David Rees (gwleidydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Gwybodlen newydd |
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 49: | Llinell 49: | ||
Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth . |
Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth . |
||
Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.<ref>http://www.david-rees.com/about-david/</ref> |
Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.<ref>{{Cite web |url=http://www.david-rees.com/about-david/ |title=copi archif |access-date=2016-05-10 |archive-date=2015-01-01 |archive-url=https://web.archive.org/web/20150101061954/http://www.david-rees.com/about-david/ |url-status=dead }}</ref> |
||
{{dechrau-bocs}} |
{{dechrau-bocs}} |
Fersiwn yn ôl 12:39, 19 Chwefror 2021
David Rees AS | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru dros Aberafan | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 5 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Brian Gibbons |
Mwyafrif | 6,402 (30.7%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Port Talbot | 17 Ionawr 1957
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Marie Rees |
Plant | 2 |
Cartref | Cwmafan, Port Talbot |
Alma mater | Prifysgol Caerdydd |
Gwaith | Darlithiwr |
Proffesiwn | Gwleidydd |
Gwefan | Gwefan wleidyddol |
Gwleidydd Llafur Cymru yw David Rees sydd wedi cynrychioli etholaeth Aberafan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 2011.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
Magwyd Rees ym Mhort Talbot a fe'i addysgwyd mewn ysgolion lleol cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg a chymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mynydd Cynffig, ac yna aeth yn ddarlithydd cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, tra'n gweithio mewn Addysg Uwch, enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac yn 2016 roedd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.[2]
Gyrfa wleidyddol
Ymunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid ac roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad.
Yn 2016 roedd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth .
Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.[3]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Brian Gibbons |
Aelod o'r Senedd dros Aberafan 2011 – |
Olynydd: deiliad |
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.senedd.assemblywales.org/mgUserInfo.aspx?
- ↑ http://www.davidrees.wales/about-david/ Ad-alwyd 18/2/17
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-01. Cyrchwyd 2016-05-10.