Edward John Sartoris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
== Bywyd Cynnar == |
== Bywyd Cynnar == |
||
Roedd Edward yn fab hynaf Urban Sartoris o Sceaux, ger [[Paris]] a'i wraig Matilda (née Tunno), cafodd ei eni yn [[Llundain]] a chafodd ei addysg yng [[Coleg y Drindod, Caergrawnt|Ngholeg y Drindod, Caergrawnt]]. Ym 1842 priododd y gantores opera [[Adelaide Kemble]]. Ym 1863, ar farwolaeth ewythr ei fam, Edward Tunno, etifeddodd ystadau yn Warnford, Hampshire a [[Llangennech]], [[Sir Gaerfyrddin]]. Roedd yr ystâd Cymreig yn cynnwys dyddodion mawr o [[Glo|lo]]<ref>{{cite web|url=http://llanelli-history.co.uk/houses_llangennech_park.htm|title=Llangennech Park|work=Llanelli History|accessdate=3 April 2011}}</ref> |
Roedd Edward yn fab hynaf Urban Sartoris o Sceaux, ger [[Paris]] a'i wraig Matilda (née Tunno), cafodd ei eni yn [[Llundain]] a chafodd ei addysg yng [[Coleg y Drindod, Caergrawnt|Ngholeg y Drindod, Caergrawnt]]. Ym 1842 priododd y gantores opera [[Adelaide Kemble]]. Ym 1863, ar farwolaeth ewythr ei fam, Edward Tunno, etifeddodd ystadau yn Warnford, Hampshire a [[Llangennech]], [[Sir Gaerfyrddin]]. Roedd yr ystâd Cymreig yn cynnwys dyddodion mawr o [[Glo|lo]]<ref>{{cite web|url=http://llanelli-history.co.uk/houses_llangennech_park.htm|title=Llangennech Park|work=Llanelli History|accessdate=3 April 2011|archive-date=2011-08-20|archive-url=https://web.archive.org/web/20110820050629/http://llanelli-history.co.uk/houses_llangennech_park.htm|url-status=dead}}</ref> |
||
== Gyrfa seneddol == |
== Gyrfa seneddol == |
Fersiwn yn ôl 15:04, 19 Chwefror 2021
Edward John Sartoris | |
---|---|
Ganwyd | 1814 |
Bu farw | 23 Tachwedd 1888 Hampshire |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Peter Sartoris |
Mam | Matilda Tunno |
Priod | Adelaide Kemble |
Plant | Greville Sartoris, Mary Sartoris, Algernon Sartoris |
Roedd Edward John Sartoris (tua 1814 – 23 Tachwedd 1888) yn dirfeddiannwr Prydeinig a gwleidydd Rhyddfrydol o dras Ffrengig.[1][2]
Bywyd Cynnar
Roedd Edward yn fab hynaf Urban Sartoris o Sceaux, ger Paris a'i wraig Matilda (née Tunno), cafodd ei eni yn Llundain a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Ym 1842 priododd y gantores opera Adelaide Kemble. Ym 1863, ar farwolaeth ewythr ei fam, Edward Tunno, etifeddodd ystadau yn Warnford, Hampshire a Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Roedd yr ystâd Cymreig yn cynnwys dyddodion mawr o lo[3]
Gyrfa seneddol
Roedd Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin gan ddau aelod seneddol wedi Deddf Diwygio Mawr 1832. Am nifer o flynyddoedd cyn 1868 tueddai etholiadau bod yn ddiwrthwynebiad, gyda'r ddau AS yn Geidwadwyr ac yn aelodau wedi eu dewis, yn ymarferol, gan deulu pwerus Campbell, Ieirll Cawdor.[4]
Wedi'r Ail Ddeddf Diwygio, a basiwyd ym 1867 cynyddodd yr etholfraint yn sylweddol, gan ganiatáu i nifer fawr o ddynion o'r dosbarth gweithiol i bleidleisio am y tro cyntaf. Bu hynny, ynghyd ag anghytundebau ymysg aelodau Blaid Geidwadol yr etholaeth parthed ddewis ymgeiswyr priodol ar gyfer y drefn newydd, yn rhoi hyder i Ryddfrydwyr Sir Gar i benderfynu ymladd etholiad cyffredinol 1868.[4][5]
Yn hytrach na dewis aelod o'r bonedd lleol cynhenid, dewisodd y Rhyddfrydwyr Sartoris fel eu hymgeisydd; dyn gweddol newydd i'r ardal un o'r tu fas, nad oedd yn ddarostyngedig i hen fuddiannau'r tirfeddianwyr traddodiadol. Roedd ei fuddiannau busnes yn Llanelli, ardal ddiwydiannol, oedd yn tyfu'n gyflym, a rhan o'r sir lle byddai'r etholfraint newydd ar ei gryfaf, yn fanteisiol iddo hefyd. Gyda pheiriant etholaethol effeithlon, a drefnwyd i raddau helaeth gan weinidogion anghydffurfiol yr ardal, sicrhaodd Sartoris buddugoliaeth ysblennydd, gyda'i 3,280 o bleidleisiau yn hawdd ennill sedd gyntaf yr etholaeth.
Dysgodd y Blaid Geidwadol a Chawdor gwers o gael eu trechu. Yn yr etholiad nesaf ym 1874 rhoddwyd mab ac etifedd Iarll Cawdor, yr Is-iarll Emlyn, yn ymgeisydd yn hytrach na chi arffed i'r teulu; a ddefnyddiwyd Y Sgriw (bygwth tenantiaid gyda'u torri allan a gweithwyr i gleientiaid Cawdor o golli eu gwaith); adenillwyd y sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr.
Bywyd amgen
Wedi colli ei yrfa Seneddol ymddeolodd Sartoris i'w ystâd, Parc Warnford yn Hampshire, ym 1874. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno priododd ei fab, Algernon Sartoris, Nellie Grant, merch Arlywydd yr Unol Daleithiau Ulysses S. Grant, ar 21 Mai 1874 yn Ystafell Dwyreiniol y Tŷ Gwyn[6].
Roedd Satoris yn hwyliwr brwd ac ym 1878 enillodd ei gwch hwylio May Regata Afon Hamble.
Marwolaeth
Bu farw yn Hampshire ym mis Tachwedd 1888 yn 74 mlwydd oed
Cyfeiriadau
- ↑ Williams, William Retlaw (1895). The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions. Brecknock: Privately published. t. 50.
- ↑ "Our New Members of Parliament". The Times. 5 December 1868. t. 7.
- ↑ "Llangennech Park". Llanelli History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-20. Cyrchwyd 3 April 2011.
- ↑ 4.0 4.1 Matthews, Ioan (June 1999). "Disturbing the Peace of the County". Welsh History Review 19 (3): 453–486. http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1083764/article/000016791. Adalwyd 3 April 2011.
- ↑ "Election Intelligence. Carmarthenshire". The Times. 11 August 1868. t. 10.
- ↑ Charles and Hugh Brogan Mosley, editors, American Presidential Families (London, U.K.: Alan Sutton and Morris Genealogical Books, 1994), page 469.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Pugh |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1868 – 1874 |
Olynydd: Is-iarll Emlyn |