Oberon (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Oberon wedi'i symud i Oberon (lloeren)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:94908835_cb37586704_m.jpg]]
[[Delwedd:94908835_cb37586704_m.jpg|frame|left|Oberon]]


'''Oberon''' yw'r fwyaf allanol o loerennau mawr [[Wranws]]:
'''Oberon''' yw'r fwyaf allanol o loerennau mawr [[Wranws]]:

Fersiwn yn ôl 05:43, 9 Chwefror 2007

Delwedd:94908835 cb37586704 m.jpg
Oberon

Oberon yw'r fwyaf allanol o loerennau mawr Wranws:

Cylchdro: 583,420 km oddi wrth Wranws

Tryfesur: 1523 km

Cynhwysedd: 3.03e21 kg


Brenin y Tylwyth Teg yw Oberon yn y ddrama Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.

Cafodd ei darganfod gan Herschel ym 1787.

Mae Oberon ac Umbriel yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Oberon 35% yn fwy. Fel lloerennau eraill Wranws, mae Oberon wedi ei chyfansoddi o 40-50% dŵr a 50-60% deunydd creigiog. Mae arwyneb Umbriel yn llawn o graterau ac yn ôl pob tebyg mae wedi bod yn sefydlog ers iddi ffurfio. Mae gan Oberon fwy o graterau -a rhai mwy eu maint- nag Ariel a Thitania. Mae gan rhai ohonynt belydrau o ejecta (deunydd sy'n cael ei allfwrw pan fo gwrthrych yn taro'r arwyneb), yn debyg i'r rhai a welir ar Galisto.

Mae gwaelodion rhai o'r craterau'n dywyll, efallai wedi eu cuddio gan ddeunydd tywyll (o bosib dŵr budr) sydd wedi goferu i mewn i'r crater.

Gwelir anafau ar draws hemisffer deheuol Oberon. Mae hynny'n awgrymu gweithgarwch geolegol yn gynnar yn hanes Oberon.