Gwenlyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→top: Gwybodlen wd |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Bywgraffiad== |
==Bywgraffiad== |
||
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref [[Deiniolen]] (neu [[Llanbabo]]), [[Gwynedd]]. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn |
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref [[Deiniolen]] (neu [[Llanbabo]]), [[Gwynedd]]. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.<ref name=":0" /> |
||
Cafodd ei addysg yng [[Coleg Normal, Bangor|Ngholeg y Normal, Bangor]]. Ar ôl cyfnod yn [[Llundain]] lle daeth i adnabod [[Rhydderch Jones]] a [[Ryan Davies]] a chyfnod fel athro ym [[Bethesda|Methesda]], cafodd swydd fel sgiptiwr gyda [[BBC Cymru]]. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal [[Caerdydd]] ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent [[Pen-y-groes]], Gwynedd. |
Cafodd ei addysg yng [[Coleg Normal, Bangor|Ngholeg y Normal, Bangor]]. Ar ôl cyfnod yn [[Llundain]] lle daeth i adnabod [[Rhydderch Jones]] a [[Ryan Davies]] a chyfnod fel athro ym [[Bethesda|Methesda]], cafodd swydd fel sgiptiwr gyda [[BBC Cymru]]. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal [[Caerdydd]] ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent [[Pen-y-groes]], Gwynedd. |
Fersiwn yn ôl 22:37, 21 Awst 2020
Gwenlyn Parry | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1932 Deiniolen |
Bu farw | 5 Tachwedd 1991 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr |
Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (8 Mehefin 1932 - 5 Tachwedd 1991).[1]
Bywgraffiad
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref Deiniolen (neu Llanbabo), Gwynedd. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.[1]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.
Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam[2]. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.
Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).
Bywyd personol
Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy a roedd ganddynt ddau ferch, Sian Elin (ganwyd 1969) a Catrin Lynwen (ganwyd 1971). Yna fe briododd Ann Beynon a cafodd merch a mab o'i ail briodas.
Dramâu
- Tair Drama (1965)
- Y Ddraenen Fach (1961)
- Poen yn y Bol (1963)
- Hwyr a Bore (1964)
- Saer Doliau (1966)
- Tŷ ar y Tywod (1968)
- Y Ffin (1973)
- Y Tŵr (1978)
- Sál (1982)
- Panto (1986)
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Llyfr 'The Writers of Wales' gan Roger Owen; JSTOR; Adalwyd 5 Ionawr 2016
- ↑ Gwenlyn Parry, BBC Cymru Bywyd; Adalwyd 5 Ionawr 2016