Vicente Guerrero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:04, 25 Ionawr 2021

Vicente Guerrero
Portread o Vicente Guerrero gan Anacleto Escutia (1850).
GanwydVicente Ramón Guerrero Edit this on Wikidata
10 Awst 1782 Edit this on Wikidata
Tixtla de Guerrero Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1831 Edit this on Wikidata
Cuilapan de Guerrero Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
GalwedigaethMilitar, person milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Q21012296, Q21012404 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata
llofnod

Milwr a gwleidydd Mecsicanaidd oedd Vicente Guerrero (10 Awst 178214 Chwefror 1831) a fu'n arlywydd y Weriniaeth Ffederal Gyntaf o Ebrill i Ragfyr 1829, yr ail arlywydd yn hanes Mecsico.

Ganed i deulu o werinwyr yn mhentref Tixtla, Nueva Vizcaya, Rhaglywiaeth Sbaen Newydd. Mestiso oedd ei dad, ac un o dras Affricanaidd oedd ei fam. Oherwydd y drefn gast, nid oedd modd i fachgen hilgymysg dderbyn addysg ffurfiol a bu'n rhaid i Vicente weithio fel gyrrwr mulod.[1]

Cychwynnodd ar ei yrfa filwrol ym 1810 fel un o wrthryfelwyr Hermenegildo Galeana, ac ymhen fawr o dro fe'i dyrchafwyd yn gapten am ei ddewrder a'i allu tactegol. Comisiynwyd gan y chwyldroadwr José Maria Morelos i arwain yr ymgyrch annibyniaeth yn ucheldiroedd de-orllewin Mecsico ac enillodd reng cyrnol am ei fuddugoliaethau yn erbyn y Sbaenwyr.[1] Yn sgil marwolaeth Morelos ym 1815 aeth Guerrero a'i ddynion ar herw yn y mynyddoedd i wrthsefyll cyrchoedd gan y lluoedd Brenhinol. Ym 1821 ymunodd â lluoedd Agustín de Iturbide, cyrnol a drodd yn erbyn Ymerodraeth Sbaen. Cyhoeddwyd Cynllun Iguala gan Iturbide a Guerrero ym 1821 ac enillodd Mecsico ei hannibyniaeth oddi ar Sbaen.

Ymgeisiodd Guerrero am yr arlywyddiaeth ym 1828, ac wedi iddo golli'r etholiad ymunodd â'r gwrthryfel rhyddfrydol yn erbyn yr arlywydd etholedig, Manuel Gómez Pedraza, a ffoes o'r wlad. Esgynnodd Guerrero i'r arlywyddiaeth yn sgil ymddiswyddo Guadalupe Victoria ar 1 Ebrill 1829. Yng Ngorffennaf, glaniodd longau Sbaenaidd ger Tampico mewn ymgais i adennill Mecsico. Daeth yr ymgyrch honno i ben yn sgil buddugoliaeth y Mecsicanwyr ym Mrwydr Pueblo Viejo ym Medi.

Er gwaethaf ei arweinyddiaeth ar faes y gad, nid oedd Guerrero yn llywodraethwr effeithiol, a chynllwyniodd y Cadfridog Antonio López de Santa Anna i'w ddymchwel a rhoi'r Is-arlywydd Anastasio Bustamante yn ei le. Derbyniodd Guerrero ganiatâd y Gyngres i arwain yr ymgyrch yn erbyn gwrthryfel Bustamante, a phenodwyd José María Bocanegra yn arlywydd dros dro yn Rhagfyr 1829. Cafodd Bocanegra ei ddisodli gan lywodraeth driwrol yr Arlywydd Pedro Vélez, Lucas Alamán, a Luis de Quintanar, a barodd hyd at urddo Bustamante yn arlywydd ar 1 Ionawr 1830. Arweiniodd Guerrero ei ymgyrch yn erbyn Bustamente hyd at ei gipio yn Acapulco yn Ionawr 1831. Cafwyd yn euog o frad a fe'i dienyddiwyd gan fintai saethu yn Cuilapan ar 14 Chwefror, yn 48 oed.

Enwir talaith Guerrero, ei fro enedigol, ar ei ôl.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Vicente Guerrero" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 25 Ionawr 2021.

Darllen pellach

  • Silvia Martínez del Campo, Vicente Guerrero (Dinas Mecsico: Planeta Mexicana, 2005).
  • William Forrest Sprague, Vicente Guerrero, Mexican Liberator: A Study in Patriotism (Chicago: R.R. Donnelley, 1939).
  • Theodore G. Vincent, The Legacy of Vicente Guerrero: Mexico's First Black Indian President (Gainesville, Fflorida: University Press of Florida, 2001).