Llyfrau'r Dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen wd, replaced: bawd| → bawd|chwith| using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn [[1952]]. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y [[1950au]] a'r [[1960au]] yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol ''[[Crwydro Cymru]]'', sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol ''[[Barn (cylchgrawn)|Barn]]'', yn Gymraeg, a ''[[Poetry Wales]]'' yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y [[1970au]] a daeth yn rhan o Gwmni [[Christopher Davies]] ([[Abertawe]]), mab [[Alun Talfan Davies]] sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg.
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn [[1952]]. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y [[1950au]] a'r [[1960au]] yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol ''[[Crwydro Cymru]]'', sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol ''[[Barn (cylchgrawn)|Barn]]'', yn Gymraeg, a ''[[Poetry Wales]]'' yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y [[1970au]] a daeth yn rhan o Gwmni [[Christopher Davies]] ([[Abertawe]]), mab [[Alun Talfan Davies]] sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg.


Roedd argraffdy'r cwmni wedi ei sefydlu yn [[Llandybie]]. Daeth [[Emlyn Evans (Llyfrau'r Dryw)|Emlyn Evans]] yn rheolwr ar y wasg yn 1957 ond fe ymddiswyddodd adeg anghydfod cyhoeddi [[Ieuenctid Yw 'Mhechod|Ienctid yw 'Mhechod]] gan [[John Rowlands (awdur)|John Rowlands]]. Dilynwyd ef gan [[Dennis Rees]] a dilynwyd yntau ddechrau'r 70au gan John Phillips.
Roedd argraffdy'r cwmni wedi ei sefydlu yn [[Llandybie]]. Daeth [[Emlyn Evans (Llyfrau'r Dryw)|Emlyn Evans]] yn rheolwr ar y wasg yn 1957 ond fe ymddiswyddodd adeg anghydfod cyhoeddi ''[[Ieuenctid yw 'Mhechod]]'' gan [[John Rowlands (awdur)|John Rowlands]]. Dilynwyd ef gan [[Dennis Rees]] a dilynwyd yntau ddechrau'r 70au gan John Phillips.


==Cyfres ''Llyfrau'r Dryw''==
==Cyfres ''Llyfrau'r Dryw''==
[[Delwedd:Tegla Gyda'r Glannau.JPG|200px|bawd|chwith|Clawr '''Gyda'r Glannau''', nofel gan [[E. Tegla Davies]] (1941), y bumed gyfrol yn y gyfres]]
[[Delwedd:Tegla Gyda'r Glannau.JPG|200px|bawd|Clawr ''Gyda'r Glannau'', nofel gan [[E. Tegla Davies]] (1941), y bumed gyfrol yn y gyfres]]
Cyhoeddwyd 44 o gyfrolau yn y gyfres clawr papur. Dyma nhw yn nhrefn eu cyhoeddi:
Cyhoeddwyd 44 o gyfrolau yn y gyfres clawr papur. Dyma nhw yn nhrefn eu cyhoeddi:
#''Deg Pregeth'' (amryw)
#''Deg Pregeth'' (amryw)

Fersiwn yn ôl 22:59, 12 Medi 2020

Llyfrau'r Dryw
Mathcyhoeddwr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1940 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoly fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Sefydlwydwyd ganAneirin Talfan Davies Edit this on Wikidata

Tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o fyd cyhoeddi llyfrau Cymraeg o'r 1940au hyd y 1970au oedd Llyfrau'r Dryw.

Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies. Cyfres o lyfrau bach clawr papur yn y Gymraeg, dan yr argraffnod Llyfrau'r Dryw, ar bynciau amrywiol oedd man cychwyn y cyhoeddwyr. Eu bwriad oedd 'cyflenwi llyfrau clawr papur rhad i'r werin gan awduron o safon'. Ymhlith yr awduron hynny oedd Edward Tegla Davies, Kate Bosse-Griffiths, Sarnicol, R. T. Jenkins, William Ambrose Bebb, T. Gwynn Jones, Thomas Jones, Ifor Williams, Alwyn D. Rees ac E. Morgan Humphreys. Straeon ac ysgrifau ar bynciau amrywiol a geid yn y rhan fwyaf o'r cyfrolau yn y gyfres, gydag ambell eithriad fel casgliad o hwiangerddi Cymraeg gan Eluned Bebb. Chwareai'r llyfrau poblogaidd hyn ran bwysig yn adfywio'r farchnad llyfrau Cymraeg yn y 1950au, pan wynebai argyfwng oherwydd diffyg deunydd darllen poblogaidd.

Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn 1952. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y 1950au a'r 1960au yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol Crwydro Cymru, sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol Barn, yn Gymraeg, a Poetry Wales yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y 1970au a daeth yn rhan o Gwmni Christopher Davies (Abertawe), mab Alun Talfan Davies sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg.

Roedd argraffdy'r cwmni wedi ei sefydlu yn Llandybie. Daeth Emlyn Evans yn rheolwr ar y wasg yn 1957 ond fe ymddiswyddodd adeg anghydfod cyhoeddi Ieuenctid yw 'Mhechod gan John Rowlands. Dilynwyd ef gan Dennis Rees a dilynwyd yntau ddechrau'r 70au gan John Phillips.

Cyfres Llyfrau'r Dryw

Clawr Gyda'r Glannau, nofel gan E. Tegla Davies (1941), y bumed gyfrol yn y gyfres

Cyhoeddwyd 44 o gyfrolau yn y gyfres clawr papur. Dyma nhw yn nhrefn eu cyhoeddi:

  1. Deg Pregeth (amryw)
  2. Catiau Cwta, Sarnicol
  3. 1940, W. Ambrose Bebb
  4. Darlun a chân, Nantlais
  5. Gyda'r Glannau, Edward Tegla Davies
  6. Storïau Gwallter Map, addaswyd gan R. T. Jenkins
  7. Hen Ddwylo, E. Llwyd Williams
  8. Sgweier Hafila, T. Hughes Jones
  9. Y Baradwys Bell, W. Ambrose Bebb
  10. Aneswyth Hoen, Kate Bosse-Griffiths
  11. Jones y Plisman, John Aelod Jones
  12. Hwiangerddi'r Wlad, gol. Eluned Bebb
  13. Cerrig Milltir, Thomas Jones
  14. Storïau o'r Rwsieg, cyf. T. Hudson Williams
  15. Cerddi'r Hogiau, W. D. Williams
  16. Cyfrinach yr Ogof, T. Glyndwr Jones
  17. 1941, W. Ambrose Bebb
  18. Adfeilion, Alwyn D. Rees
  19. David Lloyd George, E. Morgan Humphreys
  20. Dechrau'r Daith, Edward Tegla Davies
  21. Cwlwm y Dialydd, G. E. Breeze
  22. Tua'r Cyfnos, E. Llwyd Williams
  23. Cap y Cythraul, J. R. Lloyd-Hughes
  24. Brithgofion, T. Gwynn Jones
  25. Yr Ysgol Sul, W. Ambrose Bebb
  26. Coed Tân a storïau eraill (amryw)
  27. Gweddïau, gol. y Parch. D. Tecwyn Evans
  28. Lampau'r Hwyr, Elfed
  29. Ffynhonnau Elim, Idris Thomas
  30. Meddwn i, Ifor Williams
  31. Yr Aelwyd, Gwenda Gruffudd
  32. Cap Wil Tomos, Islwyn Williams
  33. Y Gŵr Drws Nesaf, J. Ellis Williams
  34. Crefydd heddiw ac yfory, Dr. Martin Lloyd Jones
  35. Straeon y Meirw, Jac L. Williams
  36. Straeon J.E.. J. E. Williams
  37. Chwedlau Dau Fynydd, Gomer M. Roberts
  38. Y Dillad Sy'n Gwneud y Dyn, Tom P. Williams
  39. Y Diafol i Dalu, W. D. P. Davies
  40. Gadael Tir, W. Ambrose Bebb
  41. Cofio Doe, D. Perry Jones
  42. Detholiad o adroddiadau, gol. Trebor Lloyd Evans
  43. Blodeugerdd o Englynion, gol. Aneirin Talfan Davies
  44. Storïau Moelona, Moelona