Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ogof Paviland"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 34 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
[[Ogof]] cynhanesyddol ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] yw '''Ogof Paviland'''. Yn gywirach mae'n gyfres o ogofâu cysylltiedig a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Oes yr Hen Gerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[arth|eirth]].
 
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Oes yr Hen Gerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ochre'' coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (''Homo sapiens sapiens'') hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.
 
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen [[callestr]], sydd efallai i'w dyddio i'r [[cyfnod Aurignasiaidd]].
37,236

golygiad

Llywio