Yr Eglwys Gatholig Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Aledwg (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Yn yr 16g digwyddodd; y diwygiad Protestannaidd, [[y Chwil-lys]], trafferthion gyda brenin [[Lloegr]] ac wedyn y gwrth-ddiwygiad. |
Yn yr 16g digwyddodd; y diwygiad Protestannaidd, [[y Chwil-lys]], trafferthion gyda brenin [[Lloegr]] ac wedyn y gwrth-ddiwygiad. |
||
Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn [[Protestaniaeth]]. Gorffennodd hynny gydag Ail Gyngor y |
Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn [[Protestaniaeth]]. Gorffennodd hynny gydag [[Ail Gyngor y Fatican]] rhwng yr 11 Hydref 1962 – yr 8fed Rhagfyr1965 ac wedyn o dan arweinyddiaeth [[Pab Ioan Pawl II]] (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth [[Pab Ffransis]] (Jorge Maria Bergoglio). |
||
== Nifer == |
== Nifer == |
Fersiwn yn ôl 14:45, 31 Awst 2020
Yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu yn fyr yr Eglwys Gatholig, yw'r enwad Cristionogol fwyaf yn y byd, gyda thros biliwn o aelodau yn perthyn iddi. Mae'n cael ei harwain gan y Pab, sef Esgob Rhufain. Yn Rhufain mae pencadlys yr Enwad fyd-eang, y Fatican, ac oddi yno y caiff ei rheoli.
Hanes
Yn ôl y traddodiad sefydlwyd yr Eglwys gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd enw Simon i Pedr, a dywedodd taw ar y graig hon fyddai ef yn sefydlu ei Eglwys. Yn ystod y 4g O.C., daeth Cristnogaeth yn brif grefydd yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn sgil cwymp yr ymerodraeth a'r Oesoedd Canol cynnar, anfonodd yr Eglwys Gatholig nifer fawr o genhadon i Ewrop a thramor. Ond wedi troad y mileniwm cododd ffrae rhwng rannau gorllewinol a dwyreiniol yr Ymerodraeth, ac felly datblygodd ddwy ran i'r Eglwys, a ffurfiwyd yr Eglwys Uniongred o'r rhan ddwyreiniol. Llewyrchai'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol.
Yn yr 16g digwyddodd; y diwygiad Protestannaidd, y Chwil-lys, trafferthion gyda brenin Lloegr ac wedyn y gwrth-ddiwygiad.
Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn Protestaniaeth. Gorffennodd hynny gydag Ail Gyngor y Fatican rhwng yr 11 Hydref 1962 – yr 8fed Rhagfyr1965 ac wedyn o dan arweinyddiaeth Pab Ioan Pawl II (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth Pab Ffransis (Jorge Maria Bergoglio).
Nifer
Mae yna tua 1,085,557,000 o Gatholigion yn y byd, gan gynnwys 5,700,000 ym Mhrydain a 58,000,000 yn UDA.