Ieithoedd Goedelaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
| bgcolor="pink" | '''Llydaweg'''
| bgcolor="pink" | '''Llydaweg'''
| bgcolor="lightseagreen" | '''Gwyddeleg'''
| bgcolor="lightseagreen" | '''Gwyddeleg'''
| bgcolor="lightseagreen" | '''Gaeleg yr Alban'''
| bgcolor="lightseagreen" | '''Yr iaith Aeleg yng Nghanada'''
| bgcolor="lightseagreen" | '''Manaweg'''
| bgcolor="lightseagreen" | '''Manaweg'''
|-
|-
Llinell 52: Llinell 52:
** [[Gwyddeleg Canol]], wedi datblygu yn:
** [[Gwyddeleg Canol]], wedi datblygu yn:
*** [[Gwyddeleg]]
*** [[Gwyddeleg]]
*** [[Gaeleg yr Alban]]
*** [[Yr iaith Aeleg yng Nghanada]]
*** [[Manaweg]]
*** [[Manaweg]]



Fersiwn yn ôl 18:58, 8 Hydref 2020

Mae 'r ieithoedd Goidelig, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaeleg, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Yr iaith Aeleg yng Nghanada (Gàidhlig Chanada) a Manaweg (Gaelg). Rhennir yr ieithoedd Celtig sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goidelig ac ieithoedd Brythonig, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goidelig ohoni fel Celteg Q neu Goideleg ac felly gelwir yr ieithoedd Goidelig yn 'ieithoedd Celteg Q' weithiau hefyd, tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P (Brythoneg: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban, tarddiad yr ieithoedd Brythonig). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain Proto-Gelteg *kw, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonig trôdd y sain *kw yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *kw.

Proto-Gelteg Galeg Cymraeg Llydaweg Gwyddeleg Yr iaith Aeleg yng Nghanada Manaweg
*kwennos pennos pen penn ceann ceann kione
*kwetwar- petuarios pedwar pevar ceathair ceithir kiare
*kwenkwe pinpetos pump pemp cúig còig queig
*kweis pis pwy piv cé (older cia) cò/cia quoi

Credir fod yr ieithoedd Goidelig wedi datblygu fel a ganlyn:

Hyd y gwyddys, dim ond yn Iwerddon roedd Goideleg, tardd-iaith yr ieithoedd Goidelig, yn cael ei siarad hyd nes i'r Scotti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbryd rhwng y 3g a'r 6g OC.

v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.