Benito Juárez: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 22: Llinell 22:
== Llywodraethau Álvarez a Comonfort (1855–57) ==
== Llywodraethau Álvarez a Comonfort (1855–57) ==
Yn sgil buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr, dychwelodd Juárez i Fecsico ac ymunodd â llywodraeth newydd yr Arlywydd Juan Álvarez yn swyddi'r gweinidog cyfiawnder a gweinidog addysg gyhoeddus.
Yn sgil buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr, dychwelodd Juárez i Fecsico ac ymunodd â llywodraeth newydd yr Arlywydd Juan Álvarez yn swyddi'r gweinidog cyfiawnder a gweinidog addysg gyhoeddus.
Yn y cyfnod hwn, gwasanaethodd Juárez hefyd yn Llywodraethwr Oaxaca unwaith eto, o 10 Ionawr 1856 i 3 Tachwedd 1857.]
Yn y cyfnod hwn, gwasanaethodd Juárez hefyd yn Llywodraethwr Oaxaca unwaith eto, o 10 Ionawr 1856 i 3 Tachwedd 1857.


== Arlywyddiaeth (1857–72) ==
== Arlywyddiaeth (1857–72) ==

Fersiwn yn ôl 07:42, 7 Chwefror 2021

Benito Juárez
Ganwyd21 Mawrth 1806 Edit this on Wikidata
San Pablo Guelatao Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1872 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Instituto de Ciencias y Artes de Oaxaca Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, barnwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Governor of Oaxaca, President of the Supreme Court of Justice of the Nation, Governor of Oaxaca Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata
PriodMargarita Maza Edit this on Wikidata
PlantBenito Juárez Maza Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd, cyfreithiwr a barnwr Mecsicanaidd oedd Benito Pablo Juárez García (21 Mawrth 180618 Gorffennaf 1872) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1861 i 1872.[1]

Bywyd cynnar ac addysg (1806–31)

Ganed Benito Pablo Juárez García ar 21 Mawrth 1806 ym mhentref San Pablo Guelatao, Oaxaca, Sbaen Newydd. Gwerinwyr Zapotec oedd ei rieni, a fuont farw pan oedd Benito yn 3 oed. Cafodd ei fagu gan ei daid a'i nain, ac yna ei ewythr, cyn iddo symud i ddinas Oaxaca yn 12 oed i fyw gyda'i chwaer. Yn Oaxaca gweithiodd Benito i rwymwr llyfrau o'r enw Don Antonio Salanueva a chafodd wersi gydag athro lleol. Yr iaith Zapotec oedd ei unig iaith nes iddo dderbyn addysg a dysgu'r Sbaeneg yn Oaxaca.[2]

Fe'i hyfforddwyd i fod yn offeiriad yng Ngholeg Diwinyddol Santa Cruz nes 1827.[2] Penderfynodd Benito dilyn galwedigaeth arall, a chafodd ei dderbyn i Athrofa Celfyddydau a Gwyddorau Oaxaca ym 1829 i astudio'r gyfraith, ac enillodd ei radd ym 1831.[1]

Gyrfa wleidyddol gynnar (1831–47)

Oherwydd y nifer fawr o gyfreithwyr a oedd yn cystadlu am swyddi yn y proffesiwn hwnnw, trodd Juárez ei sylw at fyd gwleidyddiaeth, ac ymunodd â chyngor dinesig Oaxaca ym 1831. Fe'i etholwyd ym 1835 i gynrychioli'r ddinas, fel aelod o'r Blaid Ryddfrydol, yn y ddeddfwrfa ffederal.[2] Enillodd enw iddo'i hun fel gwas cyhoeddus gonest a diymhongar a chanddo daliadau rhyddfrydol a diwygiadol. Yn ogystal â'i dyletswyddau gwleidyddol, bu Juárez hefyd yn trin y gyfraith ac yn cynrychioli cymunedau brodorol tlawd yn y llysoedd.

Yng nghyfnod y Weriniaeth Ganoliaethol (1835–46), penodwyd Juárez i sawl swydd broffesiynol a gwleidyddol gan yr awdurdodau Ceidwadol yn nhalaith Oaxaca, er enghraifft yn farnwr ffederal ym 1841. Fodd bynnag, ni cheisiodd Juárez ymwneud â gwleidyddiaeth etholedig am nifer o flynyddoedd.

Priododd Benito Juárez â Margarita Maza, merch o deulu cyfoethog, ym 1843. Wedi i'r Blaid Ryddfrydol, dan yr Arlywydd Valentín Gómez Farías, ail-gipio grym ym 1846, dychwelodd Juárez at fyd gwleidyddiaeth.

Llywodraethwr Oaxaca (1847–52)

Penodwyd Juárez yn llywodraethwr dros dro Oaxaca ym 1847, a fe'i etholwyd i'r swydd honno ym 1848. Aeth ati i gyfyngu ar lygredigaeth yn y llywodraeth daleithiol ac i adeiladu ffyrdd, ysgolion, ac adeiladau cyhoeddus. Daeth ei gyfnod yn y swydd i ben ar 12 Awst 1852.

Alltudiaeth (1853–55)

Wedi i'r Ceidwadwyr gipio grym dan Antonio López de Santa Anna a Lucas Alamán ym 1853, alltudiwyd arweinwyr y Blaid Ryddfrydol, gan gynnwys Juárez. O Ragfyr 1853 hyd at Fehefin 1855, bu Juárez yn byw'n dlawd yn New Orleans, Unol Daleithiau America. Parhaodd i gysyllti â Rhyddfrydwyr eraill a chynlluniasant i ddychwelyd i Fecsico ac adfer y drefn Ryddfrydol. Cytunodd Juan Álvarez, Ignacio Comonfort, a Juárez ar Gynllun Ayutla i ddymchwel Sant Anna, a chwympodd y llywodraeth Geidwadol ym 1855.

Llywodraethau Álvarez a Comonfort (1855–57)

Yn sgil buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr, dychwelodd Juárez i Fecsico ac ymunodd â llywodraeth newydd yr Arlywydd Juan Álvarez yn swyddi'r gweinidog cyfiawnder a gweinidog addysg gyhoeddus. Yn y cyfnod hwn, gwasanaethodd Juárez hefyd yn Llywodraethwr Oaxaca unwaith eto, o 10 Ionawr 1856 i 3 Tachwedd 1857.

Arlywyddiaeth (1857–72)

Rhyfel La Reforma (1857—60)

Arlywyddiaeth gyfansoddiadol (1860–63)

Ymerodraeth Mecsico (1863–67)

Y Weriniaeth Adferedig (1867–72)

Bu farw Benito Juárez ar 18 Gorffennaf 1872 yn Ninas Mecsico yn 66 oed, o drawiad ar y galon. Fe'i cleddir yn Panteón de San Fernando yn Ninas Mecsico. Olynwyd yr arlywyddiaeth gan Sebastián Lerdo de Tejada.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Benito Juárez. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Juárez, Benito", yn UXL Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 10 Tachwedd 2020.