Philippe Pétain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn dileu "Philippe_Pétain.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Jameslwoodward achos: Per commons:Commons:Deletion requests/File:Philippe Pétain.jpg.
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: br:Philippe Pétain
Llinell 1: Llinell 1:


Milwr [[Ffrancod|Ffrengig]] oedd '''Henri Philippe Pétain''' ([[24 Ebrill]] [[1856]] - [[23 Gorffennaf]] [[1951]]). Ef oedd pennaeth [[Llywodraeth Vichy]] yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]].
Milwr [[Ffrancod|Ffrengig]] oedd '''Henri Philippe Pétain''' ([[24 Ebrill]] [[1856]] - [[23 Gorffennaf]] [[1951]]). Ef oedd pennaeth [[Llywodraeth Vichy]] yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]].


Llinell 21: Llinell 19:
[[be:Анры Філіп Петэн]]
[[be:Анры Філіп Петэн]]
[[bg:Филип Петен]]
[[bg:Филип Петен]]
[[br:Philippe Pétain]]
[[bs:Philippe Pétain]]
[[bs:Philippe Pétain]]
[[ca:Henri Philippe Pétain]]
[[ca:Henri Philippe Pétain]]

Fersiwn yn ôl 23:12, 6 Medi 2011

Milwr Ffrengig oedd Henri Philippe Pétain (24 Ebrill 1856 - 23 Gorffennaf 1951). Ef oedd pennaeth Llywodraeth Vichy yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ymunodd a'r fyddin yn 1876 ac astudiodd yn Ysgol Filwrol Saint-Cyr. Daeth i sylw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan benododd y Cadlywydd Joseph Joffre ef i fod yn gyfrifol am fyddin Ffrainc ym Mrwydr Verdun. Llwyddodd y fyddin Ffrengig i wrthsefyll ymosodiad yr Almaenwyr, a daeth Pétain yn arwr cenedlaethol. Gwnaed ef yn Farsial bythefnos wedi diwedd y rhyfel.

Yn 1940, pan oedd yn 84 oed, cytunodd i weithredu fel pennaeth Llywodraeth Vichy, oedd yn gyfrifol am ran o Ffrainc fel gwladwriaeth hanner-annibynnol dan uwchlywodraeth yr Almaen wedi Brwydr Ffrainc. Ym mis Ebrill, 1945, wedi i Ffrainc gael ei rhyddhau, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth. Rhoddwyd ef ar ei brawf, ei gael yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth, ond oherwydd ei oedran a'i wasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, newidiodd Charles de Gaulle y ddedfryd i garchar am oes. Bu farw yn 95 oed yn y carchar ar yr Île d'Yeu.