Siroedd hanesyddol Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 55: Llinell 55:
* [[Siroedd seremonïol Lloegr]]
* [[Siroedd seremonïol Lloegr]]


[[Categori:Siroedd Lloegr]]

[[Categori:Siroedd hanesyddol Lloegr| ]]
[[Categori:Siroedd hanesyddol Lloegr| ]]

Fersiwn yn ôl 21:06, 7 Ionawr 2021

Roedd siroedd hanesyddol Lloegr yn ardaloedd gweinyddol a sefydlwyd gan y Normaniaid. Roedd siroedd yr Oesoedd Canol yn fodd i orfodi pŵer llywodraeth ganolog, gan alluogi brenhinoedd i reoli eu hardaloedd lleol trwy eu cynrychiolwyr dewisol – siryfion yn wreiddiol ac yn ddiweddarach yr Arglwydd Raglawiaid – yn ogystal ag ynadon heddwch. Defnyddiwyd siroedd i ddechrau ar gyfer gweinyddu cyfiawnder, casglu trethi a threfnu'r fyddin, ac yn ddiweddarach ar gyfer llywodraeth leol ac ethol cynrychiolaeth seneddol.

Mewn canrifoedd diweddarach, yn ogystal â bod â swyddogaeth weinyddol, chwaraeodd y siroedd ran allweddol wrth ddiffinio diwylliant a hunaniaeth eu hardaloedd. Parhaodd y rôl ddiwylliannol hon hyd yn oed ar ôl iddynt golli eu harwyddocâd gwleidyddol fel canlyiad i greu siroedd gweinyddol ym 1889, ac ailadeiladu llywodraeth leol yn sylweddol ym 1974.

Mae enwau a lleoliadau llawer o'r siroedd hanesyddol yn byw yn siroedd seremonïol Lloegr heddiw.

Rhestr o'r siroedd

Dim ar y map: Dinas Llundain

Gweler hefyd