)
- Concerto Trumped (1963)
- Carillons, obo a cherddorfa (1965)
- Severn Bridge Variations: Amrywiad 5, cerddorfa (1966)
- Ballads, cerddorfa (1968)
- Castell Caernarfon, cerddorfa (1969)
- Missa Cambrensis (1971)
- Ave Maris Stella, côr SATB (1973)
- Fairest of Stars, soprano a cherddorfa (1973)
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- Tudalen Tŷ Cerdd