Amgueddfa Gelf Philadelphia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: zh:费城艺术博物馆
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 53: Llinell 53:
[[pt:Museu de Arte da Filadélfia]]
[[pt:Museu de Arte da Filadélfia]]
[[sv:Philadelphia Museum of Art]]
[[sv:Philadelphia Museum of Art]]
[[uk:Музей мистецтв Філадельфії]]
[[zh:费城艺术博物馆]]
[[zh:费城艺术博物馆]]

Fersiwn yn ôl 15:37, 2 Hydref 2011

Mae Amgueddfa Gelf Philadelphia, a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Yr Amgueddfa Gelf", yn un o amgueddfeydd celf mwyaf yr Unol Daleithiau. Fe'i lleolir ar ochr orllewinol y Benjamin Franklin Parkway ym Mharc Fairmount Philadelphia. Sefydlwyd yr amgueddfa ym 1876 mewn cydweithrediad a'r Dangosiad Canmlwyddiant yn yr un flwyddyn. Yn wreiddiol, cafodd ei alw'n Amgueddfa ac Ysgol Pennsylvania o Gelf Diwydiannol a chafodd ei ysbrydoli gan Amgueddfa De Kensington yn Llundain, (bellach Amgueddfa Victoria ac Albert). Agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai, 1877.

Cyswllt yr Amgueddfa â Philadelphia

Yn ogystal â phensaernïaeth a'r casgliadau, mae Amgueddfa Gelf Philadelphia yn enwog am yr olygfa enwog yn y ffilm Rocky, a'r ffilmiau olynnol, II, III, V a Rocky Balboa. Yn aml, gwelir ymwelwyr i'r amgueddfa yn efelychu rhediad enwog Sylvester Stallone i fyny'r grisiau o flaen yr adeilad.

Rhoddwyd cerflun efydd o Rocky ar ben y grisiau am gyfnod byr tra'n ffilmio Rocky III. Yn ddiweddarach, fe'i symudwyd i'r Wachovia Spectrum yn sgîl yn dadlau brwd a welwyd ynglyn ag ystyr "celf". Dychwelyd y cerflun i'r grisiau ar gyfer ffilmio Rocky V ac ymddengys yno yn y ffilmiau Philadelphia a Mannequin. Serch hynny, symudwyd y cerflun i waelod y grisiau ar yr 8fed o Fedi, 2006.

Oherwydd lleoliad yr amgueddfa, ar waelod y Ben Franklin Parkway, cynhelir nifer o gyngherddau a gorymdeithiau yno. Ar yr 2il o Orffennaf, 2005, defnyddiwyd grisiau'r amgueddfa i gynnal cyngerdd Live 8 Philadelphia, lle perfformiodd artistiaid megis Dave Matthews Band, Linkin Park a Maroon 5. Caeodd yr amgueddfa ar gyfer Live 8 ond ail-agorodd y diwrnod canlynol.

Daliadau Adnabyddus

Dolenni allanol