Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Dolen allanol: clean up |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*[[R.T. Jenkins]] a Helen Ramage, ''A History of the Honourable Society of the Gwyneddigion and Cymmrodorion Societies, 1751-1951'' (Llundain, 1951) |
*[[Robert Thomas Jenkins|R. T. Jenkins]] a Helen Ramage, ''A History of the Honourable Society of the Gwyneddigion and Cymmrodorion Societies, 1751-1951'' (Llundain, 1951) |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 10:02, 15 Hydref 2020
Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sedyflwyd gan Richard Morris yn Llundain yn 1751 yw Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion neu'r Cymmrodorion. Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.
Cyhoeddiadau
Cyhoeddwyd y cylchgrawn ysgolheigaidd Y Cymmrodor o 1877 hyd 1951 a'r Cymmrodorion Record Series o 1889 ymlaen. Y Cymmrodorion hefyd yw cyhoeddwyr Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) a'r fersiwn ar-lein. Mae Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn dal i gael ei gyhoeddi heddiw ac yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ymchwil i lên, hanes a diwylliant Cymru.
Darlithoedd
Mae’r gymdeithas yn trefnu cyfres o ddarlithoedd ble y cyflwynir papurau yn y Saesneg a’r Gymraeg gan siaradwyr o’r byd academaidd a chyhoeddus.
Cynhelir ein cyfarfodydd yn Llundain a Chymru, mewn lleoliadau sy’n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cynhelir darlith arbennig yn y Gymraeg sef Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Cymru yn Llundain a Chymdeithas Sir Drefaldwyn. Fel arfer, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Mai bob blwyddyn. Cyhoeddir y darlithoedd, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau eraill, yn y Trafodion blynyddol.
Swyddogion
- Llywydd: Yr Athro Prys Morgan ers 2005
- Noddwr: Y Tywysog Siarl
- Ysgrifennydd: Peter Jeffreys
- Trysorydd: Huw Wynne-Griffith
- Ysgrifennydd Aelodaeth: Dr Adrian Morgan
- Golygydd: Yr Athro Helen Fulton, ers 2008
Llyfryddiaeth
- R. T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of the Gwyneddigion and Cymmrodorion Societies, 1751-1951 (Llundain, 1951)