Cob Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 3: Llinell 3:
Math o [[merlyn|ferlyn]], (hy [[Ceffyl]] bach ysgafn) sy'n frodorol o Gymru yw'r '''Cob Cymreig'''. Mae'n un o bedwar adran y [[Merlyn Cymreig]], Adran D yn nosbarthiad [[Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig]].
Math o [[merlyn|ferlyn]], (hy [[Ceffyl]] bach ysgafn) sy'n frodorol o Gymru yw'r '''Cob Cymreig'''. Mae'n un o bedwar adran y [[Merlyn Cymreig]], Adran D yn nosbarthiad [[Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig]].


Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) ''Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder, ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch.'' Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag.<ref name=USEF/><ref name="WPCS C and D">[http://www.wpcs.uk.com/ponies/sectioncd.html Ponies and Cobs, Sections C and D] Adalwyd Awst 2009</ref><ref name=WPCSASecD>[http://www.welshpony.org/SectionD.htm Welsh Pony and Cob Society of America: Section D] adalwyd 14 Medi 2007</ref> Maent yn arbenig o ddof a chryf.<ref name=USEF>{{cite web|publisher=United States Equestrian Federation|accessdate=2009-07-01|title=Characteristics|url=http://www.usef.org/Contentpage2.aspx?id=welsh}}</ref><ref>{{cite web|publisher=United States Equestrian Federation|accessdate=2009-07-01|title=Origins|url=http://www.usef.org/Contentpage2.aspx?id=welsh}}</ref>
Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) ''Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder, ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch.'' Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag.<ref name=USEF/><ref name="WPCS C and D">[http://www.wpcs.uk.com/ponies/sectioncd.html Ponies and Cobs, Sections C and D] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20080108194712/http://www.wpcs.uk.com/ponies/sectioncd.html |date=2008-01-08 }} Adalwyd Awst 2009</ref><ref name=WPCSASecD>[http://www.welshpony.org/SectionD.htm Welsh Pony and Cob Society of America: Section D] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20080322200129/http://www.welshpony.org/SectionD.htm |date=2008-03-22 }} adalwyd 14 Medi 2007</ref> Maent yn arbenig o ddof a chryf.<ref name=USEF>{{cite web|publisher=United States Equestrian Federation|accessdate=2009-07-01|title=Characteristics|url=http://www.usef.org/Contentpage2.aspx?id=welsh}}</ref><ref>{{cite web|publisher=United States Equestrian Federation|accessdate=2009-07-01|title=Origins|url=http://www.usef.org/Contentpage2.aspx?id=welsh}}</ref>


Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr [[Oesoedd Canol]] ag y mae heddiw. Canodd [[Guto'r Glyn]] (c.1435 – c.1493) [[cywydd|gywydd]] i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd:
Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr [[Oesoedd Canol]] ag y mae heddiw. Canodd [[Guto'r Glyn]] (c.1435 – c.1493) [[cywydd|gywydd]] i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd:

Fersiwn yn ôl 08:54, 19 Chwefror 2021

Cob Cymreig
Cob Cymreig yn tynnu trol

Math o ferlyn, (hy Ceffyl bach ysgafn) sy'n frodorol o Gymru yw'r Cob Cymreig. Mae'n un o bedwar adran y Merlyn Cymreig, Adran D yn nosbarthiad Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig.

Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder, ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch. Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag.[1][2][3] Maent yn arbenig o ddof a chryf.[1][4]

Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr Oesoedd Canol ag y mae heddiw. Canodd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) gywydd i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd:

Mab i’r Du ym mhob erw deg
O Brydyn, o bai redeg;
Merch ei fam i’r march o Fôn
Aeth i ddwyn wyth o ddynion;
Mae wyrion i Ddu’r Moroedd,
Gwn mai un onaddun oedd.
Mae yngo nai Myngwyn Iâl
Ym Mhowys, nis rhwym hual.
Mae câr i farch Ffwg Gwarin,
A’i gâr a fâl gwair â’i fin.
Ucha’ march ei iachau ’m Môn,
O baladr Talebolion.
Dewis lwdn, nid oes ledach,
A’i draed yw ei bedair iach.[5]

Defnyddia Guto sawl enw am y cob, gan gynnwys [m]arch, ebol, gorwydd, eddestr a [p]lanc. Ar wefan gutorglyn.net, mae R. Iestyn Daniel wedi addasu'r cywydd i iaith heddiw:

Mab yw ef i’r Du o Brydyn
ym mhob erw deg, pe bai’n rhedeg;
merch yw ei fam i’r march o Fôn
a aeth i gludo wyth o ddynion;
mae yna wyrion gan Ddu’r Moroedd,
gwn mai un ohonynt oedd ef.
Mae Myngwyn Iâl yno
ym Mhowys, ni all hual ei rwymo.
Mae yna berthynas i farch Ffwg Gwarin,
ac mae ei berthynas yn malu gwair â’i geg.
Y march uchaf ei achau ym Môn ydyw,
o linach Talybolion.
Mae’n llwdn rhagorol, nid oes tras gymysg iddo,
a’i draed yw ei bedair ach.

Mewn cywydd arall mae'n disgrifio'r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell fel bridiwr ceffylau arbennig o dda. Roedd Powys yn enwog am ei cheffylau ers dyddiau Gerallt Gymro, a chanmolodd Cynddelw Brydydd Mawr geffylau tywysogion Powys yn 12g.[6]

Gweler heyfd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Characteristics". United States Equestrian Federation. Cyrchwyd 2009-07-01.
  2. Ponies and Cobs, Sections C and D Archifwyd 2008-01-08 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Awst 2009
  3. Welsh Pony and Cob Society of America: Section D Archifwyd 2008-03-22 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 14 Medi 2007
  4. "Origins". United States Equestrian Federation. Cyrchwyd 2009-07-01.
  5. gutorglyn.net; Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; adalwyd 7 Ionawr 2017.
  6. [http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/poem/?poem-selection=115 gutorglyn.net; Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; adalwyd 7 Ionawr 2017.

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.