William Williams (Gwilym ab Ioan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}{{banergwlad|UDA}}|dateformat=dm...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 24: Llinell 24:
[[Categori:Genedigaethau 1800]]
[[Categori:Genedigaethau 1800]]
[[Categori:Marwolaethau 1868]]
[[Categori:Marwolaethau 1868]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd Americanaidd]]
[[Categori:Americanwyr Cymreig]]

Fersiwn yn ôl 14:42, 26 Hydref 2020

William Williams
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Llanycil Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1868 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner UDA UDA
Galwedigaethbardd, clerc banc, golygydd Edit this on Wikidata

Roedd William John Williams (Gwilym ab Ioan) (180028 Ionawr 1868) yn fardd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. [1]

Cefndir

Ganwyd Gwilym ab Ioan yn y Tyddyn Du, Llanycil, Sir Feirionnydd yn blentyn i John Williams gweithiwr amaethyddol a bardd gwlad. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol elfennol a gynhaliwyd gan Y Parch Richard Jones, Y Parc yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanuwchllyn. Dysgodd cerdd dafod fel aelod o Gymdeithas Cymreigyddion, Llanuwchllyn. [2]

Gyrfa

Wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ym 1824 bu'n gweithio mewn cangen o fanc Nasau yn Ninas Efrog Newydd. Roedd yn aelod amlwg o gymdeithas Cymraeg y ddinas, yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Elusengar Dewi Sant ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Fuddiol Dewi Sant. [3]

Cafodd llwyddiant eisteddfodol efo'i ganu. Enillodd gwobr o gini aur a medal yn Eisteddfod y Fenni 1837 am gyfres o 12 o englyn er cof am Thomas Price (Carnhuanawc). Enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau yn yr Unol Daleithiau hefyd gan gynnwys dwy fedal arian am gerdd ar ffieidd-dra rhyfel ac am gerdd yn clodfori elusengarwch. Cyhoeddodd nifer fawr o gerddi ym mhapurau a chylchgronau Cymraeg America. Roedd yn cael cystadlaethau creu englyn byrfyfyr gyda'i gyfaill a chyd bardd Edward Jones (Eos Glan Twrch); wedi marwolaeth Gwilym, cyhoeddodd yr Eos nifer o'r englynion yn y papurau Cymraeg. [4] Rhwng 1853 a 1856 bu'n cyd-olygydd Y Cylchgrawn Cenedlaethol Cylchgrawn llenyddol misol, Cymraeg am lenyddiaeth, barddoniaeth a cherddoriaeth a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd. [5]

Teulu

Ym 1828 priododd Gwilym ab Ioan â Jane Reed o Oneida County, Efrog Newydd. Bu iddynt bump o blant.

Marwolaeth

Bu farw Gwilym ab Ioan o anhwylder yr arennau yn 68 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cypress Hill, Long Island, Efrog Newydd. [6] Y flwyddyn ganlynol enillodd ei gyfaill barddol Y Parch Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd) prif wobr Eisteddfod Utica am bryddest er cof amdano. [7]

Cyfeiriadau

  1. WILLIAMS, WILLIAM (‘Gwilym ab Ioan’; 1800 - 1868), bardd yn U.D.A.;. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 26 Hyd 2020
  2. "Y DIWEDDAR GWILYM AP lOAN - Y Drych". Mather Jones. 1885-09-10. Cyrchwyd 2020-10-26.
  3. Y Cyfaill o'r Hen Wlad yn America Cyf. XXXI rhif. 385 [376 - Ebrill 1868 William J Williams] Adferwyd 26 Hyd 2020
  4. "Englynion Pummynydol Gwilym Ab loan ac Eos Glan Twrch - Y Drych". Mather Jones. 1886-04-29. Cyrchwyd 2020-10-26.
  5. Cylchgronau Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Y Cylchgrawn Cenedlaethol Adferwyd 26 Hyd 2020
  6. Y Cenhadwr Americanaidd Cyf. 29 rhif. 341 - Mai 1868 William J Williams Adferwyd 26 Hyd 2020
  7. Jones, R. Mawddwy Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd (Y Bala 1906) tud 273 Pryddest: Gwilym ab Ioan Adferwyd 26 Hyd 2020