Ynysoedd y Falklands: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


Tiriogaeth sydd ym mherchnogaeth [[y Deyrnas Unedig]] yw '''Ynysoedd y Falklands''' neu '''Ynysoedd Malvinas''' ({{iaith-en|Falkland Islands}}, {{iaith-es|Islas Malvinas}}). Mae'r ynysoedd wedi eu lleoli yn [[hemisffer y de]] yng [[Cefnfor yr Iwerydd|Nghefnfor yr Iwerydd]], yn agos at [[yr Ariannin]]. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn [[Rhyfel y Falklands]]. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.
Tiriogaeth sydd ym mherchnogaeth [[y Deyrnas Unedig]] yw '''Ynysoedd y Falklands''' neu '''Ynysoedd Malvinas''' ({{iaith-en|Falkland Islands}}, {{iaith-es|Islas Malvinas}}). Mae'r ynysoedd wedi eu lleoli yn [[hemisffer y de]] yng [[Cefnfor yr Iwerydd|Nghefnfor yr Iwerydd]], yn agos at [[yr Ariannin]]. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn [[Rhyfel y Falklands]]. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.

[[Delwedd:Flag of the Falkland Islands.svg|bawd|dim|Baner]]


== Enw ==
== Enw ==

Fersiwn yn ôl 20:22, 27 Awst 2020

Ynysoedd y Malvinas
Mathynysfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFalkland Sound, Sant-Maloù Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,932 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd y Malvinas Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
GerllawDe Cefnfor yr Iwerydd, Argentine Sea, Falkland Sound Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8°S 59.52°W Edit this on Wikidata
Map

Tiriogaeth sydd ym mherchnogaeth y Deyrnas Unedig yw Ynysoedd y Falklands neu Ynysoedd Malvinas (Saesneg: Falkland Islands, Sbaeneg: Islas Malvinas). Mae'r ynysoedd wedi eu lleoli yn hemisffer y de yng Nghefnfor yr Iwerydd, yn agos at yr Ariannin. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn Rhyfel y Falklands. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.

Baner

Enw

Daw enw Ynysoedd y Falklands o Swnt Falkland, y sianel rhwng y ddwy brif ynys, a gafodd ei enwi ar ôl Anthony Cary, 5ed Is-iarll Falkland gan y Capten John Strong a laniodd ar yr ynysoedd ym 1690. Daw'r enw Malvinas o'r enw Ffrangeg Iles malouines, oherwydd dyfodiad llawer o deithwyr o Sant-Maloù yn Llydaw. Enwir y ddinas honno, yn ei thro, am Sant Malo o Lancarfan, Bro Morgannwg.

Hanes

Darganfuwyd yr ynysoedd gan y Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw Falkland iddynt, ar ôl trysorydd y Llynges ar y pryd. Ym 1764, sefydlodd Ffrainc wladfa ar Ddwyrain Falkland ac enwi’r ynysoedd Les Iles Malouines. Ym 1765, sefydlodd Prydain gaer ar Ynys Saunders yn y gogledd orllewin. Ym 1766, trosglwyddodd Ffrainc Les Iles Malouines i Sbaen ac addaswyd yr enw yn Sbaeneg i Las Islas Malvinas. Ym 1774, rhoddodd y Saeson y gorau i Ynys Saunders. Ym 1816, hawliwyd Las Malvinas gan wladwriaeth newydd yr Ariannin a sefydlwyd presenoldeb milwrol yno rhwng 1820 ac 1833. Ym 1833, taflwyd yr Archentwyr allan ac ailfeddiannwyd y Falklands gan Brydain. Mae’r ynysoedd wedi aros yn Brydeinig hyd heddiw. I gadarnhau hawl Prydain i’r Falklands, cafodd nifer o bobl o Brydain eu perswadio i ymgartrefu ar yr ynysoedd. Mae poblogaeth yr ynysoedd heddiw (ac eithrio milwyr) tua 2,931 (2016).