CROESO!
Fy enw i ydy Robin Llwyd ab Owain a dw i'n gweithio fel Rheolwr Cymru i Wikimedia UK ers 01 Mehefin 2013. Cysylltwch drwy fy wici-ebost (bar sgrolio ar y chwith). Dw i'n Weinyddwr ers 18 Gorffennaf 2008 ac yn Fiwrocrat ers 22 Rhagfyr 2011. Arswydus swyddi! [Mae gen i dros 415,000 o olygiadau a hynny ar 72 o brosiectau: a 86 mil ohonyn nhw yn olygiadau ar yr Wicipedia Cymraeg.
Dyma englyn neu ddau i'ch croesawu:
Wrth Ddarllen Llythyrau Owain Glyn Dŵr ar y Traeth yn Harlech ar Kindle
- O hen archoll anarchydd, - o galon
-
- I galon o'r newydd,
- Ar y we yn Gymry rhydd:
- O'r llenor i'r darllenydd.
ac un i Olygydd Wicipedia:
- Yn organig - rho ganwaith - y diolch
-
- Sy'n blodeuo'n berffaith:
- Rho yn ôl i'r hen, hen iaith
- Ei thwf, ei nerth a'i hafiaith...
Hyd yma cafwyd 12,556,788 o olygiadau ar y wici Cymraeg gan 88,959 o olygyddion cofrestredig a miloedd rhagor o olygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Ceir 16 o Weinyddwyr sy'n ceisio cadw trefn ar bethau, a hynny mor agored a phosibl. Roedd nifer y golygyddion gweithgar (dros 5 golygiad) y mis diwethaf yn 122.
Y person diwethaf i olygu'r dudalen hon oedd Llywelyn2000 a hynny ar 12-12-2020; dyddiad heddiw ydy: 24 Ebrill 2024. Mae'r wybodaeth byw a welir ar y dudalen hon yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio côd wici; ceir rhestr ohonyn nhw yn fama.
Agor drysau
Dw i'n ymfalchio i mi gnocio drws, ac i'r drws hwnnw agor yn y sefydliadau canlynol:
Llywodraeth Cymru, [[Sain (Recordiau), Cyfoeth Naturiol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol, y Comisiwn Brenhinol, y Coleg Cymraeg a Chymdeithas Edward Llwyd, sydd i gyd yn rhoi eu deunydd yn agored ar Wicipedia a'i chwiorydd. Braf hefyd oedd eistedd rownd y bwrdd yn 2015 gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Mon, a chreu prosiect 'Wici Mon'. Ac yna, ar y cyd, fe luniom gais i CBAC a gwelwyd golygu Wicipedia yn un o heriau'r Fagloriaeth.
Sgwennais ychydig am ddatblygiad y Wicipedia Cymraeg (addysg) mewn blog, a chyflwynais rhai cerrig milltir yng Nghynhadledd y Cwlwmtaidd yn Aberystwyth.
Rhai erthyglau dw i wedi ceisio eu mireinio:
Cymru:
Os canfyddwch gangymeriad - cywiwch nhw, neu os fedrwch ehangu arnynt - gwnewch hynny! Mae mwy a mwy o bobl, ysgolion, cwmniau a cholegau yn defnyddio Wicipedia, bellach, felly ychwanegwch bwt ar eich ardal neu eich diddordeb!!! ...fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl...
Fy nghyfraniadau
Ar y Wicipedia Cymraeg
Ystadegau
|
Gweithred |
Nifer
|
Golygwyd
|
98715
|
Golygwyd a dilewyd
|
100609
|
Dilewyd
|
2285
|
Tudalennau a adferwyd
|
28
|
Tudalennau wedi'u diogelu
|
33
|
Tudalennau a wrthddiogelwyd
|
0
|
Addaswyd y tudalennau a ddiogelwyd
|
13
|
Defnyddwyr a flociwyd
|
337
|
Defnyddwyr a wrthflociwyd
|
29
|
Newidiwyd hawliau defnyddwyr
|
41
|
Crewyd cyfrifon Defnyddwyr
|
2
|
traws-wici