Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bathseba"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 3 beit ,  9 mis yn ôl
B
B
Roedd gweithred Dafydd yn ddrwg yng ngolwg [[Duw]]. Anfonodd Duw Nathan y proffwyd i geryddu’r brenin. Mae Nathan yn adrodd hanes am ddyn cyfoethog oedd a llawer o [[Dafad|ddefaid]] a [[Buwch|gwartheg]] yn cymryd unig oen ei gymydog tlawd. <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+12%3A+1-6&version=BWM 2 Samuel 12: 1-6]</ref> Mae dicter y brenin yn erbyn gweithred anghyfiawn yn cael ei gyffroi. Yna cymhwysodd y proffwyd yr achos yn uniongyrchol i weithred Dafydd parthed Bathseba. Cyfaddefodd y brenin ei [[Pechod|bechod]] ar unwaith a mynegodd edifeirwch diffuant. Cafodd plentyn cyntaf Bathseba gan Dafydd ei daro â salwch difrifol a bu farw, yn ddienw, ychydig ddyddiau ar ôl ei eni, a derbyniodd y brenin hwn fel ei gosb. Nododd Nathan hefyd y byddai tŷ Dafydd yn cael ei gosbi am lofruddiaeth Ureias.
 
Yn ddiweddarach, esgorodd Bathseba ar fab Dafydd, Solomon. Yn henaint Dafydd, sicrhaodd Bathseba, yn seiliedig ar addewid Dafydd, yr olyniaeth i’r orsedd i Solomon, yn lle meibion hynaf Dafydd gan ei wragedd eraill a oedd wedi goroesi, megis Chileab <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+3%3A+1%E2%80%936&version=BWM 2 Samuel 3: 1–6]</ref>, Adoneia <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=+1+Brenhinoedd+1%3A+11%E2%80%9331&version=BWM 1 Brenhinoedd 1: 11–31]</ref> ac eraill. Daeth cosb Dafydd i ben flynyddoedd yn ddiweddarach pan arweiniodd un o hoff feibion Dafydd, Absalom, wrthryfel a blymiodd y deyrnas i ryfel cartref. Ar ben hynny, i amlygu ei honiad am y frenhinesfrenhiniaeth, cafodd Absalom gyfathrach rywiol yn gyhoeddus gyda deg o ordderch wragedd ei dad, y gellid ei hystyried fel cosb ar Dafydd am gymryd gwraig dyn arall yn y dirgel.<ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+16%3A+20%E2%80%9323&version=BWM 2 Samuel 16: 20–23]</ref>.
 
Goroesodd Bathsiba Dafydd ei gŵr a bu farw yn ystod teyrnasiad Solomon ei fab. <ref>[[iarchive:geiriadurbeiblai01jone/page/684/mode/2up|Mathetes, Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol (1864); tudalen: 684; erthygl:Bathseba]] adalwyd 16 Awst 2020</ref>

Llywio