Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 353: Llinell 353:


Mae Cronfa CADW efo'r holl adeiladai cofrestredig yng Nghymru wedi bod ar Wikidata ers sawl blwyddyn nawr ond an anffodus nid yw CADW yn cofnodi enw Cymraeg y safleoedd. Dw'i wedi llwydo ychwanegu disgriffiadau i Wikidata gan denfyddio'r data sydd efo ni, ond er mwyn dechrau cyfieithu'r enwau mae angen gwirfoddolwyr! Dros y ddau fis nesaf byddaf yn annog pobol i cyfrannu at y [https://docs.google.com/spreadsheets/d/1g9BuRzdxbT0JrV99Jh-_kjqLYQ0dapWhQzHuJUZVj0I/edit?usp=sharing '''ddogfen yma'''] er mwyn dechrau casglu enwau Cymraeg ac ychwanegu at y cofnodion Wikidata. Byddaf yn diolchgar am unrhyw cymorth! Cofion [[Defnyddiwr:Jason.nlw|Jason.nlw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Jason.nlw|sgwrs]]) 11:20, 18 Ionawr 2021 (UTC)
Mae Cronfa CADW efo'r holl adeiladai cofrestredig yng Nghymru wedi bod ar Wikidata ers sawl blwyddyn nawr ond an anffodus nid yw CADW yn cofnodi enw Cymraeg y safleoedd. Dw'i wedi llwydo ychwanegu disgriffiadau i Wikidata gan denfyddio'r data sydd efo ni, ond er mwyn dechrau cyfieithu'r enwau mae angen gwirfoddolwyr! Dros y ddau fis nesaf byddaf yn annog pobol i cyfrannu at y [https://docs.google.com/spreadsheets/d/1g9BuRzdxbT0JrV99Jh-_kjqLYQ0dapWhQzHuJUZVj0I/edit?usp=sharing '''ddogfen yma'''] er mwyn dechrau casglu enwau Cymraeg ac ychwanegu at y cofnodion Wikidata. Byddaf yn diolchgar am unrhyw cymorth! Cofion [[Defnyddiwr:Jason.nlw|Jason.nlw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Jason.nlw|sgwrs]]) 11:20, 18 Ionawr 2021 (UTC)

ːA'i o restr CADW y daw'r golofn Saesneg i gyd? Dwi'n gweld bod yr acen ar goll yn ddieithirad bron ar bob 'Tŷ' yn y Saesneg, hefyd mewn enwau fel Glandŵr a Bronmôr. Mae yna wallau eraill fel 'Llygard y Dydd' (yn lle Llygaid y Dydd)--'sdim posib olrhain lle bu'r camgofnodi debyg. Ai newid y gwreiddiol yn Wikidata yn unigol fyddai orau, neu oes modd gwneud hyn ''en-masse'' ar ôl cwblhau'r daenlen Google, h.y. petai modd golygu'r golofn Saesneg yno?--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 14:04, 20 Ionawr 2021 (UTC)

Fersiwn yn ôl 14:04, 20 Ionawr 2021

Croeso i'r Caffi
Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.
Coffi
Coffi



Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru

@Llywelyn2000, Jason.nlw, Lesbardd, John Jones, Oergell, Cymrodor, Deb:@Prosiect Wici Mon, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn: Rwyf wedi cael hysbyseb ar dudalen Meta Wikipedia yn gofyn am adroddiad am weithgaredd Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru am y cyfnod Mawrth 2019 i Fawrth 2020, gyda bygythiad os na ddaw ymateb yn fuan bydd y grŵp yn cael ei chau. Yn anffodus, trwy salwch personol, salwch fy rhieni a salwch fy ngwraig, prin fu fy nghyfraniad i unrhyw gymdeithas yn ystod y 18 mis diwethaf, gan gynwys y Grŵp Defnyddwyr ac yn methu gwneud adroddiad o'r fath. Gall unrhyw un arall rhoi gwybodaeth i feta? Dyma gopi o adroddiad llynedd AlwynapHuw (sgwrs) 11:23, 6 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Yn anffodus, dw i ddim yn gwybod unrhyw beth defnyddiol. Deb (sgwrs) 12:10, 6 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]


@Llywelyn2000, Jason.nlw, Lesbardd, John Jones, Oergell, Cymrodor, Deb:@Prosiect Wici Mon, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn:

Beth yn union sydd mewn peryg o gael ei ddileu, gan bwy a phaham? Dwi’n ymwybodol ac yn gwerthfawrogi bod ar bwyllgor Wici dan gadeiryddiaeth Dafydd (hwnnw dach chi’n feddwl? Os felly, onid o’r Gadair ddylai unrhyw amddiffyniad ddod yn wyneb eich anawsterau personol Alwyn?). Ond dwi ddim fel arall yn ymwybodol bod ar unrhyw ‘grwp defnyddwyr’. Beth yw pwrpas y grwp hwnnw a pha fanteision sydd yn perthyn iddo? Mi boenaf am y peth ar ôl i mi gael fy argyhoeddi bod rhywbeth i boeni yn ei gylch! sgwrs

Dyma'r cyntaf i mi wybod am y grŵp, sy'n bechod am y buaswn wedi dod i ambell gyfarfod. Mae wedi bod yn ddiddorol edrych nôl trwy lluniau a chofnodion y cyfarfodydd a buaswn yn hoffi medru helpu paratoi adroddiad, ond mae'n amhosib i mi heb fod wedi ymwneud o gwbl. - Cymrodor

Diolch am dynnu sylw at hyn Alwyn. I ateb cwestiwn Defnyddiwr:Duncan Brown, ein statws fel Grŵp Defnyddwyr swyddogol efo'r Wikimedia Foundation sydd mewn peryg. Mae'r grŵp dal yn gallu parhau, o dan enw arall, i gwrdd ag i drafod materion sydd yn ymwneud a'r Wicipedia Cymraeg. Mae angen i ni benderfynu os oes werth cael a statws yna. Dydy o ddim wedi arwain at unrhyw adnoddau neu cyfleoedd ychwanegol a bydd Wikimedia UK yn parhau i gefnogi'r gwaith yn Gymru yn yr un ffordd. Mae'r grŵp heb ystyried rhedeg unrhyw brosiectau fel mae llawer o grwpiau defnyddiwr yn neud - ond mae'r sefyllfa yn Gymru yn fach yn wahanol efo Wikimedia UK, Y Llyfrgell Genedlaethol a Menter Iaith yn rhedeg prosiectau Wici. - Felly oes angen y statws yma? neu ydy e'n well i gael grŵp mwy anffurfiol o olygyddion a sefydliadau Cymraeg sydd yn rhudd i ddilyn unrhyw agenda maen nhw eisiau heb orfod cyrraedd meini prawf y grŵp defnyddiwr swyddogol. Fy marn bersonol i yw'r ail opsiwn. Jason.nlw (sgwrs) 13:02, 9 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]
Mae'n ddrwg gen i glywed am dy salwch, Alwyn, a'th drafferthion. Mi fydda i'n meddwl amdanat yn yr wythnosau nesa. Mae cael system ar wahan i'r DU yn holl bwysig yn fy marn i, ond does gen i ddim mo'r amser i fod yn rhan ohoni, oherwydd pwysau gwaith. Mi ges ebost otomatig yn ol gan Llywelyn yn dweud ei fod i ffwrdd o'i waith yn sal. Beth am @Stefanik:? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 05:39, 11 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]
Mae angen cadw'r grwp i fynd rhywffordd achos mae wastad yn anoddach ailsefydlu rhywbeth na pharhau, a gellid bod cefnogaeth neu gyfle annisgwyl yn codi yn y dyfodol a bydd angen grwp i wneud cais. Mae gen i ofn nad oes amser gen i i wneud dim o werth, mae 'gwaith' YesCymru yn llyncu fy amser sbâr i gyd. Stefanik (sgwrs) 14:02, 18 Gorffennaf 2020 (UTC). @Llywelyn2000, Jason.nlw, Lesbardd, John Jones, Oergell, Cymrodor, Deb:@Prosiect Wici Mon, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn:[ateb]
Mae'n ddrwg gen i mod i'n cyfrannu i'r drafodaeth hon dros fis yn hwyr. Rydw i wedi'i chael yn anodd i roi amser i waith Wici yn y flwyddyn ddiwethaf ac wedi bod eisiau cynnull y Grwp ers misoedd. Rydw i wedi awgrymu mewn neges isod ein bod yn cael cyfarfod anffurfiol (Zoom?) cyn bo hir i drafod y ffordd ymlaen. O ran yr Adroddiad Blynyddol, mae'n ofynnol ein bod yn cyflwyno rhestr o weithgareddau i Sefydliad Wikimedia er mwyn cadw ein statws fel Grwp Defnyddwyr swyddogol. Oherwydd y brys, mi ges i olwg ar adroddiadau blynyddol grwpiau eraill i gael syniad beth oedd angen ei gyflwyno, a defnyddio'r wybodaeth o'r cyfarfodydd fis Mawrth ac Awst y llynedd a, gyda chymorth Jason.nlw, prosiectau eraill mwy diweddar i greu crynodeb o weithgaredd y flwyddyn. Bydd hyn yn ddigon i gynnal ein statws swyddogol. Mi wna i gysylltu eto cyn bo hir i drefnu cyfarfod nesaf y Grwp. Mi faswn i'n ddiolchgar am unrhyw gymorth efo hyn. Cofion atoch i gyd. DafyddTudur (sgwrs) 14:17, 18 Gorffennaf 2020 (UTC) @Llywelyn2000, Jason.nlw, Lesbardd, John Jones, Oergell, Cymrodor, Deb:@Prosiect Wici Mon, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn: @Stefanik:[ateb]
Cytuno fod angen grwp arnom! Diolch am dy holl waith, Dafydd! Sian EJ (sgwrs) 15:53, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Zoom amdani felly! Yn sicr mae angen corff cryfach arnom, grwp i ni rannu profiadau, cydweithio ar brosiectau, ysgogi ein gilydd, paratoi ar gyfer newidiadau technolegol a rhannu breuddwydion! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:31, 4 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Angen ail-fformatio'r Hafan cyn 13 Gorffennaf

@Y gweinyddwyr (Adda'r Yw, AlwynapHuw, Dafyddt, Deb, Dyfrig, Lloffiwr, Llygadebrill, Llywelyn2000, Pwyll, Rhyswynne, Thaf a Xxglennxx) a phawb arall:

Bore da bawb. Ges i hysbysiad neithiwr ar en yn dweud bod rhaid newid cod yr Hafan erbyn 13 Gorffennaf, er mwyn i'r fformatio barhau i weithio ar cy.m.wikipedia.org – y fersiwn ar gyfer teclynnau symudol. I weld beth fyddai'n digwydd os nad yw'r cod yn newid, cymharwch y ddalen hon gyda hyn ar declyn symudol. Ceir manylion pellach ar Phab:T254287. Ceisiais i drwsio'r cod yn y pwll tywod yma, ond dwy ddim wedi mynd yn bell iawn hyd yn hyn, ac fe all fod tu hwnt i fy ngallu codio. Bydd rhaid i weinyddwr newid y cod ar yr Hafan. All unrhyw un helpu? Diolch! Ham II (sgwrs) 09:52, 14 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gen i ddweud nad ydw i'n deall y cwestiwn. Dw i byth yn defnyddio'r fersiwn symudol.Deb (sgwrs) 12:32, 14 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]
@Oergell, Dafyddt: Mae Wikimediwr arall wedi tynnu fy sylw at yr angen i ddiweddaru cod yr hafan ASAP. Yn anffodus does gen i ddim syniad sut i fynd ati. Ydych chi'n meddwl bydd cyfle gan un ohonoch chi i edrych ar hwn. Os na, dwi'n deall yn iawn. Rowch wybod i mi wna'i gweld os oes cymorth ar gael tu allan i'n gymuned. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:39, 24 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw, Dafyddt: Mae'n flin gyda fi. Dim ond nawr ydw i wedi gweld dy neges Jason. Oes dal angen help? --Oergell (sgwrs) 20:12, 23 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Helo Oergell. Gobeithio bod popeth yn iawn efo ti? Diolch am ymateb. Os oes gen ti amser i edrych ar hyn bydd hynny'n wych. Newydd lwytho'r hafan ar fy ffôn ac yn gweld y broblem. Gei di manylion pellach ar beth sydd angen i neud ar y tocyn Phab:T254287. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:43, 24 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Helo Jason.nlw, popeth yn iawn gyda fi diolch! Mae'n edrych yn eithaf syml - ond dw i ddim yn gallu golygu'r prif dudalen, y tudalen flaen. Mae pwynt 2 ar y canllaw yn dweud bod angen golygu'r prif dudalen. Pwy sy'n gallu rhoi mynediad i mi pls? Efallai bod Llywelyn2000 yn gallu? --Oergell (sgwrs) 15:10, 27 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Gwych. Diolch Oergell am edrych mewn i hyn. Gobeithio bydd Llywelyn2000 neu Admin arall yn gallu roi mynediad i'r tudalen blaen. Cofion gorau Jason.nlw (sgwrs) 15:52, 27 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Diolch Carl! Dw i wedi dy wneud yn Weinyddwr dros dro. Dylet fedru newid yr hafan rwan. Mae angen ailwampio'r hafan yn drychinebus: Wicibrosiect arall!! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 28 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Diolch i chi. Dw i wedi gwneud y newidiadau (pwyntiau 1 a 2 ar y canllaw) ac mae'r ddolen prawf yn edrych yn iawn i mi ar Firefox symudol bellach. Does dim byd yn cael ei guddio ar symudol ar hyn o bryd (dim defnydd o nomobile). --Oergell (sgwrs) 11:41, 28 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Diolch am wneud hyn Carl. Mae'n edrych yn well yn barod. Oes gan unrhywun gof o beth oedd ar y fersiwn symudol o'r blaen? Neu sgrinlun? Mae'n bosib nad yw'r rhestr hir o 'Erthyglau diweddar' yn ddefnyddiol. Bydd angen ail-feddwl beth i ddangos ar sgrin fach ond bydd yn well ail-wampio cod y dudalen flaen yn llwyr ac ystyried beth i ddangos ar wahanol ddyfeisiau. --Dafyddt (sgwrs) 12:26, 28 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Bendigedig! Mi gadwn i ti fel Gweinyddwr rhag ofn y daw problem arall. Dafyddt - cytuno gyda torri'r Erthyglau diweddar i lawr i chwarter yr hyn sydd yno! Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd wedi cael gwared a'r rhestr o ieithoedd hefyd! Gallwn roi rhestr fer o ieithoedd amrywiol yn lincd i'r nifer o erthyglau gwirioneddol (byw) hefyd. Byddai adran ar brosiectau cyfoes yn beth da hefyd. Sgrin fach - mi rois y cod gwreiddiol i fewn tua 6 mlynedd yn ol - beth i'w weld (a beth i beidio gweld!) ar ryngwyneb sgrin fach, ond heb wneud dim ers hynny. Ei adael i ddoethineb Carl a Dafydd? Diolch i @Ham II: am godi hyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:25, 29 Awst 2020 (UTC)[ateb]
O dderbyn bod 100 erthygl ddiweddar yn ormod i'r golwg hafan symudol, rwy'n teimlo bod ei dorri i 25 erthygl yn ormodol. Ar hyn o bryd mae gennyf 5 erthygl yn y 25 dethol ac mae erthyglau #wici365 yn amlwg yn y gweddill. Mae 'na elfen o glod yn perthyn i gael mensh yn yr adran erthyglau diweddar. Clod sy'n cynnal y sawl sy'n ysgrifennu'n rheolaidd a chlod sy'n hwb i gyfranwyr newydd. Peryg torri lawr yn ormodol ar rif yr erthyglau newydd bydd pechu cyfranwyr rheolaidd a pheidio rhoi hyder i gyfranwyr newydd. AlwynapHuw (sgwrs) 05:19, 20 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Pwynt da! Beth am awgrymu 35 i Deb? A nodi hynny ar y dudalen Sgwrs? Ond ma pobl yn gwerthfawrogi'r erthyglau newydd Alwyn, nid golygyddion wici yn unig ychwaith! Gwaith diflino, anrhamantus, diddiolch ond hanfodol os yw'r Gymraeg am fod ar dafodau'r genhedlaeth ddigidol newydd. Efallai y byddai'n syniad cael llif byw o'r golygyddion sydd wedi cyfranu fwayf y mis ar yr Hafan? ee llif o fama (heb y bots). Llywelyn2000 (sgwrs) 08:07, 20 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Cwlwm Celtaidd 2020

Oherwydd y Gofid Mawr mae cynhadledd Cwlwm Celtaidd Wicimedia yn cael ei gynnal ar lein eleni. Gai ofyn i'r rhai sy'n gwybod yn ein cymuned sut i greu fidio sut i gyfrannu erthyglau data Wikimedia, hawdd ei ddilyn? Jason.nlw.

Rwyf wedi ceisio ysgrifennu erthyglau am ddeiliaid swyddi sydd wedi dod i ben yn llywodraeth y DU, ond mae ceisio dal pen a chynffon y rhai sy'n bodoli, ac yn newid yn aml, yn anodd iawn! AlwynapHuw (sgwrs) 01:26, 20 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Problem technegol

Mae rhywbeth rhyfedd am yr erthygl newydd Rhestr o afonydd Portiwgal. Dyw i ddim yn gallu agor yr erthygl.Deb (sgwrs) 07:38, 20 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Mae'n iawn i fi ond dwi ddim yn gweld pwynt tudalen llawn dolenni coch. Hefyd mae tudalen tebyg wedi bodoli ers blynyddoedd - Afonydd Portiwgal. Felly byddai'n well ei ddileu neu ail-gyfeirio i'r un gwreiddiol --Dafyddt (sgwrs) 13:59, 20 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]
Mae gen i broblemau tebyg i rai Deb. Dyw'r tudalen ddim yn agor ar fy iPad neu yn Safari ar y Mac, ond mae'n agor yn Firefox ar Mac arall. (Mae gormod o gyfrifiaduron yn y tŷ 'ma.) Felly mae rhywbeth o'i le. Ond dw i'n cytuno gyda Dafyddt: does dim synnwyr yn creu erthyglau hir o'r math hwn. --Craigysgafn (sgwrs) 14:45, 20 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Fideos dogfennau gan sianel teledu Almaeneg ZDF, cc-by - fersiynae Cymaeg?

Fuasai'n werthchweil ail-ddefnyddio'r fideos yma yn y Gymraeg?

Mae'n nhy o safon da iawn. Buasai'n dda gweld cynnwys agored o safon uchel iawn yma ar Wicipedia. JimKillock (sgwrs) 09:53, 20 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Dyma prawf, efo is-deitlau Saesneg, ac Almaeneg. Mae'n hawdd ychwanegu Cymraeg, ac wedyn, creu versiwn Cymraeg gan newid y llais:
Das Straßennetz im antiken Rom (CC BY 4.0)
Erbyn hyn, mae is-deitla un Catalan, NL, DE, ES, EN, LA, ayyb!
Nodyn bach i dweud bod fi wedi bod mewn cysylltiad efo Jim ac yn credi bydd e'n gwych cael fersiwn Cymraeg o'r cynnwys, felly dw'i am meddwl am adnoddau er mwyn gwneud hyn. Jason.nlw (sgwrs) 10:29, 24 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]
@JimKillock, Jason.nlw: diolch Jim am y ddolen i'r adnodd yma; mae rhai yn hynod o addas. Mae ychwanegu isdeitlau yn goblyn o hawdd ar wici (gweler yr adran 'Cymorth'), felly ymlaen! Ar fater tebyg, byddai'n wych creu fideos Cymreig a'u rhannu gyda'r byd ee Robert Recorde, Cyfraith Hywel, Senedd Cymru. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru dros 100 o fideos, a dw i wedi eu llwytho ar Comin a'u gosod ar cywici ac enwici, ond byddai prosiect er mwyn eu hisdeitlo i ieithoedd eraill hefyd yn beth da. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:34, 13 Awst 2020 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Gwych. Oes gen ti amser Robin i arwaun ar creu isdeitlau Cymraeg am fideos ZDF? Byddaf yn brysur dros y misoedd nesaf yn gorffen y prosiect Addysg - gan cynnwys 20 fideo Cymraeg i cyd fynd efo erthyglau pwysig, a cychwyn ar prosiect newydd sef Wici-Pics. Jason.nlw (sgwrs) 08:00, 17 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Gwnaf siwr, Jason, mi allai greu wicibrosiect bychan i esbonio sut mae mynd ati i'w cyfieithu, a gallaf wneud hynny i rai ohonyn nhw, gan obeithio y daw eraill i gyfieithu rhagor wedyn. Ond mae croeso i rywun arall arwain ar hyn, wrth gwrs! Os oes na rai o'r fideos yn amheus yna nodwch eu henwau; ar y cyfan mae nhw'n fyr ac yn effeithiol yfma / yn fy marn i. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:46, 17 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Gwych. Diolch Robin. Edrychaf ymlaen at weld y tudalen prosiect. Mae gen i gyfeiriad E-bost i Jim Killock o ZDF os wyt ti angen unrhyw cymorth ganddi'n nhw. Yn y tymor hir bydd e'n wych i recordio sain Cymraeg hefyd Jason.nlw (sgwrs) 10:07, 18 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Alla i helpu creu is-deitlau o sgriptiau os all rhywun rhoi'r sgript in Gymraeg rhywle. JimKillock (sgwrs) 16:38, 30 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Dolen

Wicipedia:Wicibrosiect Fideos gan Terra X

Trosleisiwyd 10 o fideos. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:33, 6 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Ail-enwi'r categori "Rhaglenni teledu categori Cymraeg" ar y Wikipedia Saesneg

Dw i angen cefnogaeth gan gyfranwyr gyda'r newid enw categori sy'n effeithio ar deledu Cymraeg yn unig. Symudwyd hyn gan ddefnyddiwr Saesneg ei iaith na fyddai'n gwrando ar ddadleuon. Gweler en:Wikipedia:Categories for discussion/Log/2020 July 5 Deb (sgwrs) 08:04, 5 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Edrychais ar y drafodaeth fan acw, ac mae gen ti fy nghydymdeimlad â rhai o'r ymatebion ffiaidd a gest ti, Deb. Mae'r syniad bod unrhyw beth o werth yn cael ei ennill gan y "cysondeb" hwnnw yn chwerthinllyd: dim ond hegemoni diwylliannol ydyw. Fodd bynnag, dw i ddim yn credu y gallaf i gyfrannu i'r ddadl yno: mae'r materion mor astrus ac yn llawn jargon a legalese. Ond diolch am geisio cyflawni rhywfaint o synnwyr cyffredin. --Craigysgafn (sgwrs) 23:11, 5 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Da iawn Deb! Er gwybodaeth, hefyd y sgwrs yma: Addition of 'by supply' section gan @Cell Danwydd: ar yr erthygl en:List_of_lakes_of_Wales#By_supply_to_England. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 06:24, 4 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Diolch John! Mae na erthygl newydd wedi'i chreu heddiw'r bore: Reservoirs of Wales]. Angen cadw llygad barcud i sicrhau fod hon yn ddiduedd!!! Mae'n rhai canfod gwybodaeth am faint o ddwr sy'n mynd i Loegr hefyd, ond mae'n eitha cymhleth. All hands on deck, os gwelwch yn dda. Diolch bawb! Cell Danwydd (sgwrs) 14:53, 4 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Unwaith eto! mapiau iaith angen eu cefnogi. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:21, 15 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Gweinyddwr Wicidestun

Hoffwn gynnig fy hun fel weinyddwr Wicidestun. Mae gennyf filoedd o emynau a llawer o lyfrau wedi eu trin a'u gwirio ar fy nghyfrifiadur ac ar wefannau sydd ar fin cael eu cau lawr ac rwyf yn ceisio eu harbed ar frys trwy eu gosod ar Wicidestyn. Rwy'n gwneud camgymeriadau pitw fel cynnwys atalnod mewn teitl ac yn methu cael gafael ar weinyddwr i ddileu'r erthyglau gwag ar fy rhan. I ddweud y gwir, onid da o beth byddai gwneud holl weinyddwyr Wicipedia yn weinyddwyr yr ystod o chwaer prosiectau? Rwy'n gwybod mae yn Y Sgriptorium dylid gwneud y cais, ond does neb yn darllen y ddalen! AlwynapHuw (sgwrs) 01:18, 10 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Mae hyn yn swnio fel syniad rhagorol. --Craigysgafn (sgwrs) 08:42, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Ardderchog. Cytuno'n llwyr! Wyddost ti sut mae gwneud hynny, Alwyn? Pingia fi os wyt angen cymorth. Sian EJ (sgwrs) 15:52, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Bore da Alwyn! Gest ti lwyddiant? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:47, 17 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Teclyn cyfeirio

Oes unrhyw un yn gwybod pam fod y teclyn Cyfeirio yn y golwg Golygu (hy golygu'r dalen yn unionsyth yn hytrach nag yn y gwedd golygu cod y dalen) wedi rho'r gorau i weithio? Ers sawl diwrnod, bellach mae ceisio ei ddefnyddio yn dod a neges We couldn't make a citation for you. You can create one manually using the "Wrth law" tab above. Gan fod y botwm yn arbed llawer o amser wrth greu neu gwirio cyfeiriadau, rwyn gweld ei golli yn arw. AlwynapHuw (sgwrs) 02:40, 17 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Bydda i'n golygu yn y sgrin god bob amser, felly sdim clem 'da fi. Sori. --Craigysgafn (sgwrs) 08:50, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Mae'n gweithio i fi gyda cyfeiriadau penodol. Nid yw'n gweithio ar gyfer golwg a'r chyfryngau Cymraeg ar hyn o bryd. Ond mae'n gweithio'n iawn ar gyfer BBC Cymru fyw. Cwmcafit (sgwrs) 09:01, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Helo Alwyn. Newydd arbrofi ychydig a mae gwefannau'r BBC a Guardian yn gweithio ond CNN a Golwg360 ddim. Ond o drio hyn ar enwiki, mae'n gweithio'n iawn. Felly does dim bai ar unrhyw wefan benodol a does gen i ddim syniad be fyddai'r gwahaniaeth. Mae rhywun wedi adrodd problem tebyg ar wiki Tyrceg, felly rwy wedi ychwanegu fy sylwadau i gael gweld beth yw'r broblem. --Dafyddt (sgwrs) 16:29, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Y Broblem fwyaf i mi yw nad yw'n gweithio bellach ar Y Bywgraffiadur na'r [Object Identifier System] sy'n cyrchu'r ODNB a nifer o gyhoeddiadau academaidd eraill. Er byddai cael ei weithio'n eto ar gyfeiriadau llai pwysig yn gymorth hefyd! AlwynapHuw (sgwrs) 03:32, 19 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych fel fod hwn wedi ei drwsio Alwyn. Problem gyda cache mae'n debyg. Alli di drio eto? Pob hwyl. --Dafyddt (sgwrs) 11:39, 23 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Diolch o galon, wedi ei brofi efo'r Bywgraffiadur a'r ODNB ac mae'n gweithio'n wych bellach AlwynapHuw (sgwrs) 18:57, 23 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Oes unrhyw un yma?

Ydy'r Caffi mewn locdown? Rwy'n ceisio cadw at addewid ysgrifennu o leiaf un erthygl y dydd ar Wicipedia, ond yn cael dim ymateb wrth ymofyn am gymorth yma, ac yn digalonni ac yn teimlo fel rhoi'r gorau iddi AlwynapHuw (sgwrs) 03:50, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Dw i'n cydymdeimlo, Alwyn. Mae'n bwysig methrin teimlad o gymuned; mae'r gwaith yn unig. Dw i'n ceisio cyfrannu at y sgwrs yma yn y Caffi, ond yn aml dw i'n teimlo y dylwn aros i leisiau mwy profiadol a gwybodus i siarad o'm blaen. Dw i'n disgwyl bydd eraill yn gwneud hynny hefyd. Mae maint ac ansawdd eich cyfraniad i Wicipedia yn rhyfeddol. Felly, mwy o erthyglau am sêr yr opera, os gwelwch yn dda! --Craigysgafn (sgwrs) 08:40, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Helo Alwyn. Plis paid â digalonni - mae maint dy gyfraniad i'r gwaith yn destun edmygedd a'th egni a dyfalbarhad yn anhygoel. Dydw i ddim wedi medru rhoi llawer o amser i waith Wici yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond rydw i wedi ailgydio yn yr wythnos ddiwethaf ac yn dechrau cael blas arni eto. Digwydd bod mod i wedi cael cip ar y Caffi bore yma a gweld dy neges. Rydw i wedi bod eisiau cynnull y Grwp Defnyddwyr ers misoedd, a ro'n i'n meddwl cynnig ein bod ni'n cael cyfarfod anffurfiol dros Zoom (gyda'r nos, efallai) yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Efallai y byddai mwy yn gallu ymuno os ydyn ni'n cyfarfod arlein ac fe allai arwain at gyfarfod yn amlach, a chreu mwy o ymdeimlad o gymuned. Beth mae'r ddau ohonoch chi (a phawb arall) yn feddwl? --DafyddTudur (sgwrs) 13:18, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Dw i'n trio i parhau ac yn gobeithio y bydd rhywun yn dod draw i wella'r hyn rydw i wedi'i ysgrifennu. Rwy'n gwirio'r rhan fwyaf o'r erthyglau newydd, ond yn aml nid oes gennyf i'r sgil i'w cywiro os oes rhywbeth o'i le. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Deb (sgwrscyfraniadau) 13:31, 18 Gorffennaf 2020
Mae'n locdown ar bawb Alwyn. Dw i'n brysurach nac erioed, ond wrthi rhyw ychydig yn ceisio ychwanegu'r wybodlenni newydd, yn y cefndir. Felly heb edrych ar y Caffi ers tro! Mi ga i gip yfory, jest rhag ofn y medra i helpu. Ond DAL ATI!!! Dw i'n mwynhau dy gyfraniadau Alwyn! Sian EJ (sgwrs) 15:52, 18 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Universal Code of Conduct

Ydy pawb wedi derbyn neges am y "peth" arfaethedig? Rwy'n cytuno â'r syniad sylfaenol. Deb (sgwrs) 07:29, 14 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Diolch Deb! Newydd ychwanegu pwt bach! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:49, 17 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Mae fy nheimladau fy hun yn cyfateb yn agos iawn i'r hyn y mae Alwyn a Robin wedi'i ddweud drosodd ar dudalen Talk:UCC. Ond dw i ddim yn bwriadu cyfrannu yno am y tro. Pryd bynnag dw i'n edrych ar lathenni o ddadleuon yn ôl ac ymlaen mewn trafodaethau interwiki o'r fath, mae fy nghalon yn suddo. Mae lefel yr annymunol a gyfeiriwyd tuag at y rhai ohonoch chi sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau o'r fath wedi fy synnu. Pe bawn i'n credu y byddai polisi UCC yn atal y math hwnnw o ddiffyg parch, yna efallai byddwn i'n ei gefnogi. Ond mae'n fwy tebygol o fod yn arf arall yn nwylo'r rhai sy'n mwynhau gwrthdaro. Felly dim ond gair o werthfawrogiad yw hwn i'r rhai ohonoch chi sydd â stumog am y dadleuon erchyll hyn. Diolch! --Craigysgafn (sgwrs) 09:38, 17 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr! Mil gwell gen inna ydy adeiladu'r cywici na rhygnu dannedd yn yr iaith fain, gyda phobl nad ydyn nhw'n gwybod affliw o ddim am ein cornel fach ni! Ond weithiau mae'n rhaid dangos ein dannedd neu mi wna nhw gerdded drosdan ni! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:30, 17 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Diweddariad WiciAddysg

Bore da. Dwi'n gobeithio bod pawb yn cadw'n iawn. Mae'r gwaith i greu cyfres o erthyglau sydd yn addas i blant ysgol ac athrawon yn bwrw ymlaen ac erbyn hyn mae tua hanner cant o erthyglau am bynciau hanes wedi eu gwella neu greu. Mae nifer fawr yn cynnwys llawer o destun o adnoddau CBAC/HWB/LLGC ayyb. Dyma enghraifft dda sydd yn cynnwys y gwybodlen addysg efo fideo i blant - David Lloyd George. Gobeithio bydd 100 erthygl ac 20 fideo efo ni erbyn diwedd Medi. Mae'r erthyglau yma i gyd wedi cael i wirio yn broffesiynol a bydd copi PDF o bob un yn mynd ar HWB. Hapus i dderbyn unrhyw adborth. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:35, 21 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Diolch Jason.nlw, mae'r erthyglau yn edrych yn dda ac mae'n braf cael erthyglau cyflawn, sylweddol ac awdurdodol ar wahanol agweddau o hanes. Gobeithio bydd ein partneriaid yn cytuno i ehangu'r prosiect i bynciau eraill wedi gwerthuso'r prosiect yma. Be sy'n digwydd efo golygu'r erthyglau yma? Bydd pawb yn cael eu golygu fel unrhyw erthygl arall, neu bydd gwell eu cloi er mwyn sicrhau parhad eu safon? AlwynapHuw (sgwrs) 23:01, 23 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Diolch AlwynapHuw. Byddaf yn ceisio mesur faint o ddefnydd mae'r cynnwys yma yn cael yn ysgolion o fis Medi ymlaen gan obeithio bydd gan athrawon gwell hyder i gyfeirio plant at yr erthyglau. Efo golygu'r erthyglau, dw'i ddim yn awyddus i gloi nhw lawr. Bydd fersiwn statig ar HWB ac unwaith mae'r erthyglau HWB yn fyw mi wna'i chynnwys dolen i'r fersiwn yna o Wicipedia ond dww'n hyderus bydd unrhyw newidiadau pellach i'r erthyglau yn rhai adeiladol a gwerthfawr. Jason.nlw (sgwrs) 08:26, 24 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno yn fama efo Jason. Mae cloi tudalennau'n erbyn y graen, a chadarnhawyd hyn dros nifer o flynyddoedd. Yr unig erthyglau sydd wedi eu cloi yw'r rhai lle bu fandaliaeth eithriadol - yn bennaf gan ddefnyddiwr rhyngwici a fu'n ymosod ar ffilmiau Americanaidd ("y fandal Disney"). Y ffordd orau i wneud yn siwr fod yr erthyglau'n cael eu parchu, yn cadw at y safon ac yn datblygu ymhellach, yw rhoi'r tudalennau yn eich 'Rhestr wylio' a sicrhau fod cyswllt ebost i'ch hysbysu o unrhyw newid. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:46, 24 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Helo Mr Jason! Ai chi sy wedi ysgrifennu'r gwaith rydych wedi ei roi ar [[John F. Kennedy]? Neu rhywun arall? 2A00:23C6:9908:CD00:E9C6:7854:210F:F431 19:24, 28 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

I'm a celebrity

Gall rhywun efo ynganiad clir recordio ffeil sain o'r enw Gwrych i'w roi ar erthyglau Cymraeg a Saesneg y castell. (Mi fyddwn yn gwneud fy hun ond gan fy mod yn drwm fy nghlyw ac yn gwisgo dannedd gosod dydy fy llais ddim yn ddigon clir bellach) AlwynapHuw (sgwrs) 12:23, 28 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Dwi'n credu bod rhywun Cymru Cymraeg wedi dodi ynghaniad i fyny nawr ar erthygl Saesneg. Cwmcafit (sgwrs) 08:31, 29 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Da iawn. Mae'r pwyslais ar 'Gwrych' yn y recordiad Saesneg yn ysgafn, ond yn ddigon amlwg i ni'r Cymry ddeall mai'r neges ar feddwl y dyn sy'n siarad yw "Peidiwch meddio ei alw yn Hedge Castle"! --Cymrodor (sgwrs) 22:40, 10 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Wici'r Holl Ddaear

Dwn i ddim ai dyma'r trosiad gora am y prosiect 'Wiki Loves Earth', ond dyna fo! Wedi hen laru ar Wiki Loves Monument bondigrybwyll - cystadleuaewth lle nad ydym yn cael ymddangos fel cenedl yn y ffeinal! Ond nid felly Wici'r Holl Ddaear, os ydw i'n deall yn iawn. Be ydych chi'n feddwl? Ffotograffau o fynyddoedd, llynnoedd, afonydd - unrhyw beth o fewn ein parciau wedi eu dynodi fel 'Ardaloedd o Harddwch Naturiol', parciau Cenedlaethol ayb. Byddai'n braf torri ein cwys ein hunain yn hytrach na dilyn yr uk yn flynyddol. Adeiladau sydd yn Llundain, natur a'i holl ysblander sydd yng Nghymru!!! Ol Nod: efallai y gall rhywun gysylltu gyda Chlwb Mynydda Cymru i weld fydden nhw'n hyrwyddo'r gystadleuaeth? Dw i'n meddwl y byddai @Duncan Brown: a Chymdeithas edward Llwyd ddiddordeb enfawr! A beth am 'Croeso Cymru' - grant efallai? Cell Danwydd (sgwrs) 15:02, 4 Medi 2020 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000, Jason.nlw, Lesbardd, John Jones, Oergell, Cymrodor, Deb:@Prosiect Wici Mon, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn: Syniad da iawn, Cell Danwydd. Ar hyn o bryd dydy'r DU ddim yn rhan o'r gystadleuaeth, felly mae cyfle i Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru cofrestru Cymru fel gwlad cyn i rywun o'r DU Cofrestru yn ymerodrol dros y pum gwlad, fel sydd wedi digwydd efo Wici Monuments. Mae manylion cofrestru yma: https://commons.wikimedia.org/wiki/Commons:Wiki_Loves_Earth_2019/Organize AlwynapHuw (sgwrs) 22:16, 4 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Os felly, ydy hi'n bosibl i'r grwp drafod hyn yn eu cyfarfod nesaf os gwelwch yn dda? Hefyd - @Duncan Brown, Cell Danwydd: - fedrwch chi godi'r mater gyda Cymdeithas Edward Llwyd i gefnogi? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:18, 6 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Nid oes gennyf fi farn gadarn ar hyn. Dydw i ddim yn ffotograffydd da iawn.
Syniad da! Po fwyaf y gallwn ddogfennu ein hanes a'n gwlad y daw'r Wicipedia cyfoethocach. Nodyn bach am mynd at Croeso Cymru - fi'n wrthi siarad efo nhw (a CADW) ar hyn o bryd fel rhan o brosiect WiciPics gyda'r gobaith bydd modd iddyn nhw adnabod lluniau sydd yn addas yw rhannu ar trwydded agored. Mi wna'i cadw'r ymgyrch yma mewn cof wrth trafod. Fodd bynnag, ni ellir cynnwys eu delweddau yn y gystadleuaeth gan fod yn rhaid i'r delweddau gael eu tynnu gan y rhai a uwchlwythwyd. Ond os daw newid yn polisi nhw, yn bendant mae na werth chwilio arian er mwyn datblygu perthynas a cydweithio.
Nodyn arall...Dw'i wedi cyfieithu rhwngwyneb WikiShootMe ac wedi gweithio mas sut i creu mapiau ar eu gyfer efo Queery Service Wikidata, felly bydd modd i ni defnyddio i creu map efo'r holl afonydd, mynyddoedd ayyb sydd angen lluniau, a wedyn llwytho i Comin a Wikidata yn awtomateg. Rowch wybod os wyt ti eisiau cymorth efo hyn Jason.nlw (sgwrs) 16:11, 6 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Hyn i gyd yn swnio'n ddiddorol iawn!!! Count me in! Sian EJ (sgwrs) 07:47, 8 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Gwych! @DuncanBrown: unrhyw siawn? Celtica (sgwrs) 16:25, 12 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Newyddion da Jason am Visit Wales - o'r diwedd, ar ol brwydr hir!!! I ddod dros y rheol, efallai y gallwn hyfforddi un o'u staff nhw i uwchlwytho'r delweddau, yn swyddogol i Wici'r Holl Ddaear? Yn ail, mae'r trydariad yma gan Eluned Morgan yn cadarnhau fod Llywodraeth Cymru'n cefnogi WiciPics; byddai'n wych cael cyrff eraill i gefnogi ein hymdrech. Y mwyaf fydd gennym ni, y mwyaf fydd ein siawns o gael ein derbyn ar ein liwt ein hunain. @DafyddTudur: - fedri di alw cyfarfod o'r Grwp Defnyddwyr os gweli di'n dda? Diolch Cell danwydd am sbotio hwn - wyt ti wedi cael gafael ar Duncan? Byddai cefnogaeth Cymd Edward Llwyd yn eisin ar y gacen! Dw i'n deall y bydd Davith Fear yn ymuno gyda'r cyfarfod Zoom ac yn eiddgar iawn. Hefyd: @Tomos S4C, Rhodri ap Dyfrig: - beth amdani? A Chlwb Mynydda Cymru? Cerddwn ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:06, 18 Medi 2020 (UTC)[ateb]

@Jason.nlw: Os am ddwyn berswad ar Visit Wales mae erthygl diddorol yn y Guardian am werth arianol erthyglau a lluniau ar Wici i'r busnes ymwelwyr: Wikipedia edits have massive impact on tourism, say economists AlwynapHuw (sgwrs) 18:33, 18 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Do. Diolch AlwynapHuw Nes i hela dolen iddyn nhw dydd Gwener! Erthygl diddrool iawn, gobeithio bydd e'n cael effaith. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 12:01, 21 Medi 2020 (UTC)[ateb]
@DafyddTudur: - mae na gynnig uchod i'r Grwp Defnyddwyr gyfarfod i drafod hyn ar Zoom. Fedri di drefnu os gweli di'n dda? Os wyt ti'n rhy brysur dan yr amgylchiadau, mi wna i. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:07, 13 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Dadegino adar Celtaidd!

Dw i wedi casglu cronfa ddata o enwau adar yn y 6 iaith Geltaidd, er mwyn cael mwy o gynnwys yn yr erthyglau hyn. Bwriadaf roi'r enwau yn yr ieithoedd Celtaidd yn yr erthyglau Cymraeg yn ystod y misoedd nesa. Dw i ddim digon o foi i greu sgript Peithon i'w otomeiddio i'r union fan yn yr erthygl, ond gallaf ddefnyddio AWB i greu'r adran ar waelod (drwy Apend) yr erthygl, a'i gopio a'i bastio i'r man cywir gyda llaw a llygad. Dyma ddwy enghraifft: Ehedydd calandra ac Alarch du. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:39, 18 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Gwbodlen "pethau"

Ar gais Defnyddiwr:Celtica rwyf wedi bod yn defnyddio'r gwbodlen "pethau" ar gyfer erthyglau diweddar am operâu ee Il turco in Italia. Yn anffodus dydy'r gwybodlen ddim yn cyrchu enwau'r Cyfansoddwr, Y Libretydd na lleoliad a dyddiad y cynhyrchiad cyntaf. Rwyf wedi cael golwg ar Nodyn:Pethau ond yn methu a gweld be sydd angen gwneud i gynnwys y wybodaeth ychwanegol (braf byddid gweld newidiadau tebyg ar gyfer cân, tôn, emyn a gweithiau cerddorol eraill hefyd). Gall rhywun sy'n fwy hyddysg na fi naill ai gwneud y newid angenrheidiol neu egluro sut mae modd imi wneud fy hun) os gwelwch yn dda? AlwynapHuw (sgwrs) 19:00, 24 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Fyddai'r ateb gorau i dyfeisio fersiwn Gymraeg o'r templed Template:Infobox musical composition. Ond nid wyf fi'n alluog. Deb (sgwrs) 08:51, 25 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Diolch Deb, mae Nodyn:Infobox opera yn gweithio yma'n barod, ond y bwriad, o'r hyn rwy'n deallt, yw cael gwared o'r canoedd o wahanol infobox a defnyddio dim ond tri person, pethau a lle AlwynapHuw (sgwrs) 22:17, 25 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Diolch bawb! Ie, y bwriad yw trosglwyddo'r holl wybodlenni i'r 3 neu 4 newydd (pethau, person a lle... a rhywogaeth (ryw dro!). @AlwynapHuw: dw i di ychwanegu'r eitiemau newydd ar Nodyn:Pethau: cofia roi proc i mi os ti isio rhagor ryw dro, neu dilyn y patrwm ac ychwanegu nhw dy hun, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:48, 30 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Fideos Hyfforddiant

Helo pawb. Nodyn byr i dweud bod cyfres o fideos tiwtorial newydd gan pobol ifanc ar gael. Crewyd yn fideos yma gan WiciMon fel rhan o brosiect WiciAddysg. Dw'i wedi ychwanegu'r fideos i'r tudalennau cymorth, gan obeithio bod hynny'n iawn. Cofion, Jason.nlw (sgwrs) 10:24, 30 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Gwych iawn! Dw i wedi eu rhoi ar frig y dudalen. Melys moes mwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:57, 30 Medi 2020 (UTC)[ateb]
Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 07:10, 1 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Help gyda defnyddio WiciData ar gyfer gwybodlen am y tro cyntaf

Dyma'r tro cynta imi ddefnyddio WiciData..buaswn yn hynod o ddiolchgar am gyngor


Rwyf wedi creu tualen newydd https://cy.wikipedia.org/wiki/Iawn.Cymru

ac eitem WiciData ar gyfer cwmni Iawn.Cymru (Q99773026)

Gyda'r gwybodlen Gwybodlen cwmni

.. ond dwi'n cael y neges gwall -- Rhybudd: Mae Nodyn:Gwybodlen cwmni/Wicidata yn galw Nodyn:Infobox gyda mwy nag un gwerthrif (value) i baramedr "data3". Dim ond y gwerthrif diwethaf gaiff ei ddefnyddio.

Ble ydwi'n mynd yn rong????

Llawer o ddiolch HuwHuw P (sgwrs) 18:02, 1 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Bore da Huw. Byddai'n syniad i Mr llywelyn2000 greu fideo'n esbonio hyn. Mae'n eitha hawdd unwaith mae'r darnau'n disgyn i'w lle yn y meddwl! Mae Nodyn:Gwybodlen cwmni yn hen a dylid ei gyfeirio i'r Nodyn newydd, sef Nodyn:Pethau. Mae Nodyn:Gwybodlen cwmni/Wicidata erbyn hyn yn hen hefyd! Ac mae angen trosglwyddo'r manylion i Nodyn:Pethau. Hwn ddylet ti ei ddefnyddio. Pan ga i gyfle mi driaf roi trefn ar y rhain, ond hyn-a-hyn dw i'n ei ddeall hefyd!!! Diolch am yr erthygl newydd! Sian EJ (sgwrs) 07:15, 5 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Shwmae Huw,
Nes i ychwanegu’r ddolen o Wicidata heb weld eich cwestiwn.
Pan yn creu eitem tudalen newydd, nid yw Wicidata yn gwybod am y dudalen Wicipedia. Mae angen mynd i Wicidata yn gyntaf ac ychwanegu linc i’r eitem Wicipedia, ac yn ail mae angen golygu a chadw’r erthygl Wicipedia unwaith eto er mwyn cwblhau’r cysylltiad. Dogfennydd (sgwrs) 14:46, 8 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Peidiwch a phoeni'n ormodol am negeseuon "mwy nag un gwerthrif", Huw P. Fel rheol mae'n golygu bod tudalen {{nodyn}} sy'n galw ar gynwys tudalenau {{nodyn}} eraill i weithio yn ceisio cyrchu'r un werth mwy nag unwaith, gan fod y ddwy werth yr un fath bydd "defnyddio'r gwerthrif diwethaf" dim yn effeithio ar gynwys yr Infobox o gwbl. Gwiriwch cynnwys y bocs fel y bydd yn ymddangos i'r darllenydd, os mae'r hyn sy'n ymddangos yw'r hyn rwyt yn disgwyl anwybyddwch y rhybydd. AlwynapHuw (sgwrs) 01:04, 11 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Y Cymhorthydd Cyfieithu

All unrhyw un ddweud wrthyf sut i ddiffodd y teclyn "Y Cymhorthydd Cyfieithu"? Ar hyn o bryd, bob tro rwy'n dechrau creu erthygl newydd bydd panel yn ymddangos ar waelod y sgrin sy'n gofyn (yn Saesneg): "Start with a translation instead? Create a new article by translating from another language you know." Wel, dim diolch, rwy'n hen ac ystyfnig, ac mae gen i fy ffordd fy hun o weithio.

Mae'r panel yn blocio golygfa fy ngwaith. Ar ben hynny, mae'r botwm diswyddo (yr X mawr yn y gornel dde uchaf) yn amharod iawn i weithio - mae'n rhaid imi dapio'r union bicsel iawn i wneud iddo fynd i ffwrdd. Ac mae'r panel yn ailymddangos bob tro rwy'n pwyso "Dangos rhagolwg" ac yn blocio'r olygfa eto. Mae'n wastraff erchyll o fy amser, ac alla' i ddim dod o hyd i unrhyw beth yn fy "Dewisiadau" a fydd yn ei ddiffodd.

Help, os gwelwch yn dda! --Craigysgafn (sgwrs) 22:18, 10 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Rhaid dweud, dwi byth wedi gweld hwn. Mi wnes i lwyddo ei weld wrth glicio ar un dolen coch, ond ddim eraill. Beth bynnag, dylai fod y dewis i droi hwn ffwrdd, reit ar waelod y dudalen dewisiadau - https://cy.wikipedia.org/wiki/Arbennig:Preferences#mw-prefsection-rendering-languages --Dafyddt (sgwrs) 23:29, 10 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Tria Dewisiadau > Hysbysiadau ac yna dad-dicio Cyfieithiadau. Hyn wedi gweithio i mi! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 07:25, 11 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Diolch i'r ddau ohonoch chi! Problem wedi'i datrys. Ateb Dafydd a wnaeth y tric. Nawr rwy'n meddwl amdano, rwy'n cofio clicio ar y blwch 'na sbel yn ôl. Ond rhaid imi fethu gwasgu'r botwm "Cadw'r dewisidau". (Mae gan y mwyafrif o apiau rwy'n eu defnyddio flychau gwirio nad oes angen cadarnhad o'r math arnyn nhw.) Diolch eto! --Craigysgafn (sgwrs) 11:05, 11 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Delweddau defnydd teg heb eu defnyddio

Ni chaniateir delweddau defnydd teg heb eu defnyddio mewn erthyglau ar ein polisi ni nac ar unrhyw iaith arall. Yn wir, ar enwici, fasa'r ddelwedd ddim yn aros am fwy na chydig funudau! Felly, dw i am ddileu y rhai hynny sydd gennym ni, cyn ein bod yn ffyrnigo defnyddwyr Comin ee wici ar gyfer lluniau defnydd teg / di-rydd. Dyma restr o honyn nhw ar cywici. Mi ofynai i Defnyddiwr:Fae helpu, gan mai fo wnaeth uwchlwytho'r rhan fwyaf yn 2013. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:33, 18 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Mae Faebot wrthi'n dileu'r delweddau. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:18, 19 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Mae hwn yn waith hanfodol. Diolch am ei wneud. Fodd bynnag, bob hyn a hyn rwyf wedi bod yn poeni am y ffordd y mae CommonsDelinker yn gweithio. Pan fydd delwedd yn y Commons yn cael ei thynnu oherwydd ei bod yn torri'r rheolau, mae'r pennawd yn diflannu hefyd. Y canlyniad yw na allwn ni weld o'r erthygl ei hun bod rhywbeth wedi mynd. Yn aml mae delwedd gyfatebol a chyfreithlon ar gael yn y Commons; nid gwaith CommonsDelinker yw dod o hyd iddo a'i amnewid, wrth gwrs, ond mae polisi tir llosg yn ei gwneud hi'n anodd i unrhyw un arall sylwi bod dileu wedi'i wneud a'i atgyweirio. (Does gen i ddim syniad a oes unrhyw ffordd ymarferol o gwmpas y broblem hon.) --Craigysgafn (sgwrs) 18:49, 19 Hydref 2020 (UTC)[ateb]
Diolch Craigysgafn! Roedd eu dileu'n benderfyniad anodd, oherwydd roedd nifer o luniau da ymhlith y rhai a ddilewyd. Fe ddadleuwn i mai 'gwaith CommonsDelinker YW dod o hyd iddo a'i amnewid', a dw i wedi dadlau hyn droeon ar Comin ee pan ddilewyd File:Castell-Madryn.jpg yn y fan yma. Felly roedd na ddolen goch i nunlle ar yr erthygl - rhywbeth cwbwl annerbyniol! Mae CommonsDelinker yn gwneud hyn (ffeirio am lun gwell, yn htrach na jyst dileu). Ond ti'n llygad dy le - mae angen sgript peithon i greu rhestr o erthyglau lle ceir dolenni coch fel hyn, fel y gallwn fynd drwyddyn nhw fesul un a'u dileu! Cofion cynnes! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:55, 20 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Prosiect Wicipics

Helo pawb.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol a Menter Iaith Môn wedi cychwyn prosiect newydd i casglu delweddau o adeiladau hanesyddol. Mae modd i unrhyw un cyfrannu at Wicipics. Fel rhan o'r brosiect mae'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi rhannu data o'r gronfa Capeli Cymru ac felly mae'r holl gapeli yng Nghymru ar gael ar Wikidata erbyn hyn - er bod dal gwaith i wneud i gynnwys enwau (labeli) Cymraeg. Felly mae 'na bwyslais yma ar gasglu delweddau o'n gapeli i gyd fynd efo'r data ac erthyglau Wicipedia. Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan yna cliciwch yma i ddysgu mwy a chofrestri. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:44, 27 Hydref 2020 (UTC)[ateb]

Wicidestun

@Llywelyn2000, Jason.nlw: Gan fod holl adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod dan driniaeth ers Dydd Iau rwyf wedi defnyddio'r cyfnod o fethu defnyddio eu hadnoddau ymchwil i ategu at Wicidestun. Rwyf wedi gosod 274 o Hwiangerddi o gasgliad Syr O. M. Edwards i'r safle. Wedi gwneud trwy greu 275 tudalen unigol Yr Hwiangerddi (O M Edwards).

Mae'r cyfrannwr sydd wedi gosod dau fersiwn o'r Beibl ar y safle yn defnyddio ryw system lle mae'r testun yn cael ei greu yn awtomatig o luniau o'r llyfr gwreiddiol, sydd ar gael i'w gwirio. Rwy'n methu gwneud pen na chynffon o'r hyn sydd ar Wikisource Saesneg o sut i wneud hyn. Rhywbeth i wneud â ffeiliau DjVu, nas allwn eu hagor heb sôn am eu creu ar fy nghyfrifiadur bach i.

Mae gennyf nifer o hen lyfrau bydd yr hogiau yn debygol o daflu i'r bin cyn fy nghynhebrwng. Sut mae eu cadw? Dal ym mlaen efo tudalennau unigol, neu brynu rhaglen DjVu a cheisio gweithio allan sut i'w ddefnyddio (heb y sicrwydd o wneud hynny)?

(Gyda llaw mae'r cwestiwn yn berthnasol i sylw uchod Jason, gan fod fy nghasgliad llychlyd yn cynnwys nifer o lyfrau efo teitlau megis Hanes Fethodistiaid..., Hanes Annibynwyr..., Cofiant Y Parch ... ac ati) AlwynapHuw (sgwrs) 05:41, 2 Tachwedd 2020 (UTC)[ateb]

Ti'n gwybod cymaint a fi, Alwyn! Mae na gryn dipyn o dudalennau handi ar Wikisource Saesneg ee Help:DjVu_files sy'n awgrymu defnyddio Tesseract i droi'r llun yn destun (OCR), a dyna awgrym Illtyd Daniel o'r Llyfr Gen rhyw 6 mis yn ol hefyd, ond mae'n feddalwedd cymhleth! Os defnyddio sgans, yna mae'r dudalen gyntaf - y fynegai - yn hanfodol, yn wahanol ac yn allwedd i'r cyfan. Rhagor am y fynegai yn fama. Fel pob meddalwedd ar wici, mae o am ddim, felly paid a phrynu dim! Ond dwed dy fod yn yn dod ar draws rhywbeth sydd wirioneddol ei angen (ee rhaglen fel Corel Draw, Cysill...) danfon ebost ataf.
Mae'r ddau olygydd sydd wedi bod wrthi am flynyddoedd efo'r beiblau yn deall eu stwff, ac efallai y byddai'n syniad da gofyn iddyn nhw am gymorth, neu i gadw llygad.
Mae'n amhosib i ni, gymuned Gymraeg, greu Gweinyddwyr ar y prosiect yma, gan nad oes gennym Fiwrocrat (fatha fi a Deb ar wici), felly mi ai ati i weld sut y gellir rhoi'r pwer goruwchnaturiol yma i ti, cyn dy gynhebrwng. ;-) Biwrocrat sy'n creu Gweinyddwyr.
Yn ola, mae'r LLyfrGen wedi sganio llawer iawn o lyfrau, ond heb eu rhannu ar Wicidestun, neu ar gynnwys agored, hyd y gwn i. Hy, efallai mai gofyn iddyn nhw rannu rhai o'r sgans fyddai gorau? Mae nhw wedi bod yn agored iawn ac yn hael iawn yn y gorffennol, ond dyma un maes nad ydyn nhw wedi ei gyffwrdd. Efallai y gall @DafyddTudur, Jason.nlw: ehangu ar hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:02, 2 Tachwedd 2020 (UTC)[ateb]
Helo pawb. Mae drwg gen i fod gwefannau'r Llyfrgell wedi bod lawr. Ni'n gobeithio bydd y gwaith hanfodol ar ein systemau yn dod i ben cyn bo hir. Ar ran Wicidestun ni wedi trafod rhannu efo'r llwyfan, ond efo rhan fwyaf o'n llyfrau digidol ni'n creu ffeiliau OCR yn fewnol, ac mae'r proses o rannu yn eithaf hir gwyntog ar ran cael y drefn gywir ayyb. Felly ni wedi canolbwyntiau ar rannu delweddau a data. Hefyd nid oes llawer o ddefnydd o Wicidestun, mewn unrhyw iaith, i gymharu â Wicipedia. Gan ddweud hynny os oes 'na lyfrau penodol, di hawlfraint, sydd ar gael efo ni yn ddigidol byddaf yn hapus i drefni rannu'r delweddau yna er mwyn i chi ail creu'r llyfr a thrawsgrifio ar Wicidestun. Jason.nlw (sgwrs) 13:42, 3 Tachwedd 2020 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000, Jason.nlw: Wedi cael go ar rannu un llyfr bach, s:Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg gan O M Edwards. Lot o waith yn ceisio gweithio allan sut mae'r safle'n gweithio ond yn weddol syml wedi dechrau arfer a fo. O ran llyfrau hoffwn gweld yno, i helpu efo erthyglau yma, yn anad dim, yw Y Geiriadur Ysgrythurawl a Y Gwyddoniadur Cymreig, os oes gan y llyfrgell scaniau ac OCR ohonynt, mi fyddai hynny'n wych AlwynapHuw (sgwrs) 20:38, 5 Tachwedd 2020 (UTC)[ateb]
Diddorol iawn Alwyn! Dwi wedi cychwyn prawfddarllen - mi wnaf ragor cyn hir. A'r llyfr wedi'i sganio gan Lyfrgell Genedlaethol yr Alban? Oes ganddyn nhw ragor? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 07:39, 8 Tachwedd 2020 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: Helo Alwyn. Mae drwg gen i am yr oedi. Dwi wedi chwilio ac yn anffodus dydi’r 2 cyfrol yna ddim ar gael yn ddigidol eto. Mae modd gweld rhestrau o gyfrolau sydd ar gael fan hyn a hefyd fan hyn. Hyd yma mae lot o’r gwaith digido wedi mynd mewn i gylchgronau a Phapurau newydd ond credu bod mwy o bwyslais nawr ar lyfrau print felly gobeithio bydd mwy cyn hir. Byddaf yn hapus i drafod i ffordd gorau o rannu'r cynnwys yma efo'r gymuned Wici. Jason.nlw (sgwrs) 11:28, 23 Tachwedd 2020 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: tybed ydy File:Life of David Lloyd George (IA lifeofdavidlloyd01dupa).pdf o ddiddordeb i ti alwyn? Gwaith wedi'i sganio gan y California Digital Library. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:02, 4 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]

Llywodraeth Cymru yn rhyddhau eu fideos yn agored

Yn dilyn trafodaeth gyda'r Llywodraeth, mae nhw bellach wedi cychwyn defnyddio dwy drwydded agored ar eu fideos: CC-BY ac OGL. Mae hyn yn golygu fod eu fideos o'u datganiadau i'r wasg diweddar hefyd ar gael i'n herthyglau! Hyd y gwn i does yr un llywodraeth arall, drwy'r byd, yn gwneud hyn!

Dw i wedi uwchlwytho 58 ohonyn nhw, hyd yma:

sy'n cynnwys y datganiadau boreol pwysig. Mae'r rhain yn dystiolaeth o'r hyn ddywedodd ac a wnaeth ein llywodraeth, ac yn uffernol o bwysig i gefnogi ffeithiau ar erthyglau fel en:COVID-19 pandemic in the United Kingdom, a gallwn eu rhoi ar cy-wici a de-wicihefyd wrth gwrs.

Mae na fideos hefyd yn dechrau dod nad ydyn nhw'n ymwneud a'r Gofid Mawr ee Commons:File:Stranciau yn erbyn Gwylltineb.webm neu File:Cymru am heddwch ymgais Cymru i sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd.webm sy'n gweiddi am erthygl! Mae croeso i chi fynd ati i'w defnyddio ar cy, en, fr, de... Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:01, 2 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]

Mae'r ddau yma yn y prif barth: Rhestr o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru am Covid-19 a Rhestr o'r fideos yn Saesneg Llywelyn2000 (sgwrs) 08:07, 11 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Mae'r Llywodraeth wedi cytuno i newid dros 1,600 o'u fideos i gynnwys twryddedau OGL a CC-BY: dwy drwydded agored!!! Dw i wedi uwchlwytho bron i gant: gweler Commons:Category:Welsh Government videos a'r isgategoriau. Mae'r fideos i gyd ar YouTube yn fama. Os ydych am i mi uwchlwytho un i Comin, jyst gofynwch! Neu defnyddio meddalwedd megis Miro Video Converter. Mwynhewch - a diolch i Lywodraeth Cymru!!!

Disney ac egin ffilmiau

Mae gen i awydd gwahardd y defnyddiwr yma ac unrhyw ddefnyddwyr anhysbys arall sy'n creu erthyglau heb unrhyw gynnwys o werth (gyda'r hyfrdra o'i greu gyda nodyn 'gwella'). Wedyn rwy am ddileu yr erthyglau yma am nad oes unrhyw bwrpas iddynt a does neb a'r amser i'w ehangu i rywbeth defnyddiol. Bydd wastad mwy o wybodaeth gyfredol am ffilmiau Seisnig ar enwiki ond fan hyn mae'r erthyglau 'hadyn' yn creu smonach. Mae yna lawer ar Categori:Egin ffilmiau animeiddiedig a chategoriau tebyg. Pwy sy'n cytuno? --Dafyddt (sgwrs) 21:08, 9 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]

Cytuno 110%, Dafydd! Ar ben hyn, efallai y dylem hefyd gloi'r erthyglau perthnasol unwaith eto: mae na rai dw i'n meddwl sydd heb eu cloi! Mi ai drwyddwn nhw os na fydd gwrthwynebiad. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:57, 10 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Mae'r defnyddiwr anhysbys hwn yn boendod, ynte? Rwyf innau wedi gwastraffu tipyn o amser yn dadwneud ei lanast. Mae'r cyfeiriad IP yn wahanol bob tro, felly does fawr o bwrpas i'w blocio. Oes ffordd i atal defnyddwyr anhysbys rhag creu erthyglau newydd? Mae'n anghyffredin iawn bod erthygl werth chweil yn cael ei chreu gan rywun nad yw wedi mewngofnodi. (Mater arall yw golygu erthyglau heb fewngofnodi.) --Craigysgafn (sgwrs) 13:27, 10 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Cytuno unwaith eto! On the English and Persian Wikipedias, they cannot create pages outside of the "talk" namespace. medd Meta yn fama. Felly, os ydy pawb yn gytun, gallwn wneud cais (rhywle!) ar Meta i'r perwyl hwn. Atal golygyddion ar IP / heb gofnodi rhag creu erthygl newydd a... Ar ol creu erthygl ddrafft newydd yn ei barth ei hun, byddai golygydd cofrestredig newydd yn ychwanegu Nodyn 'Gwerthuso' neu 'Cais i gyhoeddi' ei erthygl. Fel hyn byddai llawer llai o rybish yn ein cyrraedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:06, 11 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Ie mae'n anffodus bod angen gwneud hyn ond byddai'n lleihau gwaith gweinyddol/goruchwylio. Mae'r wahanol brosiectau ar gyfer ehangu cywiki i gyd yn dysgu sut i greu cyfrif fel man cychwyn beth bynnag, felly does dim problem o ran hynny. --Dafyddt (sgwrs) 12:16, 11 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi ehangu dau o'r erthyglau Disney allan o statws egin Snow White and the Seven Dwarfs (ffilm 1937) a The Adventures of Ichabod and Mr. Toad. Mae'r erthyglau Saesneg yn enfawr (rhy hir am erthygl gwyddoniadur yn fy marn i) felly dim ond tua 10kb yw'r ehangiadau. (Rwy'n credu mae 5-15kb yw hyd ddelfrydol erthygl gwyddoniadur, sydd dim yn rhestr). Rwy'n fodlon ehangu tua 10 arall. Gan fod dros 100 ohonynt, nid ydwyf yn debygol o wneud y cyfan. Pa rai, tybed yw'r pwysicaf, i'w dad egino? AlwynapHuw (sgwrs) 05:50, 17 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Rwy'n hoffi'r syniad o atal cyhoeddi / golygu erthygl heb ganiatâd gweinyddwr / golygydd profiadol, hyd dderbyn caniatâd i symud (2 neu 3) erthygl o ddeorfa i safle erthygl go iawn. Mae'n gas gennyf dileu erthyglau ond mae gormod ohonynt sy'n one linars a chyfieithiadau peiriant. AlwynapHuw (sgwrs) 05:50, 17 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Pwynt da Alwyn: efallai mai ceisio ein cael ni i ehangu erthyglau mae'r Fandal!? Y deg pwysicaf - y deg mwyaf poblogaidd o ran gwerthiant tocynnau? Dw i hefyd yn hgoffi'r gair deorfa, Alwyn!!! Dwi dal heb ganfod ble i ofyn y cwestiwn am erthyglau drafft / atal defnyddwyr newydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:42, 17 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Dwi'n hapus efo'r syniad o stopi defnyddwir sydd heb cofrestri creu erthyglau newydd, ond dmae'r trefn ar y Wici Saesneg o atal defnyddwir cofrestredig newydd rhag creu erthyglau newydd am cyfnod yn creu problemau o rhan cynnal digwyddiadau ac annog defnyddwyr newydd Jason.nlw (sgwrs) 15:32, 15 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Ond Jason, mae hyfforddwyr mewn golygathonau'n dangos i'r golygyddion newydd sut i fewngofnodi, gobeithio?! Dwi'n cytuno gyda Dafyddt fod angen dileu erthyglau bach tila a gyda Craigysgafn fod angen cloi llawer mwy o erthyglau a nodion ee y rhai Disney ac atal golygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Fe ddylem sefydlu trefn o ddrafftio hefyd hyd yn oed i olygyddion sydd wedi mewngofnodi: i ddrafftio'r gwaith yn eu parth nhw eu hunain. Felly dyma dwi'n gynnig:
1. blocio defnyddwyr sydd heb fewngofnodi
2. cloi mwy o erthyglau a nodion (angen polisi)
3. defnyddio system o ddrafftio a gofyn am ganiatad i gyhoeddi NEU rhoi'r hawl i ddileu ar unwaith erthyglau sy'n llai na dwy baragraff, neu heb bethau hanfodol fel categoriau.
Sian EJ (sgwrs) 08:44, 16 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Helo Sian EJ, diolch am yr ymateb. Wrth gwrs dyle pobl cofrestri yn golygathonau - mae fy neges yn son am y trefn ar y Wicipieda Saesneg ar gyfer Golygyddion sydd newydd cofrestri (Unconfirmed Users), Cofion Jason.nlw (sgwrs) 16:46, 16 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Sian EJ Jason.nlw Llywelyn2000 Dafyddt Dim yn credu byddai'r drefn Seisnig o beidio cyhoeddi ychydig o erthyglau cyntaf defnyddwyr newydd cyn eu hadolygu gan ddefnyddiwr profiadol yn broblem i sesiynau hyfforddi / golygathonau. O herwydd eu natur bydd sesiynau hyfforddi a golygathonau yn cael eu harwain gan ddefnyddiwr profiadol. Byddwn yn disgwyl byddai adolygu cyfraniadau defnyddwyr newydd dan hyfforddiant / mewn golygathon yn rhan hanfodol o'r gweithgareddau. Yr unig broblem rwy'n rhagweld yw sicrhau bod cyhoeddi neu ymateb i erthygl newydd yn brydlon, ac na fydd erthyglau newydd yn eistedd mewn deorfa am ddyddiau lawer. Bydd raid wrth drefn i sicrhau nad yw hynny'n digwydd AlwynapHuw (sgwrs) 15:00, 17 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Sian EJ AlwynapHuw Llywelyn2000 Dafyddt. Y ffordd mae'r Wici Saesneg wedi delio efo'r digwyddiadau, yw sicrhau bod gan hyfforddwyr yr hawl i neud (Autoconfirm) efo defnyddwyr newydd er mwyn iddyn nhw gyhoeddi ar unwaith, o dan ofal olygydd profiadol. Credu bod hyn yn bwysig er mwyn i bobol cael y profiad llawn o gyfrannu i Wici mewn digwyddiad. Bydd e'n neis gweld system debyg ar CY os rydym yn mynd lawr y llwybr yna. Ond cytuno bod angen i ni wneud yn siŵr bod y gallu efo ni wedyn i gymeradwyo cyfraniadau o bell gan ddefnyddwyr newydd. Y cwestiwn cyntaf rili yw, a fydd hyn yn fwy o waith na chael gwared â fandaliaeth gan gyfranwyr sydd newydd greu cyfrif? - oes na llawer o fandaliaeth, neu erthyglau gwael yn dod o defnyddwyr cofrestredig newydd? Jason.nlw (sgwrs) 11:01, 18 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]

Categoriau ar Comin

Angen help i gael y cats yn amlieithog. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:42, 11 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud. Gwerth nodi nad ydy hwn yn un o'r dadleuon diflas imperialaidd sy'n digwydd mor aml ar dudalennau Saesneg Wiki, dim ond matter o gytuno trwy ysgrifennu * {{support}} ~~~~ ar waelod y rhestr o gefnogwyr AlwynapHuw (sgwrs) 17:12, 13 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]
Can diolch! ON Mae JJ wedi bod wrthi'n brysur ar yr erthygl Saesneg ar Talk:COVID-19 pandemic in the United Kingdom. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:44, 17 Rhagfyr 2020 (UTC)[ateb]

Cyfieithu enwau adeiladau cofrestredig

Helo Pawb!

Mae Cronfa CADW efo'r holl adeiladai cofrestredig yng Nghymru wedi bod ar Wikidata ers sawl blwyddyn nawr ond an anffodus nid yw CADW yn cofnodi enw Cymraeg y safleoedd. Dw'i wedi llwydo ychwanegu disgriffiadau i Wikidata gan denfyddio'r data sydd efo ni, ond er mwyn dechrau cyfieithu'r enwau mae angen gwirfoddolwyr! Dros y ddau fis nesaf byddaf yn annog pobol i cyfrannu at y ddogfen yma er mwyn dechrau casglu enwau Cymraeg ac ychwanegu at y cofnodion Wikidata. Byddaf yn diolchgar am unrhyw cymorth! Cofion Jason.nlw (sgwrs) 11:20, 18 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]

ːA'i o restr CADW y daw'r golofn Saesneg i gyd? Dwi'n gweld bod yr acen ar goll yn ddieithirad bron ar bob 'Tŷ' yn y Saesneg, hefyd mewn enwau fel Glandŵr a Bronmôr. Mae yna wallau eraill fel 'Llygard y Dydd' (yn lle Llygaid y Dydd)--'sdim posib olrhain lle bu'r camgofnodi debyg. Ai newid y gwreiddiol yn Wikidata yn unigol fyddai orau, neu oes modd gwneud hyn en-masse ar ôl cwblhau'r daenlen Google, h.y. petai modd golygu'r golofn Saesneg yno?--Rhyswynne (sgwrs) 14:04, 20 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]