Yr Eglwys Gatholig Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KamikazeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: ml:കത്തോലിക്ക സഭ
Llinell 87: Llinell 87:
[[mg:Fiangonana Katolika]]
[[mg:Fiangonana Katolika]]
[[mk:Римокатоличка црква]]
[[mk:Римокатоличка црква]]
[[ml:കത്തോലിക്കാ സഭ]]
[[ml:കത്തോലിക്ക സഭ]]
[[mr:कॅथलिक चर्च]]
[[mr:कॅथलिक चर्च]]
[[ms:Gereja Katolik Rom]]
[[ms:Gereja Katolik Rom]]

Fersiwn yn ôl 07:31, 11 Medi 2011

Cyflwyniad

Yr Eglwys Gatholig (neu yr Eglwys Lân Gatholig) yw'r eglwys fwyaf yn y byd, gyda thros biliwn o aelodau yn perthyn iddi. Mae'n cael ei harwain gan y Pab, sef Esgob Rhufain. Yn Rhufain mae pencadlys yr Eglwys fyd-eang, y Fatican, ac oddi yno y caiff ei rheoli.

Hanes

Yn ôl y traddodiad cafodd yr Eglwys ei sefydlu gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd ef enw Simon i Pedr, a dywedodd taw ar y graig hon fyddai ef yn sefydlu ei Eglwys. Yn ystod y bedwaredd ganrif O.C., daeth Cristnogaeth yn brif grefydd yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn sgîl cwymp yr ymerodraeth, yn ystod yr oesoedd tywyll, fe danfonodd yr Eglwys Gatholig nifer fawr o genhadon i Ewrop a thramor. Ond wedi troad y mileniwm cododd ffrau rhwng rhannau gorllewinol a dwyreiniol yr Ymerodraeth, ac felly dwy ran yr Eglwys, ac fe ffurfiwyd yr eglwys Uniongred o'r rhan ddwyreiniol. Llewyrchai'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg digwyddodd nifer o bethau; y diwygiad Protestanaidd, y Chwil-lys, trafferthion gyda brenin Lloegr ac wedyn y gwrth-ddiwygiad. Yna bu bron pedair canrif trafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn Protestaniaeth ac yna Anghydffurfiaeth. Gorffennodd hynny gydag ail gyngor y Fatican yn saithdegau'r 20fed ganrif ac wedyn o dan arweinyddiaeth Pab Ioan Paul yr ail (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth Pab Bened XVI (Josef Ratzinger).

Nifer

Mae yna tua 1,085,557,000 o gatholigion yn y byd, yn cynnwys 5,700,000 ym Mhrydain ac 58,000,000 yn UDA.

Gweler hefyd


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol