Stumog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: lbe:ЦӀуму |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: av:Кванирукъ |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[ar:معدة]] |
[[ar:معدة]] |
||
[[arc:ܐܣܛܘܡܟܐ]] |
[[arc:ܐܣܛܘܡܟܐ]] |
||
[[av:Кванирукъ]] |
|||
[[ay:Puraka]] |
[[ay:Puraka]] |
||
[[az:Mədə]] |
[[az:Mədə]] |
Fersiwn yn ôl 06:23, 9 Medi 2011
Organ ar ffurf bag o gyhyrau ydy'r stumog, ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o famaliaid. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'r system dreulio. Daw o'r gair Lladin stomachus (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder". [1]
Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio'n bennaf ar stumogau dynol, er bod cryn debygrwydd rhyngddo â'r rhan fwyaf o anifeiliaid,[2] ar wahân i'r fuwch sy'n hollol wahanol.[3]
Ei bwrpas
Mae tri phrif bwrpas i'r stumog: lladd bacteria, torri'r darnau bwyd yn ddarnau llai er mwyn cael mwy o arwynebedd a chynnal y bwyd am oriau a'i ollwng yn araf ac yn gyson. Ceir hylif asidig cryf ynddo i wneud y gwaith hwn, asid hydroclorig ydy hwnnw gyda pH o rhwng 1 a 2 - yn dibynnu ar ffactorau megis pa ran o'r diwrnod ydyw, y swm o fwyd a fwytawyd, cynnwys arall megis cyffuriau a ffactorau eraill. Yn yr hylif hwn y torrir y moleciwlau mawr yn rhai llai, fel y rhan gyntaf o'r broses dreulio - cyn gwthio'r bwyd i'r cam nesaf sef y coluddyn bach. Mae'r stumog ddynol yn creu rhwng 2.2 a 3 litr o'r asid gastrig hwn y dydd. Mae mwy ohono'n cael ei greu fin nos nac yn y bore. Gall y stumog ddal rhwng 2 a 4 litr o fwyd, gan ymestyn pan fo raid.