Piwritaniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mudiad diwygiadol [[Cristnogaeth|Cristnogol]] o [[Protestaniaeth|Brotestaniaid]] yn y |
Mudiad diwygiadol [[Cristnogaeth|Cristnogol]] o [[Protestaniaeth|Brotestaniaid]] yn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif oedd '''Piwritaniaeth''', a geisiodd buro [[Eglwys Loegr]] o olion [[yr Eglwys Babyddol]]. Roedd Piwritaniaid yn credu nad oedd Eglwys Loegr wedi ei diwygio'n llawn ac y dylai ddod yn fwy Protestannaidd. Bu cyfraniad Piwritaniaeth at hanes Lloegr yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnod y Brotectoriaeth (1653–1659) ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr.<ref>{{Cite book|title=Puritan Iconoclasm During the English Civil War|url=https://books.google.com/books?id=8QYywtJ4rb0C|publisher=Boydell Press|date=2003|isbn=978-0-85115-895-2|language=en|first=Julie|last=Spraggon}}</ref> |
||
Roedd Piwritaniaid yn anhapus â dylanwad cyfyngedig y Diwygiad Seisnig a chyda goddefiad Eglwys Loegr o rai arferion oedd yn gysylltiedig â'r Eglwys Babyddol. Eu bwriad oedd puro Eglwys Loegr o ran addoli ac athrawiaeth, yn ogystal â duwioldeb personol a chorfforaethol. Mabwysiadodd Piwritaniaid ddiwinyddiaeth Ddiwygiedig ac, yn yr ystyr hwnnw, roeddent yn Galfiniaid (yn yr un modd â llawer o'u gwrthwynebwyr cynharach). Roedd rhai Piwritaniaid o blaid gwahanu oddi wrth yr holl enwadau Cristnogol eraill er mwyn sefydlu eglwysi annibynnol. Daeth y grwpiau gwahanol hyn a fodolai oddi mewn i'r Piwritaniaid, fel yr Ymwahanwyr, i'r amlwg yn y 1640au, pan oedd Cynulliad San Steffan yn methu ffurfio eglwys genedlaethol newydd yn Lloegr. |
|||
* R. Geraint Gruffydd, ''Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth'', gol. [[E. Wyn James]] (2019) |
|||
{{eginyn Cristnogaeth}} |
|||
Erbyn diwedd y 1630au, roedd y Piwritaniaid mewn cynghrair â'r byd masnachol oedd yn ehangu o ran dylanwad yn y gymdeithas, yn gwrthwynebu cysyniad ‘hawl dwyfol’ y frenhiniaeth, ac roedd ganddynt gefnogwyr pwerus ym [[Presbyteriaeth|Mhresbyteriaid]] [[yr Alban]]. O ganlyniad, daethant yn rym gwleidyddol mawr yn Lloegr, a chryfhawyd y grym hwnnw o ganlyniad i [[Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr|Ryfel Cartref Cyntaf Lloegr]] (1642–1646). Gadawodd bron pob clerigwr Piwritanaidd Eglwys Loegr ar ôl adferiad y frenhiniaeth ym 1660 a Deddf Unffurfiaeth 1662. Parhaodd llawer i arfer eu ffydd mewn enwadau anghydffurfiol, yn enwedig mewn eglwysi Annibynnol a Phresbyteraidd. Bu newid radicalaidd yn natur y mudiad yn Lloegr, er iddo gadw ei gymeriad am gyfnod llawer hirach yn [[Lloegr Newydd]], America.<ref>{{Cite book|title=The Puritan gentry besieged, 1650-1700|url=https://www.worldcat.org/oclc/919306589|location=[Place of publication not identified]|isbn=978-1-134-91815-7|oclc=919306589|last=Cliffe, J. T. (John Trevor), 1931-}}</ref> |
|||
Ni chafodd Piwritaniaeth erioed ei ddiffinio'n ffurfiol o fewn Protestaniaeth, ac yn anaml y defnyddiwyd y term ‘Piwritan’ ei hun ar ôl troad y 18fed ganrif. Ymgorfforwyd rhai delfrydau Piwritanaidd - gan gynnwys gwrthod Pabyddiaeth yn ffurfiol - yn athrawiaethau Eglwys Loegr; cafodd eraill eu hamsugno mewn enwadau Protestannaidd eraill a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif yng Ngogledd America a Phrydain. Mae'r eglwysi Cynulleidfaol, yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn rhan o'r traddodiad Diwygiedig, yn ddisgynyddion i'r Piwritaniaid. Yn ogystal â hynny, mae credoau Piwritanaidd wedi eu hymgorffori yn Natganiad Savoy, cyfaddefiad ffydd Eglwysi'r Annibynwyr.<ref>{{Cite book|title=Puritans and Puritanism in Europe and America: A Comprehensive Encyclopedia|url=https://books.google.com/books?id=EzvHvEDPosQC|publisher=ABC-CLIO|date=2006|isbn=978-1-57607-678-1|language=en|first=Francis J.|last=Bremer|first2=Tom|last2=Webster}}</ref> |
|||
== Piwritaniaid enwog == |
|||
* Thomas Gouge |
|||
* William Bridge |
|||
* Thomas Manton |
|||
* [[John Flavel]] |
|||
* Richard Sibbes |
|||
* [[Stephen Charnock]] |
|||
* William Bates |
|||
* [[John Owen (gwleidydd)|John Owen]] |
|||
* John Howe |
|||
* [[Richard Baxter]] |
|||
== Cyfeiriadau == |
|||
<references /> |
|||
[[Categori:Piwritaniaeth| ]] |
[[Categori:Piwritaniaeth| ]] |
Fersiwn yn ôl 12:29, 15 Medi 2020
Mudiad diwygiadol Cristnogol o Brotestaniaid yn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif oedd Piwritaniaeth, a geisiodd buro Eglwys Loegr o olion yr Eglwys Babyddol. Roedd Piwritaniaid yn credu nad oedd Eglwys Loegr wedi ei diwygio'n llawn ac y dylai ddod yn fwy Protestannaidd. Bu cyfraniad Piwritaniaeth at hanes Lloegr yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnod y Brotectoriaeth (1653–1659) ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr.[1]
Roedd Piwritaniaid yn anhapus â dylanwad cyfyngedig y Diwygiad Seisnig a chyda goddefiad Eglwys Loegr o rai arferion oedd yn gysylltiedig â'r Eglwys Babyddol. Eu bwriad oedd puro Eglwys Loegr o ran addoli ac athrawiaeth, yn ogystal â duwioldeb personol a chorfforaethol. Mabwysiadodd Piwritaniaid ddiwinyddiaeth Ddiwygiedig ac, yn yr ystyr hwnnw, roeddent yn Galfiniaid (yn yr un modd â llawer o'u gwrthwynebwyr cynharach). Roedd rhai Piwritaniaid o blaid gwahanu oddi wrth yr holl enwadau Cristnogol eraill er mwyn sefydlu eglwysi annibynnol. Daeth y grwpiau gwahanol hyn a fodolai oddi mewn i'r Piwritaniaid, fel yr Ymwahanwyr, i'r amlwg yn y 1640au, pan oedd Cynulliad San Steffan yn methu ffurfio eglwys genedlaethol newydd yn Lloegr.
Erbyn diwedd y 1630au, roedd y Piwritaniaid mewn cynghrair â'r byd masnachol oedd yn ehangu o ran dylanwad yn y gymdeithas, yn gwrthwynebu cysyniad ‘hawl dwyfol’ y frenhiniaeth, ac roedd ganddynt gefnogwyr pwerus ym Mhresbyteriaid yr Alban. O ganlyniad, daethant yn rym gwleidyddol mawr yn Lloegr, a chryfhawyd y grym hwnnw o ganlyniad i Ryfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–1646). Gadawodd bron pob clerigwr Piwritanaidd Eglwys Loegr ar ôl adferiad y frenhiniaeth ym 1660 a Deddf Unffurfiaeth 1662. Parhaodd llawer i arfer eu ffydd mewn enwadau anghydffurfiol, yn enwedig mewn eglwysi Annibynnol a Phresbyteraidd. Bu newid radicalaidd yn natur y mudiad yn Lloegr, er iddo gadw ei gymeriad am gyfnod llawer hirach yn Lloegr Newydd, America.[2]
Ni chafodd Piwritaniaeth erioed ei ddiffinio'n ffurfiol o fewn Protestaniaeth, ac yn anaml y defnyddiwyd y term ‘Piwritan’ ei hun ar ôl troad y 18fed ganrif. Ymgorfforwyd rhai delfrydau Piwritanaidd - gan gynnwys gwrthod Pabyddiaeth yn ffurfiol - yn athrawiaethau Eglwys Loegr; cafodd eraill eu hamsugno mewn enwadau Protestannaidd eraill a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif yng Ngogledd America a Phrydain. Mae'r eglwysi Cynulleidfaol, yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn rhan o'r traddodiad Diwygiedig, yn ddisgynyddion i'r Piwritaniaid. Yn ogystal â hynny, mae credoau Piwritanaidd wedi eu hymgorffori yn Natganiad Savoy, cyfaddefiad ffydd Eglwysi'r Annibynwyr.[3]
Piwritaniaid enwog
- Thomas Gouge
- William Bridge
- Thomas Manton
- John Flavel
- Richard Sibbes
- Stephen Charnock
- William Bates
- John Owen
- John Howe
- Richard Baxter
Cyfeiriadau
- ↑ Spraggon, Julie (2003). Puritan Iconoclasm During the English Civil War (yn Saesneg). Boydell Press. ISBN 978-0-85115-895-2.
- ↑ Cliffe, J. T. (John Trevor), 1931-. The Puritan gentry besieged, 1650-1700. [Place of publication not identified]. ISBN 978-1-134-91815-7. OCLC 919306589.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Bremer, Francis J.; Webster, Tom (2006). Puritans and Puritanism in Europe and America: A Comprehensive Encyclopedia (yn Saesneg). ABC-CLIO. ISBN 978-1-57607-678-1.