Hizb al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Cyfeiriadau: Manion cyffredinol / cyfieithu gan fwyaf using AWB
Rescuing 1 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 8: Llinell 8:
Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, ''Al-Fajr''. Cafodd golygydd ''Al Fajr'', Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn [[1992]] am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]]." Caniatawyd i aelodau o en-Nahda sefyll yn etholiadau [[1989]] ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn [[1991]]. Credir fod yr orsaf teledu [[Arabeg]] ''El Zeitouna'' yn gysylltiedig ag al-Nahda.
Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, ''Al-Fajr''. Cafodd golygydd ''Al Fajr'', Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn [[1992]] am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]]." Caniatawyd i aelodau o en-Nahda sefyll yn etholiadau [[1989]] ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn [[1991]]. Credir fod yr orsaf teledu [[Arabeg]] ''El Zeitouna'' yn gysylltiedig ag al-Nahda.


Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar [[27 Chwefror]] [[2006]], fel rhan o [[amnesti]] cyffredinol i [[carcharor gwleidyddol|garcharorion gwleidyddol]], rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn [[Zine Abedine Ben Ali]], Arlywydd Tiwnisia.<ref>[http://www.nawaat.org/forums/index.php?showtopic=10727&pid=33142&mode=threaded&show=&st=& Erthygl ar www.nawaat.org]</ref>
Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar [[27 Chwefror]] [[2006]], fel rhan o [[amnesti]] cyffredinol i [[carcharor gwleidyddol|garcharorion gwleidyddol]], rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn [[Zine Abedine Ben Ali]], Arlywydd Tiwnisia.<ref>[http://www.nawaat.org/forums/index.php?showtopic=10727&pid=33142&mode=threaded&show=&st=& Erthygl ar www.nawaat.org]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref>


==Llywodraeth==
==Llywodraeth==
Llinell 19: Llinell 19:
* {{eiconiaith|Arabeg}} [http://www.nahdha.info/arabe/index.php Gwefan swyddogol al-Nahda]
* {{eiconiaith|Arabeg}} [http://www.nahdha.info/arabe/index.php Gwefan swyddogol al-Nahda]
* {{eicon en}} [http://meria.idc.ac.il/journal/1997/issue2/jv1n2a7.html erthygl gan MERIA]
* {{eicon en}} [http://meria.idc.ac.il/journal/1997/issue2/jv1n2a7.html erthygl gan MERIA]
* {{eicon en}} [http://web.archive.org/web/20030625132727/http://www.biu.ac.il/SOC/besa/meria/journal/1998/issue2/sivan.pdf Erthygl gan Emmanuel Sivan] Ffeil [[PDF]]
* {{eicon en}} [https://web.archive.org/web/20030625132727/http://www.biu.ac.il/SOC/besa/meria/journal/1998/issue2/sivan.pdf Erthygl gan Emmanuel Sivan] Ffeil [[PDF]]


[[Categori:Gwleidyddiaeth Tiwnisia]]
[[Categori:Gwleidyddiaeth Tiwnisia]]

Fersiwn yn ôl 17:22, 18 Chwefror 2021

Erthygl am y blaid wleidyddol yw hon; am y mudiad diwylliannol gweler al-Nahda.
Arwyddlun Hizb al-Nahda

Plaid wleidyddol Islamig yn Nhiwnisia yw Hizb al-Nahda neu Hizb Ennahda (Arabeg النهضة "Plaid y Dadeni"; Ffrangeg, Parti de la Renaissance). Ei llywydd presennol yw Rached Ghannouchi. Er mai al-Nahda yw'r enw Arabeg safonol, cyfeirir ati yn Nhiwnisia wrth y ffurf Arabeg llafar Tiwnisaidd, sef En-Nadha (Ennadha) neu "Nahda".

Hanes

Cafodd y blaid ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw Action islamique, wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn 1989 i Hizb al-Nahda.[1] Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau Sayyid Qutb a Maududi, o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid democratiaeth a ffurf "Diwnisaidd" ar Islamiaeth a fyddai'n cydnabod lluosogaeth wleidyddol. Galwant hefyd am drafod gyda'r Gorllewin. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld cyfansoddiad gwaelodol Islamaidd yn lle'r un seciwlar presennol yn Nhiwnisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, Rashid Al-Ghannushi, o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan llywodraeth Tiwnisia oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.

Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, Al-Fajr. Cafodd golygydd Al Fajr, Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn 1992 am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y wladwriaeth." Caniatawyd i aelodau o en-Nahda sefyll yn etholiadau 1989 ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn 1991. Credir fod yr orsaf teledu Arabeg El Zeitouna yn gysylltiedig ag al-Nahda.

Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar 27 Chwefror 2006, fel rhan o amnesti cyffredinol i garcharorion gwleidyddol, rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn Zine Abedine Ben Ali, Arlywydd Tiwnisia.[2]

Llywodraeth

Yn dilyn Chwyldro Tiwnisia, dychwelodd Ghannouchi o alltudiaeth dramor a daeth en-Nahda yn rym pwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad. Yn wyneb natur ranedig y pleidiau seciwlar niferus, enillodd en-Nahda yr etholiad cyntaf i'w gynnal ar ôl cwymp Ben Ali a ffurfiodd lywodraeth leiafrifol. Cafwyd cyfnod helbulus gyda streiciau a phrotestiadau gan y Chwith seciwlar a'r undebau llafur yn erbyn polisiau islamaidd ceidwadol en-Nahda.

Cyfeiriadau

  1. Columbia World Dictionary of Islamism, Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5
  2. Erthygl ar www.nawaat.org[dolen marw]

Dolenni allanol