Cherokee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 22: Llinell 22:
{{commons|Category:Cherokee}}
{{commons|Category:Cherokee}}
* {{eicon en}} [http://www.cherokee.org The Cherokee Nation] (safle swyddogol)
* {{eicon en}} [http://www.cherokee.org The Cherokee Nation] (safle swyddogol)
* {{eicon en}} [http://www.nc-cherokee.com/ Eastern Band of Cherokee Indians] (safle swyddogol)
* {{eicon en}} [http://www.nc-cherokee.com/ Eastern Band of Cherokee Indians] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20120119115031/http://www.nc-cherokee.com/ |date=2012-01-19 }} (safle swyddogol)
* {{eicon en}} [http://www.unitedkeetoowahband.org/ United Keetoowah Band] (safle swyddogol)
* {{eicon en}} [http://www.unitedkeetoowahband.org/ United Keetoowah Band] (safle swyddogol)



Fersiwn yn ôl 07:55, 19 Chwefror 2021

Baner Cenedl y Cherokee
Bachgen a merch Cherokee yng Ngogledd Carolina.

Grŵp ethnig o frodorion Gogledd America yw’r Cherokee. Daw’r gair "Cherokee" o’r iaith Choctaw "Cha-la-ke", sy’n golygu "y rhai sy’n byw yn y mynyddoedd". Yn wreiddiol roedd y Cherokee yn eu galw eu hunain y is Ah-ni-yv-wi-ya ("Y brif pobl"). Maent yn siarad Cherokee, iaith Iroquoiaidd, sy’n defnyddio orgraff a ddyfeisiwyd gan Sequoyah.

Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y 1600au roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr hyn sy’n awr yr Unol Daleithiau, yn enwedig taleithiau Georgia, Gogledd Carolina a De Carolina . Ystyrid hwy yn un o’r Pum Llwyth Gwareiddiedig. Yn y 1830au, gyda phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym. gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i Lwyfandir Ozark yn yr hyn a elwir yn Llwybr y Dagrau.

Yn ôl cyfrifiad 2000 yn yr Unol Daleithiau, y Cherokee yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn yr Unol Daleithiau, y rhan fwyaf ohonynt yn Oklahoma. Yn y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod a ddylai disgynyddion caethweision duon fu ym mherchenogaeth y Cherokee yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America gael eu hystyried fel aelodau o genedl y Cherokee. Mae’r ddadl yn parhau yn 2007, gyda nifer o achosion llys.

Cherokee enwog

Gweler hefyd

Cysylltiadau allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: