Ieithoedd Slafonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud Ieithoedd Slafig i Ieithoedd Slafeg trwy ailgyfeiriad. |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:34, 9 Chwefror 2007
Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r ieithoedd Slafeg, hefyd ieithoedd Slafoneg. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafeg Gorllewinol (Pwyleg, Slofaceg, Sorbeg a Tsieceg), yr ieithoedd Slafeg Dwyreiniol (Belarwsieg, Rwsieg ac Wcreineg, a'r ieithoedd Slafeg Deheuol (Bosneg, Bwlgareg, Croateg, Macedoneg, Serbeg a Slofeneg). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafeg gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafeg eraill wedi marw: Hen Slafoneg Eglwysig (Slafeg deheuol) a Polabeg (iaith Slafig gogledd-orllewin yr Almaen).
Heddiw mae'r ieithoedd Slafeg yn defnyddio naill ai'r wyddor Gyrilig neu'r wyddor Ladin ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafeg Gorllewinol a Deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio Bwlgareg, Macedoneg, ac, i radd helaeth, Serbeg, sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafeg Dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer Hen Slafoneg Eglwysig gan SS. Cyril a Methodiws, o'r nawfed ganrif ymlaen yn y gwledydd Slafig deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ffynonellau
- Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. The Slavonic languages. Llundain: Routledge.
- De Bray, Reginald G. A. 1970. Guide to the Slavonic languages. Llundain.
- Horálek, K. 1992. Introduction to the study of the Slavonic languages. Nottingham: Astra Press.