Galisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 117: Llinell 117:
[[Categori:Cymunedau ymreolaethol Sbaen]]
[[Categori:Cymunedau ymreolaethol Sbaen]]
[[Categori:Galisia| ]]
[[Categori:Galisia| ]]
[[Categori:Y Celtiaid| ]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn Ewrop|Celtiaid, Y]]
[[Categori:Hanes Ewrop|Celtiaid, Y]]
[[Categori:Pobloedd hynafol|Celtiaid, Y]]

Fersiwn yn ôl 12:04, 24 Hydref 2020

Comunidade Autónoma da
Galiza
Baner Galisia
Ieithoedd swyddogol Galisieg a Sbaeneg
Prifddinas Santiago de Compostela
Anthem genedlaethol Os Pinos
Arwynebedd
 – Cyfanswm
 – % o Sbaen
Safle 7fed
 29,574 km²
 5.8%
Poblogaeth
 – Cyfanswm
 – % o Sbaen
 – Dwysedd
Safle 5ed
 2,760,179
 2,9%
 93.78/km²
ISO 3166-2 GA
Arlywydd Alberto Núñez Feijoo (PPdeG-PP)
Xunta de Galicia

Mae Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia), yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalonia ac Euskadi (sef Gwlad y Basg).

Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.

Roedd Rosalía de Castro (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia.

Cysylltiad Celtaidd

Mae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad Geltaidd am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.

Enw un o brif glybiau pêl-droed y wlad yw Celta de Vigo (Celtiad Vigo) ac mae cerddoriaeth draddodiadol Galisia yn cynnwys offerynnau Celtaidd fel y pibgod.

Mae Os Pinos - anthem genelaetho y wlad yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Beogán’. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan) yn arwr yn hanes Celtaidd. Mae’r llyfr Gwyddelig Lebor Gabála Érenn (Llyfr llafar Iwerddon) o’r canoloesol yn cyfeirio at Breogán a’i disgynyddion yn teithio i Galisia a sefydlu dinas Brigantia (A Coruña heddiw). Mae cerflun modern enfawr o Beogán yn sefyll yn A Coruña yn edrych tua'r môr ac Iwerddon


Prif drefi Galisia

Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.

Oriel

Dinasoedd a threfi mawrion

Y prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.

Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:

  • Vigo-Pontevedra – 660,000
  • A Coruña-Ferrol – 640,000
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth
Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013) Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013)
1 Vigo Pontevedra 294,997   11 Carballo A Coruña 31,303
2 A Coruña A Coruña 244,810   12 Arteixo A Coruña 30,482
3 Ourense Ourense 106,905   13 Redondela Pontevedra 30,006
4 Lugo Lugo 98,007   14 Culleredo A Coruña 29,207
5 Santiago de Compostela A Coruña 95,207   15 Ames A Coruña 28,852
6 Pontevedra Pontevedra 82,946   16 Ribeira A Coruña 27,699
7 Ferrol A Coruña 70,389   17 Cangas Pontevedra 26,121
8 Narón A Coruña 39,450   18 Marín Pontevedra 25,864
9 Vilagarcía de Arousa Pontevedra 37,621   19 Cambre A Coruña 23,649
10 Oleiros A Coruña 34,470   20 Ponteareas Pontevedra 23,561


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Fraga, Xesús (2008-06-08). "La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia". La Voz de Galicia. Unknown parameter |trans_title= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)