Sgorio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 21: Llinell 21:
Uchafbwyntiau pêl-droed o [[La Liga]] yn [[Sbaen]] a phêl-droed [[Yr Eidal]] yn [[Serie A]] oedd conglfaen y rhaglen ac, yn y dyddiau cyn teledu lloeren, yn denu gwylwyr o dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]]. Ers 2008 mae ''Sgorio'' yn darlledu gêm fyw o [[Uwch Gynghrair Cymru]] ar brynhawn Sadwrn gydag uchafbwyntiau gweddill y gemau yn ymddangos ochr yn ochr ag uchafbwyntiau [[La Liga]] yn rhaglen nos Lun.
Uchafbwyntiau pêl-droed o [[La Liga]] yn [[Sbaen]] a phêl-droed [[Yr Eidal]] yn [[Serie A]] oedd conglfaen y rhaglen ac, yn y dyddiau cyn teledu lloeren, yn denu gwylwyr o dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]]. Ers 2008 mae ''Sgorio'' yn darlledu gêm fyw o [[Uwch Gynghrair Cymru]] ar brynhawn Sadwrn gydag uchafbwyntiau gweddill y gemau yn ymddangos ochr yn ochr ag uchafbwyntiau [[La Liga]] yn rhaglen nos Lun.


[[Dylan ERbenezer]] a [[Morgan Jones]] sydd yn cyflwyno gyda chyn ymosodwr [[Newcastle United F.C.|Newcastle United]] a [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Chymru]], [[Malcolm Allen]] a chyn chwaraewr canol cae [[C.P.D. Dinas Abertawe|Abertawe]] a Chymru, [[Owain Tudur-Jones]].
[[Dylan Ebenezer]] a [[Morgan Jones]] sydd yn cyflwyno gyda chyn ymosodwr [[Newcastle United F.C.|Newcastle United]] a [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Chymru]], [[Malcolm Allen]] a chyn chwaraewr canol cae [[C.P.D. Dinas Abertawe|Abertawe]] a Chymru, [[Owain Tudur-Jones]].


== Y Rhaglen Gyntaf ==
== Y Rhaglen Gyntaf ==

Fersiwn yn ôl 07:50, 30 Ionawr 2021

Sgorio
Fformat Rhaglen Chwaraeon
Cyflwynydd Dylan Ebenezer a Morgan Jones
Sianel S4C
Gwlad Cymru
Rhaglen Gyntaf 5 Medi 1988
Rhaglen Olaf presennol
Wefan http://www.s4c.co.uk/sgorio

Rhaglen deledu sy'n dangos pêl-droed ydy Sgorio. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni teledu Rondo ar gyfer S4C. Cafodd y rhaglen gyntaf ei ddarlledu ar 5 Medi 1988[1] ac er ei fod wedi gwneud ei farc trwy ddangos pêl-droed Ewropeaidd, dechreuodd y gyfres trwy ddangos amryw chwaraeon, gan gynnwys ralio, rygbi'r gynghrair, hyrlio, pêl-droed Gaelaidd, hoci ia a dringo.

Uchafbwyntiau pêl-droed o La Liga yn Sbaen a phêl-droed Yr Eidal yn Serie A oedd conglfaen y rhaglen ac, yn y dyddiau cyn teledu lloeren, yn denu gwylwyr o dros Glawdd Offa. Ers 2008 mae Sgorio yn darlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru ar brynhawn Sadwrn gydag uchafbwyntiau gweddill y gemau yn ymddangos ochr yn ochr ag uchafbwyntiau La Liga yn rhaglen nos Lun.

Dylan Ebenezer a Morgan Jones sydd yn cyflwyno gyda chyn ymosodwr Newcastle United a Chymru, Malcolm Allen a chyn chwaraewr canol cae Abertawe a Chymru, Owain Tudur-Jones.

Y Rhaglen Gyntaf

Daeth y syniad am raglen bêl-droed Ewropeaidd gan gwmni teledu annibynol, Ffilmiau'r Nant yn dilyn trosglwyddiadau Ian Rush o Lerpwl i Juventus a Mark Hughes o Manchester United i Barcelona. Yn anffodus erbyn i'r rhaglen gyntaf gael ei darlledu ar 5 Medi 1988, roedd y ddau chwaraewr wedi dychwelyd i'w clybiau yn Lloegr!

Cyflwynydd y rhaglen gyntaf oedd cyn asgellwr Abertawe a Chymru, Arthur Emyr gyda'r gohebydd a'r sylwebydd Emyr Davies yn Barcelona ar gyfer y gêm ddarbi rhwng Barça ac Espanyol yn y Camp Nou. Yn ogystal â'r pêl-droed, roedd Rownd Derfynol Pencampwriaeth Hyrlio Iwerddon rhwng Galway a Tipperary, tenis o Cincinnati lle roedd Stefan Edberg yn herio Mats Wilander, badminton o Hong Cong a gêm pêl-fasged rhwng Yr Undeb Sofietaidd ac Awstralia.

Pêl-droed Ewropeaidd

Yn y 1990au cynnar penderfynodd S4C y dylai'r rhaglen ganolbwyntio ar uchafbwyntiau pêl-droed gyda'r Bundesliga o'r Almaen yn cael ei ychwanegu at La Liga a Serie A, ac ym 1997 darlledwyd El Clásico rhwng Real Madrid a Barcelona yn fyw ar S4C gyda is-reolwr presennol Cymru, Osian Roberts yn un o'r gwesteion stiwdio.

Mae Sgorio hefyd wedi darlledu uchafbwyntiau o'r Eredivisie yn Yr Iseldiroedd, Ligue 1 yn Ffrainc a'r Primeira Liga o Bortiwgal dros y blynyddoedd.

Cyflwynwyr

Arthur Emyr oedd y cyflwynydd gwreiddiol ond pan adawodd y rhaglen ym 1995, Amanda Protheroe Thomas gymrodd yr awenau, gan ddod yn un o'r merched cyntaf i gyflwyno rhaglen deledu bêl-droed. Yn 2002 daeth Morgan Jones yn drydydd cyflwynydd y gyfres cyn symud i arwain y rhaglenni byw ar brynhawn Sadwrn yn 2008 ochr yn ochr â Malcolm Allen, gyda Nic Parry ac Alun Williams yn cyflwyno ar nos Lun.

Rhwng 2010 a 2014 ymunodd Dylan Ebenezer â'r tîm fel cyflwynydd a sylwebydd gyda chyn ymosodwr Celtic a Chymru, John Hartson hefyd yn ymuno fel un o'r gwybodusion. Ar gyfer tymor 2014-2015 symudodd Sgorio i fod yn rhan o raglen chwaraeon Clwb ar ddydd Sul gyda Nicky John yn cyflwyno o'r meysydd pêl-droed ond dychwelodd i brynhawn Sadwrn ar gyfer tymor 2015-16 gyda'r cyn bêl-droediwr rhyngwladol Gwennan Harries yn ymuno â'r tîm cyflwyno[2].

Rhaglenni Eraill

Yn ogystal â gemau rhyngwladol Cymru, mae Sgorio wedi dangos gemau byw o Gynghrair y Pencampwyr, Cynghrair Europa, Cwpan FA a Thlws FA o dan faner Sgorio.

Cyfeiriadau

  1. "Sgorio'n dathlu pen-blwydd yn 25 mlwydd oed". Sgorio.
  2. "Gwennan Harries yn ymuno â thîm Sgorio". Sgorio. s4c.cymru/sgorio.

Dolenni allanol

Chwiliwch am Sgorio
yn Wiciadur.